Gair gan yr Ombwdsmon
Croeso i 9fed rhifyn ein cylchlythyr, a Blwyddyn Newydd Dda!
Mae 2026 yn flwyddyn arbennig i’r swyddfa, gan nodi pen-blwydd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn 20 oed. Mae’n garreg filltir sy’n rhoi cyfle inni fyfyrio ar ddau ddegawd o gefnogi tegwch, dysgu o gwynion, a hyrwyddo ymddiriedaeth mewn gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru.
Daeth 2025 i ben gyda chyfnod prysur o adroddiadau budd y cyhoedd, gan ganolbwyntio’n benodol ar faterion tai a gofal iechyd, gan gynnwys pedwar adroddiad ar faterion tai cymdeithasol. Ym mis Tachwedd, fe wnaethom lansio ymgynghoriad i ymchwiliad arfaethedig ar ein liwt ein hunain ar ddiffyg atgyweirio tai cymdeithasol, lleithder a llwydni, a ddaeth i ben ddechrau mis Rhagfyr.
Gwelsom hefyd gyhoeddi adroddiadau allweddol y Senedd ar ein gwaith – ein hadroddiad craffu blynyddol ac adolygiad Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 – a byddwn yn tynnu sylw at y prif bwyntiau o’r rhain yn y rhifyn hwn.
Fel bob amser, byddwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am atgyfeiriadau Cod Ymddygiad, ein gwaith safonau cwynion, a’n gweithgareddau allgymorth. Gobeithiwn fod y rhifyn hwn yn rhoi darlun clir i chi o effaith ein gwaith a’r cynnydd rydym yn ei wneud i wella gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. Edrychwn ymlaen at 2026!
O fis Ebrill 2025 hyd at ddiwedd mis Rhagfyr, cawsom 7,989 o achosion newydd – o’r rhain, daeth 3,191 yn gwynion a wnaed yn briodol.
O’i gymharu â’r adeg hon y llynedd, gwelwn gynnydd mewn cwynion am wasanaethau cyhoeddus ac am y Cod Ymddygiad. Hyd yma cawsom 21% yn fwy o gwynion am wasanaethau cyhoeddus a 1% yn fwy o gwynion am y Cod Ymddygiad.
Caeasom hefyd 7,782 o achosion – gyda 3,028 ohonynt yn gwynion. Mae nifer y cwynion gwasanaethau cyhoeddus a gaewyd wedi cynyddu o 11%, ac mae nifer y cwynion Cod Ymddygiad a gaewyd wedi cynyddu 22%.
I weld crynodebau o gwynion y gwnaethom eu datrys yn gynnar neu ymchwilio iddynt, ewch i Ein Canfyddiadau.
Mae craffu blynyddol y Senedd ar ein Hadroddiad a’n Cyfrifon Blynyddol yn tynnu sylw at flwyddyn o berfformiad cryf yn erbyn cefndir o alw parhaol a chynyddol. Er gwaethaf cynnydd sylweddol yn y llwyth achosion ers 2019, caeasom fwy o gwynion nag erioed o’r blaen yn 2024-25 a gostyngom yr amser cyfartalog a gymerir i gwblhau ymchwiliadau, gan ragori ar dargedau ansawdd gwasanaeth.
Mae’r adroddiad hefyd yn nodi patrymau newidiol yn sut y mae pobl yn codi cwynion, gan gynnwys cynnydd mewn cyflwyniadau sy’n ymddangos fel pe baent wedi’u cynhyrchu gan ddefnyddio offer deallusrwydd artiffisial. Ochr yn ochr â hyn, mae gwell cyfeirio a gwaith datrys cynnar yn helpu i sicrhau bod achwynwyr yn derbyn cyngor priodol cyn gwneud eu cwyn i ni fel eu bod yn cyrraedd y corff cyhoeddus cywir ar yr adeg gywir. Mae’r Pwyllgor yn cydnabod tystiolaeth bod ein pwerau ataliol a systemig yn cael effaith amlwg, gan arafu twf cwynion a chyfrannu at ddulliau gwell o ymdrin â chwynion ar draws gwasanaethau cyhoeddus.
