SWYDDOG YMCHWILIO GRADDEDIG DAN HYFFORDDIANT
| Math o Gontract: | Parhaol |
| Patrwm gweithio: | Llawn amser/Hybrid – Pen-y-bont ar Ogwr/Gartref |
| Oriau Gwaith: | 37 awr yr wythnos |
| Cyflog: | Blwyddyn 1 £29,196
Blwyddyn 2 £32,292 Blwyddyn 3 £35,388 Blwyddyn 4 £39,519 Blwyddyn 5 ymlaen – cynyddrannau blynyddol hyd at £51,357 y flwyddyn |
| Math o Swyddogaeth: | Ymchwilio i Gwynion |
Ydych chi wedi graddio’n ddiweddar yn y Gyfraith, Gweinyddiaeth Gyhoeddus neu faes pwnc tebyg, neu a ydych chi wedi cwblhau eich astudiaethau eleni? Os mai “ydw” yw eich ateb i’r cwestiynau hyn a bod gennych ddiddordeb mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a sicrhau, pan fydd gwasanaethau’n methu, bod modd troi at system gwyno annibynnol, fe allai’r swydd hon fod yn addas i chi.
Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn awyddus i recriwtio dau Swyddog Ymchwilio Greddedig dan Hyfforddiant i ymgymryd â rhaglen ddatblygu bwrpasol dros pedair blynedd sy’n arwain at fod yn Swyddog Ymchwilio.
Mae Swyddogion Ymchwilio yn ymchwilio i gwynion oddi wrth aelodau’r cyhoedd am driniaeth annheg neu wasanaeth gwael oherwydd diffyg o ryw fath ar ran cyrff cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Bydd yr Ombwdsmon hefyd yn ymchwilio i gwynion bod Cynghorwyr mewn awdurdodau lleol yng Nghymru o bosib wedi torri Cod Ymddygiad statudol eu cyngor. Fel Swyddog Ymchwilio, byddwch yn canolbwyntio ar yr achosion mwyaf difrifol ac yn rheoli llwyth achosion sy’n amrywio o ran cymhlethdod, ar draws nifer o feysydd, gan ddarparu profiad da i gwsmeriaid. Byddwch yn:
- Dadansoddi gwybodaeth fanwl er mwyn cyrraedd a deall craidd y gŵyn
- Canfod a chael tystiolaeth yn brydlon
- Gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth, a chyflwyno’r penderfyniadau hyn mewn adroddiadau ysgrifenedig grymus
- Ymgysylltu’n effeithiol â’r achwynydd drwy gydol yr ymchwiliad
- Datrys achosion drwy ymgysylltu’n adeiladol
- Gweithio’n annibynnol a defnyddio awdurdod dirprwyedig i wneud penderfyniadau ar ran yr Ombwdsmon
Mae disgrifiad llawn a gwybodaeth ychwanegol ar gael ar y dudalen “Ymunwch â Ni” ar ein gwefan.
Am beth rydym ni’n chwilio
- Rhywun sydd wedi graddio’n ddiweddar neu a fydd yn graddio eleni yn y Gyfraith, Gweinyddiaeth Gyhoeddus neu faes pwnc tebyg
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol, ar lafar ac ar bapur
- Gallu a chymhelliant i gwblhau rhaglen ddatblygu dros pedair blynedd
- Rhywun sydd ag awydd i ddatblygu i fod yn Swyddog Ymchwilio
- Ar gyfer y rôl yn y Gymraeg, y gallu i wneud gwaith yn y Gymraeg (ysgrifenedig/llafar)
Beth yw’r manteision i chi
- Cyfle i ddatblygu sgiliau Swyddog Ymchwilio gyda swydd sicr fel Swyddog Ymchwilio ar ddiwedd y rhaglen pedair blynedd
- Rhaglen hyfforddi strwythuredig i ymestyn eich sgiliau a’ch galluoedd
- Cyfle i weithio gyda thîm gwych i wneud gwahaniaeth go iawn, gan ddarparu cyfiawnder ac arwain at welliannau
- Amrywiaeth o waith
- Cyflog cystadleuol sy’n cynyddu
- Lwfans gwyliau blynyddol o 32 o ddiwrnodau a gwyliau banc ar ben hynny
- Mae’r manteision eraill yn cynnwys; Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, cynllun oriau hyblyg, aelodaeth ratach o gampfa, cynlluniau prynu am bris gostyngol
- Cyfleusterau rhagorol ar y safle pan fyddwch yn gweithio ar y safle, a chyfarpar ar gyfer gweithio gartref
I wneud cais
Darllenwch y Pecyn Recriwtio a’r Disgrifiad Swydd. Ewch i’n gwefan (www.ombudsman.cymru) i gael mynediad at y pecyn recriwtio, a nodwch mai llenwi ein cais ni yw’r unig ffordd o wneud cais am y cyfle hwn.
Cyflwynwch eich Ffurflen Gais a’ch Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal drwy anfon ebost at: recruitment@ombudsman.wales erbyn 12yh 29 Gorffennaf 2026. Cofiwch fod gennym yr hawl i gau’r cyfle hwn yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.
Bydd yr ymatebion a roddwch yn y ffurflen gais yn cael eu defnyddio i lunio’r rhestr fer ar gyfer y swydd.
Mae’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal.
Mae amrywiaeth a chynhwysiant yn ganolog i bopeth a wnawn. Rydym wedi ymrwymo’n weithredol i hyrwyddo a chymryd rhan mewn arferion da yn y ffordd rydym yn denu, yn recriwtio ac yn cadw staff.
Rydym yn annog pawb i ddod â nhw eu hunain yn llwyr i’r gwaith oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi’r gwerth y mae gweithlu gwirioneddol amrywiol yn ei roi i sefydliad. Rydym yn dathlu gwahaniaeth, gan gydnabod y manteision a ddaw yn sgil hyn i’n diwylliant cynhwysol, gan gynnwys oed, anabledd, hunaniaeth o ran rhywedd a mynegiant, crefydd, hil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol a chefndir economaidd-gymdeithasol.