Cyflwyniad

Mae gan yr Ombwdsmon bwerau cyfreithiol i ymchwilio i gwynion am gyrff cyhoeddus. Fodd bynnag, rydym yn annibynnol ac yn ddiduedd, ac ni allwn roi cyngor i chi ynglšn â sail eich cwyn na gweithredu ar eich rhan pan fyddwch yn gwneud cwyn.

Gall rhai pobl ddwyn budd o gyngor ynghylch sut i wneud cwyn a chymorth i wneud eu cwyn, neu, mewn rhai achosion, efallai y bydd y sawl sy’n cwyno am i rywun wneud cwyn ar ei ran.

 

Gwasanaethau cynghori

Mae nifer o wasanaethau cynghori ar gael. Mae rhai yn cynnig cyngor cyffredinol ar amrywiaeth o bynciau, er enghraifft, Cyngor ar Bopeth Cymru, ac mae rhai yn benodol i’r pwnc rydych chi’n cwyno amdano, er enghraifft, Cymorth Cynllunio Cymru.

Mae’n bosibl y bydd gwasanaethau cynghori yn cynnig cyngor dros y ffĂ´n, neu efallai y bydd ganddynt swyddfa y gallwch fynd iddi i drafod eich pryderon. Efallai y gallant roi gwybodaeth i chi am weithdrefnau neu wybodaeth am faterion cyfreithiol sy’n gysylltiedig â’ch pryderon.

 

Gwasanaethau eirioli

Gellir disgrifio eiriolwr fel rhywun sy’n gallu helpu’r sawl sy’n cwyno i wneud cwyn neu i ddeall y broses gwyno. Mae nifer o gyrff eirioli gwahanol sy’n cynnig ystod o wahanol wasanaethau. Mae’n bosibl y bydd ambell gorff yn cynnig gwasanaeth cynghori dros y ffĂ´n; efallai y bydd rhai eraill yn trefnu i gyfarfod â chi er mwyn trafod eich cwyn a rhoi cyngor i chi ynglšn â’r ffordd orau o’i chyflwyno. Gall cyrff eraill eich helpu i wneud eich cwyn.

Mae dau fath o wasanaeth eirioli ar gael. Bydd y math cyntaf o wasanaeth yn eiriol ar ran unrhyw un sy’n gwneud math penodol o gŵyn, er enghraifft, cwyn yn erbyn Bwrdd Iechyd Lleol. Mae’r math arall o wasanaeth yn un sy’n gweithredu ar ran pobl o fewn grwpiau, er enghraifft, pobl gydag anableddau dysgu neu broblemau iechyd meddwl.

 

Yr hyn gallwn ei wneud

Gallwn roi manylion cyswllt gwasanaethau cynghori neu eirioli perthnasol i chi.

 

Yr hyn na allwn ei wneud

Ni allwn weithredu fel cyswllt yn y canol rhyngoch chi a gwasanaeth cynghori neu eirioli.

 

Materion i gadw mewn cof

Mae nifer o “gyrff trydydd sector” (grwpiau di elw/gwirfoddol/elusennol) yn cynnig cyngor a chefnogaeth i’r rheini sydd angen eu gwasanaethau. Os ydych chi’n cael gwasanaethau gan gorff yn y trydydd sector yn barod, efallai y byddai’n syniad da i chi gysylltu â’r corff hwnnw i holi a oes ganddo wasanaeth eirioli.

 

Gwybodaeth bellach

Dyma enghreifftiau o wasanaethau cynghori/eirioli a allai eich helpu chi:
Cyngor ar Bopeth Cymru – gwasanaeth cynghori ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru. Gallant eich helpu i ddod o hyd i wasanaeth eirioli priodol. Gallwch gysylltu â nhw dros y ffôn ar 03444 772 020 neu ar y rhyngrwyd https://www.citizensadvice.org.uk/cymraeg/

Gall Llais roi cyngor a chefnogaeth wrth wneud cwyn. Gallwch gysylltu â nhw ar 02920 235 558 neu mae mwy o wybodaeth ar eu gwefan – www.llaiswales.org.

Cymorth Cynllunio Cymru – gall eich cynghori ynglŷn â’r system gynllunio yng Nghymru. Cysylltwch dros y ffôn ar 02920 625 004 neu ar y rhyngrwyd www.planningaidwales.org.uk

MIND Cymru – gall yr elusen hon roi help a chyngor ynglšn â phob math o faterion yn ymwneud ag iechyd meddwl, ac mae’n bosibl y gall eich cyfeirio at wasanaeth eirioli priodol. Cysylltwch dros y ffĂ´n ar 029 2039 5123 neu ar y rhyngrwyd www.mind.org.uk

Gingerbread – mae’r elusen hon yn cynnig cyngor a chefnogaeth i rieni sengl. Efallai y bydd modd iddi roi gwybodaeth am wasanaethau eirioli priodol i chi. Cysylltwch dros y ffôn ar 0808 802 0925 neu ar y rhyngrwyd www.gingerbread.org.uk

Hafal – mae’n cefnogi pobl sy’n dioddef yn sgil salwch meddwl difrifol. Cysylltwch dros y ffĂ´n ar 01792 816 600 neu ar y rhyngrwyd www.hafal.org

Advocacy Matters Wales – dyma elusen sy’n helpu oedolion ag anableddau dysgu neu syndrom Asperger. Cysylltwch drwy ffonio 02920 233 733 neu fynd ar y rhyngrwyd www.advocacymatterswales.co.uk

Gellir gweld rhestr fwy cyflawn o sefydliadau ar ein gwefan, ar y tab ‘Gwneud Cwyn’ o dan ‘Cyrff Cyngor ac Eiriolaeth.

Mae enghreifftiau o achosion yr ydym wedi edrych arnynt ar gael ar ein gwefan, o dan y tab ‘Cyhoeddiadau’ ar y dudalen ‘Ein Canfyddiadau’.

 

Cysylltu â ni

Os ydych chi’n ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203 neu ebostio holwch@ombwdsmon.cymru

 

Cysylltu â ni

Hawdd ei Ddarllen