Er iddynt groesawu’r cynnydd hwn, mae’r Pwyllgor yn pwysleisio pwysigrwydd adnoddau cynaliadwy, llesiant staff ac ehangu gwaith gwella rhagweithiol, gan gynnwys ymchwiliadau ar ei liwt ei hun. At ei gilydd, mae’r adroddiad craffu’n adlewyrchu hyder yng nghyfeiriad teithio’r Ombwdsmon ac yn tanlinellu gwerth dull ataliol o ymdrin â chyfiawnder gweinyddol yng Nghymru, sy’n canolbwyntio ar y system.
Gallwch ddarllen adroddiad llawn y Pwyllgor yma.
Mae Pwyllgor Cyllid y Senedd bellach wedi cwblhau ei adolygiad ôl-ddeddfwriaethol o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019, gan ganfod bod y ddeddfwriaeth yn parhau i fod yn addas at y diben ac yn cael ei gweld fel model o arfer da yn rhyngwladol.
Cryfhaodd y Ddeddf, a gyflwynwyd yn 2019, rôl yr Ombwdsmon yn sylweddol drwy gyflwyno pwerau newydd, gan gynnwys y gallu i dderbyn cwynion ar wahân i rai ysgrifenedig, i lansio ymchwiliadau ar ei liwt ei hun, i osod safonau cwynion ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru, ac i ystyried rhai cwynion sy’n ymwneud â gofal iechyd a ariennir yn breifat.
Cydnabu’r Pwyllgor fod y pwerau hyn wedi galluogi’r Ombwdsmon i fabwysiadu dull mwy rhagweithiol, hygyrch a chynhwysol, a’u bod wedi cael croeso eang gan ddefnyddwyr gwasanaethau, cyrff cyhoeddus a sefydliadau’r trydydd sector.
Er iddynt gymeradwyo effeithiolrwydd cyffredinol y fframwaith, nododd y Pwyllgor feysydd lle byddai datblygiad pellach yn helpu i sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn parhau i gyflawni er budd pobl Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys gwella ymwybyddiaeth a mynediad at y gwasanaeth, mireinio prosesau ymchwilio ar ei liwt ei hun, parhau ag arfer da wrth ymdrin â chwynion drwy ddatblygu safonau’n barhaus, ac archwilio – ynghyd â Llywodraeth Cymru – oblygiadau ymestyn cylch gwaith yr Ombwdsmon i gynnwys cwynion am ysgolion.
Yn ei hymateb, croesawodd yr Ombwdsmon argymhellion y Pwyllgor a chadarnhaodd y byddant yn llywio blaenoriaethau’r dyfodol, gan gynnwys datblygu Cynllun Strategol ein swyddfa ar gyfer 2026–29.
Rhwng mis Awst a Rhagfyr, rydym wedi cyhoeddi 7 adroddiad budd y cyhoedd.
Cyfeirnod achos 202401728 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Cwynodd Ms A, ar ran 7 o achwynwyr, fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi rhoi’r gorau i ddarparu gwasanaeth arbenigol priodol i gleifion epilepsi oedd ag anabledd dysgu.
Canfuom nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi adolygu’r cleifion ar ei restrau mewn modd amserol, ac nad oedd wedi darparu darpariaeth amgen ddigonol ychwaith i ddiwallu eu hanghenion, pan ddaeth ei Wasanaeth Epilepsi Anableddau Dysgu i ben ym mis Mehefin 2021. Canfuom hefyd nad oedd llwybr priodol a hygyrch ar waith o hyd, 4 blynedd yn ddiweddarach, i sicrhau bod anghenion y grŵp hwn o gleifion yn cael eu diwallu’n ddigonol.
Argymhellom y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i’r achwynwyr a chymryd camau ar unwaith i fwrw ymlaen â’i gynlluniau i weithredu llwybr gofal Epilepsi Anabledd Dysgu clir a hygyrch, gan sicrhau y gall pob claf gael mynediad at ofal sy’n addas i’w hanghenion. Argymhellom hefyd y dylai’r Bwrdd Iechyd osod amserlenni clir ar gyfer pob cynllun gweithredu, darparu diweddariadau manwl i bob un o’r saith achwynydd, ac adolygu pob rhestr o gleifion epilepsi Anabledd Dysgu.
Canfyddiadau llawn yr adroddiad yma.
Cyfeirnod achos 202404828 – Cyngor Caerdydd
Cwynodd Ms C am gyflwr yr eiddo a oedd yn ei rentu gan Gyngor Caerdydd.
