Heddiw, rydym yn cyhoeddi fersiynau wedi’u diweddaru o ‘Egwyddorion Gweinyddu Da’ a chanllawiau ‘Materion yn Ymwneud â Rheoli Cofnodion yn Dda’.

Yn 2016, cyhoeddwyd ‘Egwyddorion Gweinyddiaeth Dda a Rheoli Cofnodion yn Dda’ gennym i gyrff cyhoeddus yng Nghymru fel canllawiau statudol o dan adran 31 o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005.  Gwnaed y cyhoeddiad hwnnw ar y cyd â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Yn 2021, penderfynom adolygu’r egwyddorion a’u rhannu yn ddau gyhoeddiad ar wahân.   Teimlasom y byddai hyn yn darparu cyrff cyhoeddus ac achwynwyr ag egwyddorion cyffredinol a chlir o ran arfer gweinyddu da, ynghyd â rhoi chyngor penodol ar wahân ar arfer gweinyddu da mewn perthynas â rheoli cofnodion.

Cynhaliom ymgynghoriad agored ar y ddwy ddogfen ym mis Hydref 2021.   Ar y cyfan, roedd yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn gadarnhaol ac yn cefnogi ein penderfyniad i gyhoeddi’r canllawiau fel dau gyhoeddiad ar wahân.  Ymysg newidiadau eraill, yn seiliedig ar yr adborth a dderbyniwyd, cryfhawyd cyfeiriadau at y dyletswyddau ar gyrff cyhoeddus o dan Safonau’r Gymraeg.  Hoffwn ddiolch i’r holl ymatebwyr am eu hadborth.

Dywedodd yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Nick Bennett:

‘Dywedodd Victor Hugo “newidia dy farn, ond cadw at dy egwyddorion; newidia dy ddail; ond cadw dy wreiddiau”.  Credaf fod hyn yn ddyfyniad perffaith i gyrff cyhoeddus wrth iddynt drafod yr argyfwng iechyd cyhoeddus presennol.

Yn enwedig yn y cyfnod heriol hwn, mae’n hanfodol i hyder y cyhoedd fod arweinyddiaeth a darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i fod wedi’u gwreiddio i egwyddorion clasurol Nolan megis bod yn agored, yn atebol, ac yn deg.  Yn yr un modd, mae cadw cofnodion yn dda yn angenrheidiol i greu hyder mewn unrhyw broses benderfynu, i hyrwyddo atebolrwydd a thryloywder, ac i alluogi eraill i wirio’r hyn a wnaed.

Gyda’r ddau gyhoeddiad hyn, fy ngobaith yw y byddwn yn cefnogi arfer da gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru wrth iddynt wynebu pwysau digyffelyb ar ddarpariaeth gwasanaeth.’

Gellir dod o hyd i ‘Egwyddorion Gweinyddu Da’ a chanllawiau ‘Materion yn Ymwneud â Rheoli Cofnodion yn Dda’ yma.