Roedd ein Cynllun Corfforaethol blaenorol yn cwmpasu’r cyfnod rhwng 2019 a 2022. Rydym nawr yn datblygu set newydd o nodau strategol i gyflawni ein huchelgais ar gyfer y swyddfa:

  • Mae pobl Cymru yn teimlo bod gwasanaethau cyhoeddus yn eu trin yn deg ac yn ymateb pan aiff pethau o chwith.
  • Mae gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn gwrando ar unigolion ac yn defnyddio eu cwynion i ddysgu a gwella.
  • Mae ymddiriedaeth yn llywodraeth leol Cymru i gyflawni’r safonau uchaf o ymddygiad.
  • Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn parhau i fod yn llais dylanwadol ac uchel ei barch o ran gwella gwasanaethau cyhoeddus.

I gyflawni’r uchelgais hwn, gwyddom fod angen inni drafod yr heriau sy’n wynebu’r sector cyhoeddus, a’n swyddfa, yn y Gymru ôl-bandemig newydd. Bydd angen inni archwilio ffyrdd newydd o weithio a gwneud mwy i ddangos sut yr ydym yn gwneud gwahaniaeth.

Ein Nodau Strategol arfaethedig yw:

  • Cyflawni cyfiawnder sy’n cael effaith gadarnhaol ar bobl a gwasanaethau cyhoeddus
  • Cynyddu hygyrchedd a chynhwysiant
  • Ehangu ein gwaith gwella rhagweithiol
  • Sicrhau ein bod yn sefydliad iach, effeithlon ac atebol

Dywedodd Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

Mae’n bleser gennyf gyhoeddi’r ymgynghoriad hwn ar ein Cynllun Strategol arfaethedig 2023-26.

Rwy’n ymwybodol iawn o’r heriau sy’n wynebu’r sector cyhoeddus, a’r swyddfa hon yn y Gymru ôl-bandemig newydd. O hyd, mae’n bwysicach nag erioed bod fy Swyddfa yn gallu gweithredu’n annibynnol ac yn ddiduedd i sicrhau, os, a phryd, y bydd pethau’n mynd o chwith ein bod yn cydnabod hyn, yn unioni pethau ac yn defnyddio’r hyn a ddysgwyd i barhau i wella gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Edrychwn ymlaen yn awr at y sylwadau ar y Cynllun hwn, i sicrhau bod ein gwasanaeth i bobl Cymru yn addas ar gyfer y dyfodol.

Rydym yn gorff sy’n cael ei ariannu’n gyhoeddus ac rydym yn atebol am sut yr ydym yn defnyddio ein hadnoddau i Senedd Cymru.  Mae ein Cynllun Strategol arfaethedig yn uchelgeisiol, ond yn realistig ynghylch yr adnoddau a’r capasiti sydd ar gael inni. Rydym yn deall y bydd cwmpas y Cynllun terfynol yn dibynnu ar yr adnoddau a ymddiriedwyd inni gan y Senedd.

Er mwyn gweld manylion yr ymgynghoriad a’n Cynllun Strategol drafft, ewch yma.