Nododd ein hymchwiliad fethiannau difrifol yn y gwasanaeth a gafodd effaith ddinistriol ar Ms C a’i theulu. Collodd y Cyngor nifer o gyfleoedd dros bron i 4 blynedd i ymchwilio’n briodol i achosion y gollyngiad dŵr a’r lleithder a’r llwydni a’u datrys. Erbyn mis Mawrth 2024 roedd yr eiddo wedi mynd i gyflwr adfeiliedig ofnadwy. Roedd darnau helaeth o lwydni du ledled yr eiddo ac roedd llawer iawn o ddŵr yn gollwng trwy dwll mawr yn nenfwd y gegin ac yn rhaeadru dros ffitiadau trydanol byw i arwynebeddau ac unedau.
Argymhellom fod Cyngor Caerdydd yn ymddiheuro i Ms C ac yn talu iawndal o £3,000 iddi. Dylai’r Cyngor hefyd atgoffa staff yn yr Uned Atgyweiriadau Ymatebol i drin pob tenant â pharch a thrugaredd, yn enwedig o ran atgyweiriadau cymhleth a phroblemau gyda lleithder a llwydni.
Gofynnwyd i’r Cyngor hefyd ddarparu tystiolaeth o ganlyniadau adolygiadau a chynlluniau gweithredu, gan gynnwys ymatebion i’r adroddiad thematig ar ddiffyg atgyweirio a lleithder, ac i nodi unrhyw denantiaid eraill yr effeithiwyd arnynt gan faterion systemig a thalu iawndal lle bo angen. Yn olaf, dylai’r Cyngor gynnal asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb o’i bolisïau atgyweirio a lleithder a llwydni.
Canfyddiadau llawn yr adroddiad yma.
Cyfeirnod achos 202401983 – Cyngor Sir y Fflint
Cwynodd Miss Y am y ffordd yr oedd ei landlord, Cyngor Sir y Fflint, wedi ymateb i adroddiadau am leithder a llwydni yn ei chartref ac a oedd wedi cymryd camau priodol i ddarparu llety arall.
Canfu ein hymchwiliad fethiant gan y Cyngor i nodi bod Miss Y wedi gwneud nifer o geisiadau atgyweirio ynghylch yr un mater. Deliwyd â’i cheisiadau atgyweirio ar wahân. Ymwelodd swyddogion â chartref Miss Y ar sawl achlysur i fynd i’r afael â phroblemau newydd, tra bod ceisiadau atgyweirio blaenorol yn parhau i fod heb eu datrys. Fel y cyfryw, collwyd llawer o gyfleoedd i nodi lleithder a llwydni a chynnal gwaith i fynd i’r afael â hyn.
Argymhellom fod y Cyngor yn ymddiheuro i Miss Y a thalu iawndal iddi. Dylai’r Cyngor hefyd sicrhau bod swyddogion Tai a Chymunedau yn cwblhau gwaith papur yn gywir ac yn cysylltu â Miss Y i gadarnhau unrhyw waith sydd heb ei wneud, gan gynnwys amserlen gwblhau glir. Yn ogystal, dylai’r Cyngor ddatblygu prosesau i nodi, cofnodi ac uwchgyfeirio ceisiadau atgyweirio a godwyd dro ar ôl tro.
Roedd argymhellion pellach yn canolbwyntio ar wella gweithdrefnau mewnol. Roedd y rhain yn cynnwys creu canllawiau ar gyfer penodi Swyddogion Cyswllt Tenantiaid, datblygu polisi adleoli mwy penodol, ac adolygu gweithdrefnau ar gyfer cynnal a chofnodi archwiliadau cyn gosod.
Canfyddiadau llawn yr adroddiad yma.
Cyfeirnod achos 202402960 – Trivallis
Cwynodd Mr B am sut y deliodd y gymdeithas dai Trivallis ag adroddiadau am atgyweiriadau yn ei gartref. Ymchwiliom i ganfod a oedd y Gymdeithas wedi ymateb yn briodol i adroddiadau am leithder a llwydni a boeler wedi torri.
Canfu ein hymchwiliad nad oedd y Gymdeithas wedi ymateb yn briodol i adroddiadau am leithder a llwydni yng nghartref Mr B. Pan adroddodd Mr B am broblemau i’r Gymdeithas, ni chawsant eu trin yn unol â pholisïau a chanllawiau perthnasol. O ganlyniad, bu’n rhaid i Mr B fyw mewn cartref gyda gwaith atgyweirio heb ei wneud am bron i 7 mlynedd.
