Wrth i’r Ombwdsman newydd, Michelle Morris, ddod i’r swydd ym mis Ebrill y llynedd, lansiodd y gwaith o ddiffinio’r set newydd o flaenoriaethau ar gyfer ei chyfnod yn y swydd. Gwnaethom edrych ar ystod eang o dystiolaeth – ein tueddiadau gwaith achos, monitro cydraddoldeb, ac ymchwil barn rhanddeiliaid. Yn ogystal, gwnaethom ymgynghori yn fewnol a chynnal ymgynghoriad allanol ar y Cynllun Strategol arfaethedig.

Tynnodd y dystiolaeth hon sylw at rai cyfleoedd ond hefyd heriau sy’n wynebu ein swyddfa.

Mae nifer y cwynion sy’n cyrraedd ein swyddfa yn cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn. Nid yw rhai cymunedau amrywiol yn gwybod amdanom gystal ag y dylent ac anaml y byddant yn cwyno wrthym. Fel pob sefydliad sector cyhoeddus yng Nghymru, rydym hefyd yn wynebu heriau economaidd ac mae angen i ni addasu i ffyrdd newydd, hyblyg o weithio.

I fynd i’r afael â’r heriau hyn a rhai eraill, ynghyd â chael effaith ystyrlon a pharhaol, mae’n rhaid i ni fabwysiadu ffyrdd newydd o weithio a rhoi cynnig ar atebion newydd.

Mae ein Cynllun newydd yn datgan yn glir mai ein huchelgais yw sicrhau’r canlynol:

  • Mae pobl Cymru yn teimlo bod gwasanaethau cyhoeddus yn eu trin yn deg ac yn ymateb pan aiff pethau o chwith.
  • Mae gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn gwrando ar unigolion ac yn defnyddio eu cwynion i ddysgu a gwella.
  • Mae ymddiriedaeth yn llywodraeth leol Cymru i gyflawni’r safonau uchaf o ymddygiad.
  • Mae’r swyddfa ei hun yn parhau i fod yn llais dylanwadol ac uchel ei barch o ran gwella gwasanaethau cyhoeddus.

Byddwn yn gwireddu’r uchelgeisiau hyn drwy ddilyn pedwar Nod Strategol:

  • Cyflawni cyfiawnder sy’n cael effaith gadarnhaol ar bobl a gwasanaethau cyhoeddus
  • Cynyddu hygyrchedd a chynhwysiant
  • Ehangu ein gwaith gwella rhagweithiol
  • Sicrhau ein bod yn sefydliad iach, effeithlon ac atebol.

Rydym yn gwybod bod angen i ni wneud mwy i ddangos sut yr ydym yn gwneud gwahaniaeth. Dyma pam rydym yn esbonio ar gyfer pob un o’n Nodau newydd sut y byddwn yn gwybod bod ein gwaith wedi cael effaith gadarnhaol ar bobl a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, a pha dystiolaeth y byddwn yn edrych arni i fesur llwyddiant.

Os ydym am gael effaith gadarnhaol barhaol ar y bobl, gwasanaethau cyhoeddus a llywodraeth leol yn y Gymru ôl-bandemig newydd, nid yw busnes fel arfer yn ddewis. Mae’r Cynllun hwn yn cynrychioli dechrau pennod newydd yn ein gwasanaeth i bobl Cymru.

I ddarllen y Cynllun, ewch yma.

Neu dysgwch mwy am ein Cynllun o’r fideo byr yma!