Rydym yn gwybod bod llawer o aelodau’r cyhoedd yn pryderu am y ffordd y gwnaethant nhw, neu eu hanwyliaid, ddal COVID-19 wrth dderbyn gofal mewn lleoliadau Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol (GIG) fel ysbytai. Caiff haint COVID-19 a gafodd ei ddal mewn lleoliad GIG ei alw’n COVID-19 ‘nosocomiaidd’.

Rydym wedi cyhoeddi ar ein gwefan canllawiau sy’n esbonio’n sut rydym yn ystyried cwynion am COVID-19 a gafwyd yn yr ysbyty.

Mae trosolwg byr o’n hymagwedd i’w gweld yma.

Yn ogystal, mae’r daflen ffeithiau hon yn ateb rhai cwestiynau cyffredin ynghylch sut mae’r GIG a’n swyddfa yn edrych ar gwynion am COVID-19 nosocomiaidd.