Canfyddiadau llawn yr adroddiad yma.
Cyfeirnod achos 202405250 – Trivallis
Cwynodd Mrs C ynghylch a oedd Trivallis wedi ymateb yn briodol i adroddiadau am leithder a llwydni a wnaed ganddi rhwng Tachwedd 2023 a’r presennol.
Canfu ein hymchwiliad nad oedd y Gymdeithas wedi ymateb yn briodol bob amser i adroddiadau am leithder a llwydni. Nid oedd adroddiadau am broblemau yng nghartref Mrs C bob amser wedi cael eu gweithredu’n brydlon nac yn unol â pholisïau perthnasol. Canfuom hefyd nad oedd cyfathrebu’r Gymdeithas â hi bob amser yn briodol ac nad oedd anghenion ei hwyresau anabl wedi’u hystyried yn glir.
Ar gyfer yr achos hwn ac achos 202402960 uchod, gwnaethom nifer o argymhellion tebyg. Gofynnwyd i’r Gymdeithas ymddiheuro i’r achwynwyr a thalu iawndal, a sicrhau bod yr holl staff perthnasol yn derbyn hyfforddiant i nodi ac ymateb yn briodol i gwsmeriaid sy’n agored i niwed, gan gynnwys hyfforddiant yn seiliedig ar senarios i gymhwyso gwersi o’r achosion hyn.
Argymhellom hefyd iddynt ddatblygu a gweithredu gweithdrefn glir ar gyfer lleithder a llwydni, gan gynnwys archwilio a mynd i’r afael ag unrhyw leithder yn eiddo Mrs C, a sefydlu prosesau i nodi, cofnodi ac uwchgyfeirio ceisiadau atgyweirio a wneir dro ar ôl tro, yn ogystal â dadansoddi gwybodaeth o synwyryddion eiddo ar leithder a llwydni. Yn ogystal, cynghorwyd y Gymdeithas i adolygu eu prosesau ar reoli cofnodion i sicrhau cydymffurfiaeth â’n hegwyddorion “Materion yn Ymwneud â Rheoli Cofnodion yn Dda”, ac i rannu’r adroddiadau hyn gyda Phwyllgor Sicrwydd y Gymdeithas.
Canfyddiadau llawn yr adroddiad yma.
Cyfeirnod achos 202400797 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Cwynodd Ms A am oedi’r Bwrdd Iechyd mewn perthynas â llawdriniaeth clun ei thad, Mr B. Ystyriodd yr ymchwiliad a oedd llawdriniaeth clun Mr B wedi’i gohirio oherwydd rhesymau gweinyddol, yn hytrach na rhesymau clinigol.
Canfuom fod Mr B wedi cael ei dynnu oddi ar y rhestr aros am lawdriniaeth orthopedig, heb iddo gael gwybod am hynny. Nid oedd y rheswm dros hyn yn glir o gofnodion y Bwrdd Iechyd. Roeddem yn bryderus na roddwyd gwybod i Mr B ei fod wedi cael ei dynnu oddi ar y rhestr (fel sy’n ofynnol gan ganllawiau cenedlaethol), a bod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag unioni’r sefyllfa am ymhell dros flwyddyn er bod cwynion wedi eu gwneud iddo.
Gwnaethom nifer o argymhellion i’r Bwrdd Iechyd. Roedd y rhain yn cynnwys ymddiheuro i Ms A a Mr B, talu iawndal i Mr B, a darparu tystiolaeth ei fod wedi archwilio ei restrau aros ar gyfer llawdriniaethau a rhestrau cleifion a drosglwyddwyd i sicrhau nad oedd unrhyw gleifion eraill wedi’u hesgeuluso yn yr un modd na’u tynnu’n oddi arnynt ar gam. Hefyd, gofynnwyd i’r Bwrdd Iechyd rannu’r adroddiad gyda’i Fwrdd.
Canfyddiadau llawn yr adroddiad yma.
Cyfeirnod achos 202407678 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Cwynodd Mr W ynglŷn â’r oedi wrth aros i gael llawdriniaeth i gael pen-glin newydd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, yr oedd wedi bod yn aros i’w chael ers Awst 2019.
