Lansiodd yr Ombwdsmon ymchwiliad i dair cwyn yn ymwneud â Gwasanaeth Cymorth Casglu Gwastraff (“Assisted Lift”) Cyngor Caerdydd.

Sefydlwyd y gwasanaeth i helpu preswylwyr sydd ddim yn gallu symud eu gwastraff i’r stryd ar gyfer ei gasglu yn y ffordd arferol, am eu bod yn anabl, yn byw â chyflwr meddygol, neu’n feichiog.

Cwynodd y tri achwynydd – Mrs D, Mrs F a Miss P – fod y gwasanaeth wedi methu’n gyson â diwallu eu hanghenion (neu yn achos Miss P, anghenion ei mam) fel preswylwyr bregus.  Dywedasant hefyd nad oedd y Cyngor wedi ymateb yn ddigonol iddynt pan wnaethon nhw fynegi eu pryder a chwyno am y gwasanaeth.

Cadarnhaodd yr Ombwdsmon y cwynion hyn.  Canfu’r ymchwiliad nad oedd Gwasanaeth Cymorth Casglu Gwastraff y Cyngor i’r preswylwyr yn ddibynadwy, gyda chasgliadau gwastraff yn cael eu methu dros gyfnodau maith a biniau’n cael eu gadael mewn safleoedd anniogel ar adegau.  Achosodd hyn nid yn unig pwysau diangen i’r preswylwyr ond arweiniodd hefyd yn aml at wastraff yn cronni yn eu heiddo, gan beri risg i’w hiechyd a’u diogelwch.  Canfu’r Ombwdsmon hefyd na wnaeth y Cyngor gydnabod na gweithredu’n brydlon ar y pryderon a godwyd am y gwasanaeth.

Wrth roi ei sylwadau ar yr adroddiad, dywedodd Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

‘Yn ystod y 3 blynedd diwethaf, rydym wedi derbyn nifer o gwynion tebyg iawn am wasanaeth “Assisted Lift” Cyngor Caerdydd.   Er gwaethaf ymrwymiad y Cyngor i gymryd camau i ddatrys pryderon y preswylwyr, gwnaethom barhau i gael cwynion am yr un materion, gan dynnu sylw at broblemau systemig â’r gwasanaeth hwn.  Dyma’n union yr hyn a welsom yn ystod ein hymchwiliad.

Roedd dau o’r achwynwyr yn yr achos hwn yn eu 90au.  Mae’n gwbl annerbyniol iddynt ddioddef gwarth gwasanaeth mor annibynadwy am gyfnod mor hir.

Mae’r un mor annerbyniol bod y Cyngor wedi methu â chydnabod neu weithredu ar bryderon y preswylwyr yn briodol, er gwaethaf iddynt dderbyn cannoedd o alwadau a chwynion ffurfiol dro ar ôl tro.  Gallaf ddeall yn iawn pam y dywedodd un o’r achwynwyr wrthym yn yr achos hwn ei bod “ar ben ei thennyn” o ran ei hymwneud â’r Cyngor.

Wrth dderbyn ceisiadau’r preswylwyr ar gyfer y Gwasanaeth Cymorth Casglu Gwastraff, roedd y Cyngor yn ymrwymo i’w helpu i gael mynediad at ei wasanaethau casglu gwastraff.  Trwy fethu’n gyson â mynd i’r afael â chasgliadau a fethwyd a’r problemau eraill gyda’r Gwasanaeth Cymorth Casglu Gwastraff, methodd y Cyngor ag anrhydeddu’r ymrwymiad hwnnw.

Rydym yn bryderus iawn y gallai’r problemau hyn fod yn effeithio ar fwy o breswylwyr bregus.  Caiff hyn ei adlewyrchu yn ein hargymhellion i’r Cyngor wella ei Wasanaeth Cymorth Casglu Gwastraff ar unwaith er budd yr holl breswylwyr.”

Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Cyngor gymryd camau, gan gynnwys talu iawndal ariannol, i unioni anghyfiawnder unigol i’r achwynwyr yn ogystal â:

  • chymryd camau i sicrhau bod cwynion tebyg a geir am y gwasanaeth gan breswylwyr bregus yn cael eu trin yn gyson ac yn effeithiol
  • cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r gwasanaeth
  • creu cynllun gweithredu ar gyfer gwelliannau a rhannu manylion y camau gweithredu arfaethedig â’r holl ddefnyddwyr gwasanaeth.

Mae Cyngor Caerdydd wedi derbyn canfyddiadau a chasgliadau’r Ombwdsmon ac wedi cytuno i weithredu’r argymhellion yn brydlon.

I ddarllen yr adroddiad, ewch yma.