Roedd rhywfaint o’r achosion hyn yn dal i ymwneud â digwyddiadau a fu yn ystod pandemig Covid-19 ac yn ystod y mesurau a’r cyfyngiadau a gyflwynwyd i ddiogelu iechyd y cyhoedd.  Gan barhau â’r thema a gyflwynwyd yn y blynyddoedd blaenorol, mae’r cyhoeddiad yn cynnwys 2 achos sy’n ymwneud â chymhwyso’r weithdrefn ‘Na cheisier dadebru cardio-anadlol (‘DNACPR’).

Yn ogystal, mae nifer o achosion pellach yn ymwneud â gofal iechyd a thai yn amlygu sut y gallai methiannau gan ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus fod wedi ymwneud  â dyletswyddau hawliau dynol, neu’r egwyddorion FREDA o Degwch, Parch, Cydraddoldeb, Urddas ac Ymreolaeth – gwerthoedd craidd sy’n sail i hawliau dynol.

Mae’r detholiad yn y coflyfr hefyd yn cynnwys rhai cwynion sy’n ymwneud â dyletswyddau cydraddoldeb – yn bennaf, y ddyletswydd i gynnig addasiadau rhesymol i bobl anabl. Fodd bynnag, mae hefyd un enghraifft o gŵyn yn ymwneud â gwasanaethau i bobl draws.

Dywedodd Michelle Morris, yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

Fel rydw i’n ei wneud bob blwyddyn, mae’n rhaid i mi bwysleisio nad ein rôl yw dod i’r casgliad bod hawliau dynol rhywun wedi’u torri, neu eu bod wedi dioddef gwahaniaethu. Mater i’r llysoedd yw hynny.  Fodd bynnag, gwelwn yn ein gwaith achos bob dydd fod materion hawliau dynol a chydraddoldeb yn aml yn anwahanadwy oddi wrth bobl yn cael eu trin yn annheg ac yn dioddef anghyfiawnder. Felly, os gwelwn fod hawliau dynol neu hawliau cydraddoldeb rhywun wedi’u hymgysylltu yn yr achosion a ystyriwn, byddwn yn datgan hynny’n glir yn ein casgliadau ac yn gwneud argymhellion priodol.

Cyhoeddwn y Coflyfr hwn i godi ymwybyddiaeth o’n hagwedd at faterion hawliau dynol a chydraddoldeb yn ein gwaith achos, ond hefyd i hyrwyddo gwelliant mewn gwasanaethau cyhoeddus. Am y rheswm hwn, rydym hefyd yn cynnwys nifer o gwynion na wnaethom eu cadarnhau. Credwn fod hyn yn bwysig i esbonio ein hymagwedd at achosion o’r fath yn well, ynghyd â thynnu sylw at arfer gweinyddol cywir gan y cyrff yr ymchwiliwyd iddynt.

Roeddem yn falch o weld ein gwaith i hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yn cael ei gydnabod yn gyhoeddus eleni gan Gyd Bwyllgor Hawliau Dynol Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi, yng nghyd-destun ymchwiliad y Pwyllgor hwnnw i rinweddau sefydlu Ombwdsmon Hawliau Dynol. Daeth yr ymchwiliad i gasgliad, ar sail y gwaith a wneir ar hyn o bryd gan ein swyddfa a’n chwaer sefydliadau, na fyddai gwerth sefydlu cynllun ar wahân.  Gobeithiwn y bydd y detholiad a gyflwynir yn y Coflyfr hwn yn helpu i barhau i godi ymwybyddiaeth o’n hymdrechion i hyrwyddo ac amddiffyn hawliau dynol a hawliau cydraddoldeb y bobl sy’n defnyddio gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

I ddarllen ein Coflyfr Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, cliciwch yma.