Canfuom fod cloc amser aros Mr W wedi’i ailosod yn amhriodol ym mis Hydref 2023. Ni chafodd y penderfyniad i ailosod y cloc amser aros hefyd ei gyfleu i Mr W a dim ond pan wnaeth gŵyn y daeth yn ymwybodol o hynny. O ganlyniad i’r oedi, profodd Mr W boen, llai o symudedd a rhwystredigaeth barhaus. Yn ogystal â hyn, o ganlyniad i’r oedi, nid oedd yn gallu bwrw ymlaen â llawdriniaeth, gan olygu y collwyd y cyfle i gael llawdriniaeth.
Roedd ein hargymhellion i’r Bwrdd Iechyd yn cynnwys ymddiheuro i Mr W a rhannu’r adroddiad gyda’r staff. Gofynnwyd hefyd i’r Bwrdd Iechyd benodi person annibynnol i ail-archwilio’r rhestr aros orthopedig, darparu hyfforddiant i staff i sicrhau bod canllawiau AiD yn cael eu cymhwyso’n gywir, a rhannu’r adroddiad gyda’r Bwrdd.
Canfyddiadau llawn yr adroddiad yma.
Ym mis Tachwedd, lansiom ymgynghoriad ar bwnc ein hymchwiliad ar ein liwt ein hun nesaf.
Mae’r dystiolaeth a welsom yn ein gwaith achos diweddar yn awgrymu bod tenantiaid tai cymdeithasol yng Nghymru, yn enwedig y rhai y gellid eu hystyried yn agored i niwed, yn wynebu problemau o ran sut mae darparwyr tai cymdeithasol yn ymateb i adroddiadau a chwynion sy’n ymwneud â diffyg atgyweirio, lleithder a llwydni. Yn ystod 2024-2025, gwnaethom ymyrryd yn gynnar mewn 79 o achosion yn ymwneud â’r achosion hyn. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gwelsom gynnydd mewn cwynion am dai cymdeithasol yn gyffredinol, gydag ychydig dros 19% o gwynion newydd yn 2024-2025 yn ymwneud â’r materion hyn.
Ar hyn o bryd, ystyriwn a allai fod yn briodol cynnal ymchwiliad(au) ar ein liwt ein hun i’r maes hwn. Mae ymchwiliadau ar ei liwt ei hun yn caniatáu i ni ymchwilio i faterion hyd yn oed heb dderbyn cwyn, lle mae pryderon y gallai gwasanaethau cyhoeddus fod wedi methu, y gallai’r mater gael effaith negyddol ar grŵp eang o ddinasyddion (yn enwedig os ydynt yn agored i niwed neu dan anfantais); ac y byddai ymchwilio er budd y cyhoedd.
Cawsom 37 o ymatebion i’n hymgynghoriad gan gynnwys gan denantiaid tai cymdeithasol, darparwyr tai cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, sefydliadau cyngor, eiriolaeth a chymorth y trydydd sector a phartïon eraill â diddordeb. Roedd y mwyafrif helaeth o’r ymatebion a gawsom yn cytuno y byddai ymchwilio i’r maes hwn er budd y cyhoedd, gan dynnu sylw at y cyfle i ddysgu a gwella ymhellach.
Cwestiynodd rhai ymatebwyr a’i dyma’r adeg briodol ar gyfer ymchwiliad o’r fath, yn enwedig gyda newidiadau arfaethedig i Safon Ansawdd Tai Cymru, a fydd yn effeithio ar sut mae darparwyr tai cymdeithasol yn ymateb i beryglon gan gynnwys lleithder a llwydni, a ddaw i rym ar 1 Ebrill 2026. Fodd bynnag, nid welodd ymatebwyr eraill hyn fel rhwystr i ymchwiliad, gan gyfeirio yn hytrach at y ffaith ei fod yn ategu’r newidiadau hyn ac yn cynorthwyo eu gweithrediad. Caiff dadansoddiad llawn o’r holl ymatebion a gafwyd ei gynnal ar hyn o bryd. Gwneir penderfyniad yn gynnar yn 2026 ynghylch a ddylid bwrw ymlaen â chynnig ymchwiliad ffurfiol i ymchwilio i gorff neu gyrff.
Cadwch lygad ar ein gwefan am unrhyw ddiweddariadau yn y dyfodol ynghylch yr ymchwiliad arfaethedig hwn.
