Math o Gontract: Parhaol
Patrwm gweithio: Llawn amser/Hybrid – Pen-y-bont ar Ogwr/Gartref
Oriau Gwaith: 37 awr yr wythnos
Cyflog: Blwyddyn 1 £27,000

Blwyddyn 2 £30,000

Blwyddyn 3 £33,000

Blwyddyn 4 £37,338

Blwyddyn 5 ymlaen – cynyddrannau blynyddol hyd at £48,474 y flwyddyn

Math o Swyddogaeth: Ymchwilio i Gwynion

Ydych chi wedi graddio’n ddiweddar yn y Gyfraith, Gweinyddiaeth Gyhoeddus neu faes pwnc tebyg, neu a fyddwch chi’n cwblhau eich astudiaethau eleni?  Ydych chi’n siarad Cymraeg yn rhugl?  Os mai “ydw” yw eich ateb i’r cwestiynau hyn a bod gennych ddiddordeb mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a sicrhau, pan fydd gwasanaethau’n methu, bod modd troi at system gwyno annibynnol, fe allai’r swydd hon fod yn addas i chi.

Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn awyddus i recriwtio Hyfforddai Graddedig i ymgymryd â rhaglen ddatblygu bwrpasol dros dair blynedd sy’n arwain at fod yn Swyddog Ymchwilio.

Mae Swyddogion Ymchwilio yn ymchwilio i gwynion oddi wrth aelodau’r cyhoedd am driniaeth annheg neu wasanaeth gwael oherwydd diffyg o ryw fath ar ran cyrff cyhoeddus datganoledig yng Nghymru.  Bydd yr Ombwdsmon hefyd yn ymchwilio i gwynion bod Cynghorwyr mewn awdurdodau lleol yng Nghymru o bosib wedi torri Cod Ymddygiad statudol eu cyngor.  Fel Swyddog Ymchwilio, byddwch yn canolbwyntio ar yr achosion mwyaf difrifol ac yn rheoli llwyth achosion sy’n amrywio o ran cymhlethdod, ar draws nifer o feysydd, gan ddarparu profiad da i gwsmeriaid. Byddwch yn:

  • Dadansoddi gwybodaeth fanwl er mwyn cyrraedd a deall craidd y gŵyn
  • Canfod a chael tystiolaeth yn brydlon
  • Gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth, a chyflwyno’r penderfyniadau hyn mewn adroddiadau ysgrifenedig grymus
  • Ymgysylltu’n effeithiol â’r achwynydd drwy gydol yr ymchwiliad
  • Datrys achosion drwy ymgysylltu’n adeiladol
  • Gweithio’n annibynnol a defnyddio awdurdod dirprwyedig i wneud penderfyniadau ar ran yr Ombwdsmon

Mae disgrifiad llawn a gwybodaeth ychwanegol ar gael ar y dudalen “Ymunwch â Ni” ar ein gwefan.

Am beth rydym ni’n chwilio

  • Rhywun sydd wedi graddio’n ddiweddar neu a fydd yn graddio eleni yn y Gyfraith, Gweinyddiaeth Gyhoeddus neu faes pwnc tebyg
  • Cymraeg rhugl ar lafar ac ar bapur
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol, ar lafar ac ar bapur
  • Gallu a chymhelliant i gwblhau rhaglen ddatblygu dros dair blynedd
  • Rhywun sydd ag awydd i ddatblygu i fod yn Swyddog Ymchwilio

Beth yw’r manteision i chi

  • Cyfle i ddatblygu sgiliau Swyddog Ymchwilio gyda swydd sicr fel Swyddog Ymchwilio ar ddiwedd y rhaglen dair blynedd
  • Rhaglen hyfforddi strwythuredig i ymestyn eich sgiliau a’ch galluoedd
  • Cyfle i weithio gyda thîm gwych i wneud gwahaniaeth go iawn, gan ddarparu cyfiawnder ac arwain at welliannau
  • Amrywiaeth o waith
  • Cyflog cystadleuol sy’n cynyddu
  • Lwfans gwyliau blynyddol o 32 o ddiwrnodau a gwyliau banc ar ben hynny
  • Mae’r manteision eraill yn cynnwys; Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, cynllun oriau hyblyg, aelodaeth ratach o gampfa, cynlluniau prynu am bris gostyngol
  • Cyfleusterau rhagorol ar y safle pan fyddwch yn gweithio ar y safle, a chyfarpar ar gyfer gweithio gartref

I wneud cais

Ewch i’n gwefan (www.ombudsman.cymru) i gael mynediad at y pecyn recriwtio, a nodwch mai llenwi ein cais ni yw’r unig ffordd o wneud cais am y cyfle hwn.

Cyflwynwch eich Ffurflen Gais a’ch Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal drwy anfon ebost at: recruitment@ombudsman.wales erbyn 5 pm 26 Ebrill 2024.   Cofiwch fod gennym yr hawl i gau’r cyfle hwn yn gynnar os daw digon o geisiadau i law. 

Bydd yr ymatebion a roddwch yn y ffurflen gais yn cael eu defnyddio i lunio’r rhestr fer ar gyfer y swydd.

Mae’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal.

Mae amrywiaeth a chynhwysiant yn ganolog i bopeth a wnawn. Rydym wedi ymrwymo’n weithredol i hyrwyddo a chymryd rhan mewn arferion da yn y ffordd rydym yn denu, yn recriwtio ac yn cadw staff.

Rydym yn annog pawb i ddod â nhw eu hunain yn llwyr i’r gwaith oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi’r gwerth y mae gweithlu gwirioneddol amrywiol yn ei roi i sefydliad. Rydym yn dathlu gwahaniaeth, gan gydnabod y manteision a ddaw yn sgil hyn i’n diwylliant cynhwysol, gan gynnwys oed, anabledd, hunaniaeth o ran rhywedd a mynegiant, crefydd, hil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol a chefndir economaidd-gymdeithasol.

Pecyn recriwtio

Disgrifiad Swydd

Ffurflen ymgeisio

Ffurflen Monitro Cyfleoedd Cyfartal

Hysbysiad Preifatrwydd