Er mwyn agor y ddogfen ymgynghori fel PDF, cliciwch yma.

Cipolwg ar yr ymgynghoriad

Rydym eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod pobl yn cael eu trin yn gyfartal ac yn deg pan fyddant yn defnyddio ein gwasanaeth ac yn gweithio i ni.  Mae’n rhaid i ni hefyd gydymffurfio â’n dyletswyddau o dan y Ddeddf Gydraddoldeb 2010 a dyletswyddau cydraddoldeb penodol yng Nghymru. O dan y dyletswyddau hynny, rhaid i ni baratoi Cynllun Cydraddoldeb ac Amcanion a’u hadolygu o leiaf bob pedair blynedd.

Dechreuodd ein Cynllun Cydraddoldeb blaenorol ym mis Hydref 2019 a daeth i ben yn 2022, ond gwnaethom ei ymestyn i fis Mawrth 2023. Rydym nawr yn cynnig Amcanion Cydraddoldeb newydd, sy’n cyd-fynd â’n Cynllun Strategol newydd, a lansiom ym mis Ebrill 2023.

Rydym yn gwahodd pob grŵp i rannu eu barn gyda ni am ein Cynllun Cydraddoldeb ac Amcanion arfaethedig.

Am fersiwn llawn y Cynllun arfaethedig cliciwch yma.

Am fersiwn Hawdd ei Deall, cliciwch yma.

 

Gallwch ymateb

Trwy’r post:

 

Tîm Cyfathrebu, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, 1 Ffordd yr Hen Gae, Pencoed, CF35 5LJ
Trwy e-bost: cyfathrebu@ombwdsmon.cymru
Dros y ffôn: 0300 790 0203 (dewiswch ddewis 3)
Trwy ffurflen ar-lein: cliciwch yma

 

Daw’r ymgynghoriad hwn i ben ar 16 Hydref 2023.

 

Cyd-destun 

Roedd ein Cynllun Cydraddoldeb blaenorol yn cwmpasu’r cyfnod rhwng 2019 a 2022. Nododd 11 o Amcanion Cydraddoldeb, yn ymwneud â sut rydym yn darparu ein gwasanaeth cwynion, sut rydym yn ymgorffori ystyriaethau cydraddoldeb i’n gwaith gwella a sut rydym yn gweithio fel cyflogwr. Gallwch ddod o hyd i’r Cynllun hwnnw yma.

Yn 2020, datblygom hefyd ein Siarter Hil ac Ethnigrwydd yn y Gwaith. Gwnaethom hynny yn erbyn y cefndir o brotestiadau Mae Bywydau Du o Bwys i gryfhau ein cyfraniad tuag at gydraddoldeb hil, cyfiawnder a chynhwysiant yng Nghymru. Roedd y Siarter yn cynnwys rhai camau pellach a manylach i gefnogi ein hachwynwyr a’n staff o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig.  Gallwch ddod o hyd i’r Siarter honno yma.

Yn 2022, gwnaethom ymestyn y Cynllun a’r Siarter am flwyddyn, wrth i ni ddechrau gweithio ar ein Cynllun strategol newydd, sy’n gosod cyfeiriad y swyddfa ar gyfer 2023-2026.

Cwblhasom nifer o gamau gweithredu yr oeddem wedi ymrwymo iddynt o dan y Cynllun a’r Siarter.  Er enghraifft, gwnaethom wella’r ffordd rydym yn casglu data cydraddoldeb, a dechreuasom sgyrsiau newydd a defnyddiol gyda sefydliadau ledled Cymru sy’n cynrychioli cymunedau sydd yn anaml yn cwyno wrthym.  Gwnaethom ddiweddaru ein gweithdrefn Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb a dechreuasom ei chymhwyso wrth gynllunio ein hymchwiliadau ar ein liwt ein hunain.  Gwnaethom leihau cyfartaledd a chanolrif ein Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau yn sylweddol.  Gwnaethom hefyd gynyddu amrywiaeth ethnig ein gweithlu a’n Panel Ymgynghorol.

Fodd bynnag, ni welsom yr effaith yr oeddem am ei weld ym mhob maes. Ni fu newid amlwg ym mhroffil ein hachwynwyr yn ystod oes y Cynllun. Mae rhai grwpiau yn parhau heb gynrychiolaeth ddigonol ymhlith ein staff – er enghraifft, ychydig iawn o bobl sy’n nodi eu bod yn anabl. Gwyddom hefyd y gallwn wneud mwy i sicrhau nad oes unrhyw grwpiau yn wynebu rhwystrau wrth ddefnyddio ein gwasanaeth.

 

Ein Cynllun Cydraddoldeb newydd

Datblygom ein Cynllun Cydraddoldeb newydd i gefnogi’r gwaith o gyflawni ein Cynllun Strategol newydd 2023-2026 a’i genhadaeth: i gael effaith gadarnhaol ar bobl a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Rydym am strwythuro ein gwaith o dan y Cynllun Cydraddoldeb newydd yn seiliedig ar yr egwyddorion canlynol:

 

Targededig a gyda ffocws Nid oes gennym y capasiti na’r adnoddau i gyrraedd pob cymuned nac i fynd i’r afael â phob maes y gallem o bosibl ei wella. Rhaid i ni dargedu a blaenoriaethu ein gwaith o dan y cynllun hwn ar sail ein dealltwriaeth o’r meysydd sydd angen y sylw mwyaf a lle gallwn gael yr effaith fwyaf.
Yn canolbwyntio ar effaith  

Deallwn ei bod weithiau yn anodd canfod effaith ein gwaith ac mewn llawer o feysydd, efallai mai dim ond dylanwadu ar newid y gallwn ei wneud. Fodd bynnag, byddwn yn dryloyw am effaith bwriadol ein gwaith o dan y Cynllun hwn a byddwn yn glir am sut y bwriadwn ei fesur.  Bob blwyddyn, byddwn yn cynnwys y camau gweithredu a’r targedau perthnasol o dan y Strategaeth hon yn ein Cynllun Busnes a byddwn yn monitro ein perfformiad.