Parhawn i ganolbwyntio ar leihau’r amser a gymerir i gwblhau ein hymchwiliadau. Hyd yn hyn eleni, rydym wedi cau 65 o ymchwiliadau, llawer mwy nag yr ydym wedi’i wneud dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac mae 5 wedi arwain at atgyfeiriad naill ai at bwyllgor safonau neu Banel Dyfarnu Cymru.
Cynhaliwyd dau wrandawiad ers diwedd mis Medi. Gallwch weld crynodeb ohonynt isod:
Cyfeirnod achos 202108695
Derbyniom gŵyn bod Cyn-Aelod o Gyngor Tref y Waun wedi torri’r Cod Ymddygiad.
Honnwyd bod y Cyn-Aelod wedi gweithredu heb awdurdod ac yn amhriodol mewn perthynas â 2 gais grant ar wahân ar ran y Cyngor, a oedd yn cynnwys gwybodaeth ffug a chamarweiniol.
Canfu ein hymchwiliad fod ymddygiad y Cyn Aelod yn awgrymu torri paragraff 6(1)(a) o’r Cod Ymddygiad. Cyfeiriwyd yr adroddiad ar yr ymchwiliad at Bwyllgor Safonau Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, a ganfu fod y Cyn-Aelod wedi methu â chydymffurfio â’r Cod a phenderfynodd mai ceryddu oedd y sancsiwn priodol.
Mae’r penderfyniad yn amodol ar apêl.
Cyfeirnod achos 202309568
Derbyniom gŵyn fod Aelod o Gyngor Gwynedd wedi torri’r Cod Ymddygiad.
Honnwyd bod yr Aelod wedi derbyn Rhybuddiad Amodol am “Dwyll drwy gamddefnyddio swydd” drwy geisio twyllo ei gyflogwr, drwy gamddefnyddio arian.
Canfu ein hymchwiliad y gellid ystyried yn rhesymol fod rhybuddiad amodol a chamymddygiad yr Aelod wedi dwyn anfri ar ei swydd fel aelod a’i Gyngor Sir ac, felly, ei fod yn awgrymu torri paragraff 6(1)(a) o’r Cod Ymddygiad. Cyfeiriwyd yr adroddiad ar yr ymchwiliad at Banel Dyfarnu Cymru, i’w ddyfarnu gan dribiwnlys. Canfu’r tribiwnlys fod yr Aelod wedi methu â chydymffurfio â’r Cod a phenderfynodd mai’r sancsiwn priodol oedd gwahardd yr Aelod rhag gweithredu fel aelod ar gyfer unrhyw awdurdod perthnasol am gyfnod o 3 blynedd.
Mae’r penderfyniad yn amodol ar apêl.
Mae ein tîm Awdurdod Safonau Cwynion wedi bod yn parhau â’u gwaith gyda chymdeithasau tai i’w dwyn nhw o dan yr Awdurdod Safonau Cwynion yn ffurfiol. Bellach, mae gennym 21 o Gymdeithasau Tai yn gweithredu o dan y Safonau a 5 cymdeithas arall sydd bellach i gyd wedi dechrau eu cyfnod 6 mis i adolygu eu polisïau, i sicrhau bod eu casglu data yn briodol ac i dderbyn hyfforddiant.
Ymgysylltwn hefyd â’r 6 chymdeithas sy’n weddill, sy’n golygu y bydd pob un yn dechrau’r broses cyn diwedd y flwyddyn ariannol.
Hoffem ddiolch i bob sefydliad sydd wedi gweithio gyda ni dros y 12 mis diwethaf i gyflawni hyn ac edrychwn ymlaen at barhau gyda’r rheini i gyd o dan y Safonau, sydd hefyd yn cynnwys pob awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd ac Ymddiriedolaethau, er mwyn darparu gwasanaethau cwynion cyson i’r cyhoedd ledled Cymru.
Mae deddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i bob corff cyhoeddus gael ei ddwyn o dan y Safonau Cwynion ac mae gwaith bellach yn dechrau i gynllunio sut y byddwn yn cyflwyno Safonau Cwynion i gyrff eraill y sector cyhoeddus yn ystod 2026 a thu hwnt.
Mae ein Hadroddiad Cynaliadwyedd diweddaraf yn tynnu sylw at gynnydd parhaus o ran lleihau effaith amgylcheddol ein gweithrediadau, ochr yn ochr â mwy o dryloywder yn sut rydym yn mesur ac yn adrodd ar ein perfformiad.
