- Cyflog
- £32,064 – £33,699 (FTE) (dyfarniad cyflog yn yr arfaeth)
Rydym yn dymuno recriwtio Swyddog Cyfieithu i ddarparu gwasanaeth cyfieithu Cymraeg proffesiynol, effeithlon a chynaliadwy ar gyfer yr Ombwdsmon a swyddfa’r Ombwdsmon, gan ganolbwyntio ar waith o ddydd i ddydd, gwaith sy’n sensitif o ran amser ac sy’n flaenoriaeth, sicrhau ansawdd, a defnyddio cof cyfieithu ac offer iaith yn effeithiol i gefnogi cydymffurfiaeth â Safonau’r Gymraeg.
Y rôl:
- Drafftio a darparu cyfieithiadau ysgrifenedig o ansawdd uchel rhwng y Gymraeg a’r Saesneg (ac i’r gwrthwyneb) ar gyfer gohebiaeth sy’n sensitif o ran amser, cyfathrebu a chynnwys sy’n wynebu’r cyhoedd, gan gynnwys deunydd a ddaw gan achwynwyr a chyrff cyhoeddus, yn unol â gofynion statudol ac amserlenni y cytunwyd arnynt.
- Prawfddarllen cynnwys Cymraeg a Saesneg i sicrhau cywirdeb ieithyddol, eglurder, tôn, Cymraeg / Saesneg Clir a chysondeb ag arddull tŷ’r sefydliad.
- Sicrhau ansawdd cyfieithiadau a gomisiynir yn allanol er mwyn sicrhau’r derminoleg a’r arddull gywir a cydymffurfiaeth â safonau’r sefydliad.
- Cynnal, diweddaru a defnyddio terminoleg Gymraeg/Saesneg y cytunwyd arni, gan gynnwys rheoli geirfaoedd ac adnoddau cyfeirio.
- Rheoli a gwneud defnydd effeithiol o system cof cyfieithu’r sefydliad, gan gynnwys ôl-olygu ac adolygu cyfieithiadau a gynhyrchir gan beiriannau i safonau proffesiynol.
- Cefnogi llif gwaith cyfieithu effeithlon drwy reoli ceisiadau cyfieithu a gyflwynir drwy’r Hwb a chynghori ar derfynau amser realistig ar gyfer gwaith nad yw’n frys.
- Gweithio gyda’r tîm Cyfathrebu i sicrhau bod y Wefan Gymraeg a chynnwys y cyfryngau cymdeithasol yn gywir, yn amserol ac yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg.
- Rhoi arweiniad i’r tîm ehangach ar ddefnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg yn effeithiol wrth gynhyrchu dogfennau yn unol â Safonau’r Gymraeg.
- Arwain trefniadau gweinyddol ar gyfer comisiynu a rheoli gwasanaethau cyfieithu allanol.
- Darparu cymorth cyfieithu mewn cyfarfodydd a digwyddiadau ar-lein.
- Cefnogi cynlluniau i feithrin hyder i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle, gan gynnwys cyfrannu at hyfforddiant staff a gweithgareddau codi ymwybyddiaeth.
- Monitro datblygiadau mewn arferion cyfieithu, terminoleg a chanllawiau a gyhoeddir gan gyrff perthnasol yng Nghymru a chynghori ar y goblygiadau i’r sefydliad.
- Cymryd rhan mewn hyfforddiant perthnasol a digwyddiadau Cymraeg fel rhan o ddatblygiad proffesiynol parhaus.
- Unrhyw ddyletswyddau eraill, sy’n gymesur â’r raddfa, y sgiliau a’r profiad y disgwylir i ddeiliad y swydd feddu arnynt, y gall rheolwyr eu dyrannu o bryd i’w gilydd.
Hanfodol
- Cymhwyster cydnabyddedig mewn cyfieithu neu’r Gymraeg (lefel gradd neu gymhwyster proffesiynol cyfatebol), neu brofiad proffesiynol amlwg cyfatebol.
- Profiad amlwg o gyfieithu a/neu ôl-olygu Cymraeg/Saesneg i safon uchel.
- Rhuglder yn y Gymraeg ar lafar a sgiliau ysgrifenedig rhagorol yn y Gymraeg a’r Saesneg.
- Sgiliau prawf ddarllen a sicrhau ansawdd rhagorol.
- Gallu cwblhau cyfieithiadau’n gywir ac yn effeithiol, o fewn amserlenni tynn.
- Disgresiwn llwyr a dealltwriaeth o’r angen am gyfrinachedd.
- Sgiliau TG da, gan gynnwys profiad o offer cyfieithu.
- Sgiliau rhyngbersonol rhagorol, a gallu gweithio’n annibynnol ac ar y cyd.
- Profiad o ddarparu gwasanaeth sy’n deg ac yn gyfartal i bawb, waeth beth yw eu rhywedd, eu statws priodasol, eu hethnigrwydd, eu henwad crefyddol, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hanabledd neu eu hoed neu unrhyw ystyriaeth berthnasol arall.
Dymunol
- Gwybodaeth a dealltwriaeth eang o awdurdodaeth yr Ombwdsmon.
- Gallu cynnig gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
- Profiad o weithio / gweithredu mewn amgylchedd sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.
- Trwydded yrru lawn lân a cherbyd at eich defnydd, wedi’i yswirio ar gyfer defnydd busnes.
- Profiad blaenorol yn y sector cyhoeddus.
- Aelod o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru (cymdeithas cyfieithwyr a chyfieithwyr ar y pryd Cymru) neu barodrwydd i weithio at aelodaeth.
Tâl a Buddion
Cyflog: £32,064 – £33,699 (FTE) (dyfarniad cyflog yn yr arfaeth)
Pensiwn: Cynllun pensiwn y Gwasanaeth Sifil
Gwyliau: 32 diwrnod + gwyliau banc (pro rata)
Oriau: 21 yr wythnos, amser hyblyg llawn (1.5 diwrnod hyblyg ar gael y mis)
Lleoliad: Pen-y-bont ar Ogwr — 1–2 ddiwrnod yn y swyddfa, fel arall yn gwbl hyblyg