Rydym yn gwybod bod llawer o aelodau’r cyhoedd yn pryderu am y ffordd y gwnaethant nhw, neu eu hanwyliaid, ddal COVID-19 wrth dderbyn gofal mewn lleoliadau GIG fel ysbytai. Caiff haint COVID-19 a gafodd ei ddal mewn lleoliad GIG ei alw’n COVID-19 ‘nosocomiaidd’.

Mae’r nodyn isod yn esbonio’n fras sut rydym yn ystyried cwynion am COVID-19 a gafwyd yn yr ysbyty.

 

Fodd bynnag, mae’r daflen ffeithiau hon yn ateb rhai cwestiynau cyffredin ynghylch sut mae’r GIG a’n swyddfa yn edrych ar gwynion am COVID-19 nosocomiaidd.

 

Sut rydym yn ystyried cwynion am COVID-19 a gafwyd yn yr ysbyty

Mae’r nodyn hwn yn berthnasol i chi os:

  • gwnaethoch gwyno i Fwrdd neu Ymddiriedolaeth Iechyd eich bod chi, neu glaf y gwnaethoch gwyno ar ei ran, wedi dal haint COVID-19 mewn ysbyty.
  • yw Bwrdd neu Ymddiriedolaeth Iechyd wedi ysgrifennu atoch oherwydd ei fod wedi ymchwilio i sut y gwnaethoch chi neu aelod o’ch teulu ddal COVID-19 yn yr ysbyty. Digwyddodd yr adolygiad hwn o dan broses y GIG o’r enw’r ‘Fframwaith Cenedlaethol’ sy’n sicrhau bod pob achos yn cael ei ystyried mewn ffordd debyg.

Gallwch gwyno i ni os ydych yn anhapus gyda chanlyniad eich cwyn neu’r adolygiad o dan y Fframwaith Cenedlaethol. Mae’r nodyn hwn yn esbonio ein hymagwedd pan fyddwn yn ystyried pryderon o’r fath.

 

Os ydych wedi cwyno i’r Bwrdd neu Ymddiriedolaeth Iechyd  

Cyn i ni allu ymchwilio i’ch cwyn, mae angen i ni fod yn siŵr:

  • gwnaethoch gwyno i’r Bwrdd neu Ymddiriedolaeth Iechyd  o fewn blwyddyn o’r adeg y daethoch yn ymwybodol gyntaf o’r mater yr ydych yn cwyno amdano.

Os gallwn edrych i’ch cwyn, gallwn argymell bod y Bwrdd neu Ymddiriedolaeth Iechyd  yn edrych ar eich achos o dan y Fframwaith Cenedlaethol er mwyn iddo gael ei ystyried yn deg o dan broses y GIG. Gallwch barhau i gwyno i ni yn ddiweddarach os ydych yn anhapus pan fydd yr adolygiad hwnnw wedi’i wneud.

 

Os gwnaeth y Bwrdd neu Ymddiriedolaeth Iechyd  adolygu eich achos o dan y Fframwaith Cenedlaethol

Cyn i ni allu ymchwilio i’ch cwyn, mae angen i ni fod yn siŵr am ddau beth:

  • nid ydych yn chwilio am iawndal ariannol. Os ydych, mae’n debygol y bydd Llys mewn gwell sefyllfa i ystyried eich achos.  Fodd bynnag, efallai y byddwn yn gallu edrych i’ch achos os na fyddai’n rhesymol i chi fynd i’r Llys – er enghraifft, os nad oes gennych ddigon o arian na chymorth cyfreithiol.
  • rydych yn cwyno i ni o fewn blwyddyn i’r dyddiad y rhoddodd y Bwrdd neu Ymddiriedolaeth Iechyd  wybod i chi am ei benderfyniad o dan y Fframwaith Cenedlaethol.

I ddefnyddio ein hadnoddau’n ddoeth a darparu gwasanaeth teg i bob un sy’n dod atom, weithiau gallwn benderfynu peidio ag ymchwilio i’ch cwyn am resymau eraill (er enghraifft, oherwydd bod y Bwrdd neu Ymddiriedolaeth Iechyd  wedi cwblhau adolygiad llawn a theg o’ch achos). Byddwn bob amser yn esbonio ein rhesymau i chi.

Os gallwn ymchwilio i’ch cwyn, rydym ond yn debygol o ymchwilio os ydym o’r farn ei bod yn fwy tebygol na pheidio bod y claf wedi dal COVID-19 yn yr ysbyty (efallai na fyddwn byth yn gallu dweud hynny’n bendant).

Pan fyddwn yn ymchwilio i’ch cwyn, byddwn yn ystyried:

  • bod yr haint wedi digwydd gan nad oedd y gofal a’r driniaeth yn cydymffurfio â’r canllawiau a’r polisïau COVID-19 penodol a oedd yn eu lle ar y pryd.
  • a yw’n fwy tebygol na pheidio bod unrhyw niwed a ddioddefodd y claf ar ôl dal COVID-19 wedi’i achosi gan COVID-19 neu fod COVID-19 wedi gwaethygu pethau.

Wrth ddod i’n penderfyniad, byddwn yn edrych ar eich tystiolaeth a’r dystiolaeth gan y Bwrdd neu Ymddiriedolaeth Iechyd; y canllawiau a’r amgylchiadau oedd yn eu lle ar y pryd; a gwybodaeth gan ein cynghorwyr clinigol os bydd arnom angen hynny.

 

Ein hymagwedd mewn perthynas â Chartrefi Gofal

Gallwch wneud cwyn i Gartref Gofal eich bod chi, neu rywun arall, wedi dal COVID-19 yno.  Bydd y Cartref Gofal yn ymchwilio i’ch cwyn.  Os ydych yn anhapus â’r hyn y mae’r Cartref Gofal yn ei ddweud wrthych, yna gallwch gwyno i ni.

Byddwn yn ystyried eich tystiolaeth, y dystiolaeth gan y Cartref Gofal a’r canllawiau a’r amgylchiadau oedd yn eu lle ar y pryd; a gwybodaeth gan ein cynghorwyr gofal cymdeithasol neu glinigol os bydd arnom angen hynny.

Ar hyn o bryd nid oes system fel Fframwaith Cenedlaethol y GIG i ymchwilio i achosion o heintiau COVID-19 mewn Cartrefi Gofal yn y rhan fwyaf o amgylchiadau.

Fodd bynnag, mae’r Fframwaith Cenedlaethol yn berthnasol os yw claf a oedd yn yr ysbyty wedi dal COVID-19 a’i fod wedi’i ryddhau i gartref gofal wedi hynny.