Cyflwyniad

Mae’r Daflen Ffeithiau hon yn sôn am gwynion ynghylch gwahardd plant o’r ysgol. Dylid ei darllen ochr yn ochr â’n tudalen we ‘Sut i Gwyno’, sydd ar gael o dan y tab ‘Gwneud Cwyn’.

Mae penderfyniad i wahardd disgybl o’r ysgol yn cael ei wneud gan y pennaeth, a’i adolygu gan lywodraethwyr yr ysgol. Os cadarnheir y penderfyniad, ac mae’r gwaharddiad yn un parhaol, mae gennych hawl i apelio i banel apêl annibynnol. Os yw’r panel yn cadarnhau’r gwaharddiad, rhaid i’r cyngor lleol, fel yr Awdurdod Addysg Lleol, sicrhau bod y disgybl yn derbyn addysg arall sy’n addas.

 

Yr hyn gallwn ei wneud

Byddwn yn gallu edrych ar sut y deliodd y panel â’ch apêl. Gallai hyn gynnwys:

  • a wnaeth y panel ddilyn y gweithdrefnau cywir ai peidio, e.e. a oedd y panel wedi’i gyfansoddi’n iawn, ac yn annibynnol; a wnaethoch dderbyn y dystiolaeth y byddech yn dibynnu arni mewn da bryd cyn y gwrandawiad ai peidio;
  • a gafodd y gwrandawiad ei gynnal yn deg, e.e. a oeddech yn cael galw tystion; a wnaeth y panel fodloni ei hun: (a) bod y digwyddiadau a arweiniodd at y gwaharddiad wedi digwydd, ac os do, (b) mai gwahardd oedd y peth iawn i’w wneud.

Byddwn hefyd yn gallu edrych ar sut y deliodd yr Awdurdod Addysg Lleol â chi wedyn. Gallai hyn gynnwys:

  • cwyn na wnaeth yr Awdurdod Addysg ddarparu addysg llawn amser foddhaol arall yn ddigon buan, neu ddim o gwbl;
  • cwyn nad oedd yr addysg arall a ddarparwyd yn addas i alluoedd eich plentyn, i’w ddoniau ac i unrhyw anghenion addysgol arbennig;
  • cwyn ynghylch oedi yn setlo eich plentyn mewn ysgol newydd.

 

Yr hyn nad ydym yn gallu ei wneud

Ni fyddwn yn gallu: :

  • edrych ar y rheswm dros wahardd eich plentyn, nac ar unrhyw beth yn ymwneud â disgyblaeth yn yr ysgol, nac ar faterion cyflogaeth yng nghyswllt aelodau o’r staff.
  • mynd yn groes i benderfyniad y pennaeth, y llywodraethwyr neu’r panel apĂŞl.
  • gorchymyn yr ysgol neu’r Awdurdod Addysg Lleol i adael i’ch plentyn ddychwelyd i’r ysgol, neu i roi eich plentyn mewn ysgol arall.

 

Materion i gadw mewn cof

Fel arfer, byddwn yn disgwyl i chi fod wedi cyflwyno sylwadau yn erbyn y gwaharddiad i’r llywodraethwyr cyn cwyno iddo ef. Fodd bynnag, efallai na fydd gennych hawl bob tro i gyflwyno eich achos yn bersonol i’r llywodraethwyr.

Nid oes gennych hawl i apelio i banel apêl annibynnol mewn achos lle mae’r gwaharddiad yn un am dymor penodol.

Os byddwn yn canfod rhywbeth o’i le gyda’r ffordd y deliodd y panel gyda’ch apêl, byddwn efallai yn gofyn i banel newydd glywed eich apêl eto.

Os oedd yr Awdurdod Addysg Lleol ar fai mewn rhyw ffordd, efallai y byddwn yn gofyn iddo wneud iawn am unrhyw ddiffygion drwy ddarparu addysg arall.

 

Gwybodaeth bellach

Mae’r ddogfen ganllawiau “Gwahardd o Ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion”, a gyhoeddwyd yn 2019, ar gael yn https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2019-11/gwahardd-o-ysgolion-unedau-cyfeirio-disgyblion.pdf

Mae gwybodaeth ddefnyddiol arall ar gael o dan yr adran addysg ar wefan Llywodraeth Cymru yn https://www.llyw.cymru/ymddygiad-a-disgyblaeth-yn-yr-ysgol

Mae’r Ganolfan Cyngor Addysgol (Advisory Centre for Education neu ACE) yn rhoi cyngor annibynnol i rieni a gofalwyr plant rhwng 5-16 oed mewn addysg wedi’i hariannu gan y wladwriaeth. Gallwch ffonio eu llinell gynghori ar 0300 0115 142 yn ystod y tymor rhwng 10am ac 1pm, o ddydd Llun i ddydd Mercher. Neu gallwch fynd i’w gwefan yn www.ace-ed.org.uk

Mae gwybodaeth, cyngor a chymorth hefyd ar gael oddi wrth Snap Cymru – www.snapcymru.org

Rydym yn annibynnol a di-duedd; ni allwn orchymyn cyrff cyhoeddus i wneud yr hyn yr ydym yn ei argymell – ond mewn gwirionedd maent yn gwneud hynny bron bob tro. Mae enghreifftiau o achosion yr ydym wedi edrych arnynt ar gael ar ein gwefan, o dan y tab ‘Cyhoeddiadau’ ar y dudalen ‘Ein Canfyddiadau’.

 

Cysylltu â ni

Os ydych yn ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203 neu ebostio holwch@ombwdsmon.cymru