Cipolwg ar yr ymgynghoriad

Rydym eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod pobl yn cael eu trin yn gyfartal ac yn deg pan fyddant yn defnyddio ein gwasanaeth ac yn gweithio i ni.  Mae’n rhaid i ni hefyd gydymffurfio â’n dyletswyddau o dan y Ddeddf Gydraddoldeb 2010 a dyletswyddau cydraddoldeb penodol yng Nghymru. O dan y dyletswyddau hynny, rhaid i ni baratoi Cynllun Cydraddoldeb ac Amcanion a’u hadolygu o leiaf bob pedair blynedd.

Dechreuodd ein Cynllun Cydraddoldeb blaenorol ym mis Hydref 2019 a daeth i ben yn 2022, ond gwnaethom ei ymestyn i fis Mawrth 2023. Rydym nawr yn cynnig Amcanion Cydraddoldeb newydd, sy’n cyd-fynd â’n Cynllun Strategol newydd, a lansiom ym mis Ebrill 2023.

Rydym yn gwahodd pob grŵp i rannu eu barn gyda ni am ein Cynllun Cydraddoldeb ac Amcanion arfaethedig.

I weld manylion llawn yr ymgynghoriad, cliciwch yma.

Ein Cynllun arfaethedig

Am fersiwn llawn y Cynllun arfaethedig cliciwch yma.

Am fersiwn Hawdd ei Deall, cliciwch yma.

Sut i ymateb

Gallwch ymateb

Trwy’r post:

 

Tîm Cyfathrebu, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, 1 Ffordd yr Hen Gae, Pencoed, CF35 5LJ
Trwy e-bost: cyfathrebu@ombwdsmon.cymru
Dros y ffôn: 0300 790 0203 (dewiswch ddewis 3)
Trwy ffurflen ar-lein: cliciwch yma

Daw’r ymgynghoriad hwn i ben ar 16 Hydref 2023.