Symlach  

Mae ein Cynllun Cydraddoldeb yn gydnaws â, ac mewn rhai ffyrdd yn ailadrodd y camau gweithredu o dan ein dogfennau strategol eraill – er enghraifft, ein Strategaeth Pobl  a’n Strategaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu. Mae hyn yn sicrhau ein bod yn rhoi sylw i gydraddoldeb ledled ein gwaith ond nad ydym yn dyblygu ein hymdrechion.  Bydd ein Cynllun Cydraddoldeb newydd hefyd yn integreiddio rhai camau gweithredu o’n Siarter Hil ac Ethnigrwydd yn y Gweithle gyfredol.

 

Rydym yn cynnig 7 Amcan Cydraddoldeb sy’n cyd-fynd â Nodau ein Cynllun Strategol:

 

Nod Strategol 1: Cyflawni cyfiawnder sy’n cael effaith gadarnhaol ar bobl a gwasanaethau cyhoeddus 1.       Sicrhau ein bod yn cefnogi pobl ag anghenion mynediad ychwanegol i ddefnyddio ein gwasanaeth cwynion.

2.     Helpu i wella ein gwasanaethau a’n heffaith trwy ymgysylltu’n well â grwpiau cydraddoldeb.

Nod Strategol 2: Cynyddu hygyrchedd a chynhwysiant 3.     Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r swyddfa a’i rôl a’i phwerau ymhlith grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ymhlith ein hachwynwyr.

4.     Cynnal a datblygu gwybodaeth mwy hygyrch sy’n esbonio pwy ydym ni a sut rydym yn gweithio.

Nod Strategol 3: Cynyddu effaith ein gwaith gwella rhagweithiol

 

5.     Trwy ein rôl Safonau Cwynion, ceisio dylanwadu yn gadarnhaol ar hygyrchedd prosesau cwynion lleol.
Nod Strategol 4: Sicrhau ein bod yn sefydliad iach, effeithlon ac atebol. 6.     Gweithio i wella cynrychiolaeth grwpiau targed ledled ein gweithlu.

7.      Parhau i fonitro ein Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau a nodi unrhyw gyfleodd i’w leihau ymhellach.

 

Am fersiwn llawn y Cynllun arfaethedig cliciwch yma.

Am fersiwn Hawdd ei Deall, cliciwch yma.

 

Cwestiynau’r Ymgynghoriad

A ydych chi’n cytuno â’r egwyddorion sy’n llywio ein Cynllun Cydraddoldeb newydd (targededig a gyda ffocws; yn canolbwyntio ar effaith; symlach)?

A ydych chi’n cytuno â’r Amcanion yr ydym wedi’u nodi? Cynhwyswch unrhyw sylwadau neu adborth ar bob Amcan.

  • Sicrhau ein bod yn cefnogi pobl ag anghenion mynediad ychwanegol i ddefnyddio ein gwasanaeth cwynion
  • Helpu i wella ein gwasanaethau a’n heffaith trwy ymgysylltu’n well â grwpiau cydraddoldeb
  • Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r swyddfa a’i rôl a’i phwerau ymhlith grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ymhlith ein hachwynwyr
  • Cynnal a datblygu gwybodaeth mwy hygyrch sy’n esbonio pwy ydym ni a sut rydym yn gweithio
  • Trwy ein rôl Safonau Cwynion, ceisio dylanwadu yn gadarnhaol ar hygyrchedd prosesau cwynion lleol
  • Gweithio i wella cynrychiolaeth grwpiau targed ledled ein gweithlu
  • Parhau i fonitro ein Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau a nodi unrhyw gyfleodd i’w leihau ymhellach

 A oes gennych unrhyw sylwadau ar ein hymagwedd arfaethedig at sut y byddwn yn:

  • monitro ein gwaith o dan y Cynllun hwn
  • nodi, yn casglu ac yn cyhoeddi gwybodaeth berthnasol
  • asesu a monitro effaith polisïau ac arferion a chyhoeddi unrhyw adroddiadau asesu
  • hyrwyddo gwybodaeth ac ymwybyddiaeth staff o’n dyletswyddau cydraddoldeb a nodi anghenion hyfforddi mewn perthynas â’r dyletswyddau hynny.

Pa effeithiau y gallai’r Cynllun Cydraddoldeb arfaethedig ei gael ar y Gymraeg ac, yn benodol, ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac wrth beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg?

Sut y gellid hybu effeithiau cadarnhaol ar y Gymraeg, neu liniaru effeithiau negyddol?

A oes gennych unrhyw sylwadau eraill ar ein Cynllun Cydraddoldeb arfaethedig?

 

Sut i ymateb

Gallwch ymateb

Trwy’r post:

 

Tîm Cyfathrebu, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, 1 Ffordd yr Hen Gae, Pencoed, CF35 5LJ
Trwy e-bost: cyfathrebu@ombwdsmon.cymru
Dros y ffôn: 0300 790 0203 (dewiswch ddewis 3)
Trwy ffurflen ar-lein: cliciwch yma

 

Diolch i chi am roi o’ch amser i ymateb i’r ymgynghoriad. Bydd eich adborth yn ein helpu i sicrhau ein bod yn gwneud popeth a allwn i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhopeth a wnawn. Edrychwn ymlaen at eich sylwadau.

Daw’r ymgynghoriad hwn i ben ar 16 Hydref 2023.