Yn ystod 2024–25, gwnaethom leihau’r defnydd o drydan ar draws ein swyddfa o 25%, wedi’i yrru gan ôl troed swyddfa lai a gosod systemau aerdymheru mwy effeithlon o ran ynni. Arweiniodd hyn at ostyngiad cyfatebol mewn allyriadau carbon.
Gwnaethom hefyd wella ein perfformiad gwastraff, gan ailgylchu 84% o’r holl wastraff a gynhyrchwyd yn ystod y flwyddyn, o’i gymharu â 72% y flwyddyn flaenorol. Cafodd yr holl wastraff na ellir ei ailgylchu ei ddargyfeirio o safleoedd tirlenwi, ac roedd y cynnydd mewn ailgylchu yn adlewyrchu i raddau helaeth y gwaredu cyfrifol o hen offer TG. Mae digideiddio parhaus o’n gwaith yn helpu i leihau’r defnydd o bapur a gwastraff yn ehangach.
Mae cynaliadwyedd yn parhau i fod wedi’i wreiddio yn ein cynllunio strategol a’n prosesau gwneud penderfyniadau sy’n gysylltiedig â’r swyddfa. Mae gweithio hybrid yn parhau i chwarae rhan allweddol o leihau’r defnydd o ynni, tra bod dulliau gwell o gasglu data yn cryfhau cywirdeb ein hadroddiadau carbon.
Gan edrych yn ein blaenau, parhawn i fod wedi ymrwymo i gynnal defnydd is o ynni a gwastraff, ac i annog staff i chwarae eu rhan i leihau’r effaith amgylcheddol.
Darllenwch yr adroddiad yma.
Buom yn brysur gydag allgymorth i orffen y flwyddyn! Dyma’r digwyddiadau y gwnaethom eu mynychu i godi ymwybyddiaeth o’n gwaith ac i gysylltu ag amrywiaeth o gymunedau:
Ffair Iechyd Cymunedau Lleiafrifol Ethnig
Ar 29 Hydref, gwnaethom fynychu Ffair Iechyd Cymunedau Lleiafrifol Ethnig yng Nghaerdydd, a gynhaliwyd gan Gyngor Trydydd Sector Caerdydd. Rhoddodd ein stondin gyfle gwych i ymgysylltu â phobl o gymunedau amrywiol a allai fod yn llai cyfarwydd â’n gwasanaeth neu’n teimlo bod rhwystrau’n bodoli i wneud cwyn. Roedd y digwyddiad yn caniatáu i ni godi ymwybyddiaeth o sut y gallwn eu cefnogi ac i hyrwyddo hyder o ran cael mynediad i’n gwasanaethau.


Cynhadledd TPAS Cymru
Ar 12–13 Tachwedd, mynychom Gynhadledd TPAS Cymru yn Llandrindod, lle’r oedd ein stondin yn brysur ac yn boblogaidd iawn. Cynhaliodd yr Ombwdsmon weithdy yn archwilio pwy ydym ni, beth rydym yn ei wneud, a sut rydym yn cefnogi tenantiaid, a ysgogodd drafodaeth fywiog a chwestiynau ac adborth meddylgar. Roedd y digwyddiad yn arbennig o amserol, gan gyd-fynd â’n hymgynghoriad ar ei liwt ei hun a’n hadroddiadau diddordeb cyhoeddus diweddar, ac edrychwn ymlaen at barhau â’r sgwrs ac at glywed rhagor o safbwyntiau tenantiaid drwy’r ymatebion i’n hymgynghoriad.
Ffair Gwasanaethau Allanol Tŷ’r Cyffredin
Ar 18 Tachwedd, treuliom y diwrnod yn Ffair Gwasanaethau Allanol gyntaf erioed Gweinyddiaeth Tŷ’r Cyffredin, ochr yn ochr ag amrywiaeth o Adrannau’r Llywodraeth, Ombwdsmyn a sefydliadau allanol. Rhoddodd y digwyddiad gyfle gwerthfawr i ymgysylltu’n uniongyrchol ag ASau a’u swyddfeydd, i godi ymwybyddiaeth o’n rôl, ac i egluro sut y gallwn eu cefnogi gyda gwaith achos etholaethol. Cawsom sgyrsiau agored ac adeiladol, gan dynnu sylw at ein prosesau a hyrwyddo’r sesiynau hyfforddi a gynigiwn i helpu ASau a’u staff i ddeall yn well sut rydym yn gweithio.