Oedi wrth Ddarparu Ambiwlansys
Cyflwyniad
Rydym yn derbyn cwynion yn rheolaidd am arhosiadau hir am ambiwlansys ar ôl i bobl ffonio 999. Mae gwasanaethau’r GIG o dan bwysau sylweddol, ac yn anffodus mae hyn yn golygu efallai y bydd rhai pobl yn gorfod aros yn hirach nag y byddent yn dymuno. Mae’r daflen ffeithiau hon yn egluro sut rydym yn ystyried cwynion am oedi wrth ddarparu ambiwlansys, gan gynnwys y ffactorau rydym yn eu hystyried wrth benderfynu a ddylid ymchwilio, a phryd y gallwn gadarnhau cwyn.
Mae’n bwysig cofio nad yw oedi wrth ddarparu ambiwlansys bob amser o fewn rheolaeth Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Weithiau, nid oes unrhyw ambiwlans ar gael oherwydd eu bod yn aros y tu allan i ysbytai nad oes ganddynt le i dderbyn y cleifion sydd eisoes yn yr ambiwlans hynny. Pan fydd hyn yn digwydd, byddwn yn ystyried yr amgylchiadau hyn wrth ddod i benderfyniad.
Yr hyn gallwn ei wneud
Rydym yn ystyried bob cwyn yn seiliedig ar ei ffeithiau ei hun. Fodd bynnag, rydym yn fwy tebygol o ymchwilio i gŵyn a’i chadarnhau os oes tystiolaeth:
- bod ambiwlans wedi bod ar gael, ond bod yr Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi oedi cyn ei anfon oherwydd bod y galwad 999 wedi ei gategoreiddio’n anghywir, a bod hyn wedi achosi niwed clinigol i’r claf.
- bod yr alwad wedi ei chategoreiddio’n gywir a bod ambiwlans wedi bod ar gael, ond methodd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru â’i neilltuo i’r alwad, a bod hyn wedi achosi niwed clinigol i’r claf.
- nad oedd unrhyw ambiwlansys ar gael oherwydd eu bod yn aros y tu allan i ysbytai. Pe bai’r oedi wedi achosi niwed clinigol, byddem yn llai tebygol o gadarnhau cwyn yn erbyn Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru oherwydd bod achos dros yr oedi y tu hwnt i’w rheolaeth. Fodd bynnag, efallai y byddwn yn ystyried a gymerodd y Bwrdd Iechyd perthnasol gamau priodol i reoli pwysau ar ysbytai a chynorthwyo ambiwlansys i ddychwelyd i’r gwasanaeth.
Yr hyn na allwn ei wneud
Rydym yn ystyried bob cwyn yn seiliedig ar ei ffeithiau ei hun. Fodd bynnag, rydym yn annhebygol o ystyried a chadarnhau cwyn os:
- Nad oes tystiolaeth bod yr oedi wedi achosi niwed clinigol i’r claf, hyd yn oed os achosodd yr oedi ofid i’r claf neu i’w deulu.
- Bod y dystiolaeth yn dangos bod Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a’r Bwrdd Iechyd perthnasol wedi dilyn y polisïau a’r gweithdrefnau priodol i reoli’r pwysau ar gapasiti ysbytai, ond bod y galw mor uchel fel nad oedd unrhyw ambiwlansys ar gael i ymateb.
Materion i gadw mewn cof
Mater i’r llywodraeth yw penderfyniadau am ariannu ac adnoddau ar gyfer Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a’r GIG yn ehangach. Ni allwn argymell y dylid darparu adnoddau ychwanegol i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru neu Fyrddau Iechyd.
Byddwn yn asesu a oedd y driniaeth neu’r gofal yn bodloni safonau priodol, gan ystyried y lleoliad lle cawsant eu darparu. Er enghraifft, ni fyddai gofal mewn ysbyty cyffredinol yn cael ei asesu yn erbyn yr un safonau â gofal mewn uned arbenigol.
O dan y broses Gwrando ar Bobl, mae’n rhaid i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ystyried a yw claf wedi dioddef niwed oherwydd eu bod wedi methu eu dyletswydd gofal.
Os yw Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn penderfynu bod hynny wedi digwydd, gallai gynnig iawndal. Gallai hyn gynnwys triniaeth ychwanegol, iawndal, neu’r ddau.
Unwaith y byddwn wedi dechrau ymchwilio i gŵyn, ni allwn ei chyfeirio’n ôl i’r broses Gwrando ar Bobl. Os hoffech i’ch cwyn gael ei ystyried drwy’r broses Gwrando ar Bobl, mae’n rhaid i chi wneud hyn cyn gofyn i ni ymchwilio iddi.
Rhagor o Wybodaeth
Gall Llais ddarparu cymorth a chefnogaeth am ddim i chi wrth wneud eich cwyn. Gallwch gysylltu â nhw drwy eu llinell gymorth ar 02920 235 558.
Cysylltwch â ni
Os nad ydych yn siŵr a fyddem yn gallu ymchwilio i’ch cwyn, cysylltwch â ni ar 0300 790 0203.