Am y gŵyn

Lansiodd yr Ombwdsmon 3 ymchwiliad ar wahân ar ôl derbyn cwynion am sut y cafodd rhestrau aros am lawdriniaeth orthopedig eu rheoli ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Dywedodd y 3 achwynwyr eu bod wedi aros am amser hir am lawdriniaeth orthopedig ac na chafodd eu dealltwriaeth o sut y byddent yn cael eu trin ei rheoli’n dda gan y Bwrdd Iechyd o ran yr asesiadau cyn llawdriniaeth.

 

Yr hyn a ganfu’r Ombwdsmon

Canfu’r Ombwdsmon fod yr amser aros am lawdriniaeth orthopedig yn y Bwrdd Iechyd ar hyn o bryd yn fwy na 4 blynedd.

Mae’r Bwrdd Iechyd wedi bod â phroblemau gan gynnwys prinder staff, dim digon o lefydd addas am lawdriniaethau, trefniadau rheoli aneglur a phrosesau aneglur ar gyfer y llawdriniaethau hyn.

Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon y methiannau canlynol yn ymwneud â rheoli’r rhestr aros:

1. Atgyfeiriwyd Mrs B i’r ysbyty yn 2018 am boen yn ei chlun dde ac eto yn 2021 am boen yn ei chlun chwith. Caewyd yr atgyfeiriad ar gyfer ei chlun chwith mewn camgymeriad, ond yn 2023 cafodd driniaeth ar ei chlun chwith (gan ei bod yn waeth o safbwynt glinigol).  Cafodd ei thynnu oddi ar y rhestr aros ar gyfer ei chlun dde, er bod angen triniaeth arni o hyd.   Mae Mrs B yn parhau i brofi poen difrifol yn ei chlun dde, ac ar ôl 5 mlynedd mae’n dal i aros o hyd iddi gael ei drin.

2. Roedd Mr C wedi cael ei asesu fel angen llawdriniaeth o fewn mis, ond arhosodd am 43 mis (3 blynedd 7 mis) mewn poen difrifol. Yn ystod y cyfnod hwnnw, ailosodwyd ei safle ar y rhestr aros mewn camgymeriad a thynnwyd ei enw oddi ar y rhestr mewn camgymeriad hefyd.

3. Tynnwyd Mr D oddi ar y rhestr aros pan fethodd apwyntiadau llawfeddygol oherwydd ei fod yn yr ysbyty yn cael triniaeth am salwch arall. Er gwaethaf y ddarpariaeth yn y canllawiau ar gyfer y math hwn o sefyllfa, tynnwyd Mr D oddi ar y rhestr ac roedd yn aros i gael ei “drin yn ei dro” sy’n ymddangos fel pe bai y tu allan i’r broses.  Derbyniodd Mr D driniaeth ym mis Ionawr 2024, 65 mis (mwy na 5 mlynedd) ar ôl cael ei ychwanegu at y rhestr aros am lawdriniaeth. Profodd Mr D lawer o boen, ac effeithiodd hyn yn sylweddol ar ei les.

Cododd y methiannau hyn bryderon yr Ombwdsmon ynglŷn â sut y cafodd y rhestrau aros cyfan eu rheoli.

Rhoddwyd yr achwynwyr hefyd trwy straen a phoen yr asesiadau cyn llawdriniaeth. O ganlyniad, codwyd eu gobeithion ar gam y byddai llawdriniaeth yn digwydd yn fuan.

“Tra bod cleifion yn aros am lawdriniaeth ar y rhestr, dylent gael eu trin yn deg mewn perthynas â rheoli eu lle ar y rhestr honno, sut cyfathrebir â nhw am yr amser y mae’n debygol o gymryd i dderbyn triniaeth ac i reoli eu disgwyliadau’n deg.

Dylai cleifion sydd eisoes yn wynebu amseroedd aros hir deimlo y gallant ddibynnu ar y Bwrdd Iechyd i reoli’r rhestr aros yn dda ac yn unol â’r canllawiau sy’n ymwneud â rhestrau aros.

Mae’r 3 achos hyn yn dangos anghyfiawnder amlwg i’r cleifion. Yn ogystal â’r methiannau hyn, cafodd yr achwynwyr eu rhoi trwy straen a phoen diangen yr asesiadau cyn-llawdriniaeth. Rwy’n bryderus ei bod yn ymddangos nad oes unrhyw ystyriaeth wedi’i rhoi i effaith y rhain ar lesiant y cleifion."

Wrth roi ei sylwadau ar yr adroddiad, dywedodd Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

Argymhellion

Gwnaeth yr Ombwdsmon yr argymhellion canlynol:

  • y Bwrdd Iechyd i adolygu’r penderfyniadau a wnaeth mewn cysylltiad â’r achwynwyr hyn a’u safleoedd ar y rhestr aros.
  • y Bwrdd Iechyd i archwilio’r rhestr aros gyfan i sefydlu a oedd gwallau wedi’u gwneud ar yr amseroedd rhestrau aros neu a gafodd cleifion eraill eu tynnu’n amhriodol oddi ar y rhestr; ac os felly
  • dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i’r cleifion hynny a chywiro’r gwallau.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi derbyn canfyddiadau a chasgliadau’r Ombwdsmon ac wedi cytuno i weithredu’r argymhellion.

 

Cliciwch yma i ddarllen y 3 adroddiad.