Rydym yn derbyn cwynion yn rheolaidd bod cleifion wedi gorfod aros am gyfnod annerbyniol o hir i ambiwlans gyrraedd ar ôl ffonio 999.

Mae’r GIG o dan bwysau sylweddol ac o ganlyniad, yn anffodus, mae’n anochel y bydd yn rhaid i rai cleifion aros yn hirach nag y hoffent am ambiwlans.

Mae ein taflen ffeithiau ‘Oedi wrth Ddarparu Ambiwlansys’ newydd yn gosod allan ein hymagwedd at:

  • ymdrin â chwynion am oedi wrth ddarparu ambiwlansys
  • y ffactorau y byddwn yn eu hystyried wrth benderfynu a ddylid ymchwilio i gŵyn sy’n ymwneud ag hyn, ac
  • os byddwn yn dewis ymchwilio iddi, yr amgylchiadau lle gellir cadarnhau cwyn.

Am ragor o wybodaeth, darllenwch y daflen ffeithiau.