- Cyflog
- £112,000
Rydym yn chwilio am Gyfarwyddwr Gweithredol Adnoddau Corfforaethol talentog i ymuno â’n tîm gweithredol a rhoi arweinyddiaeth strategol i’n swyddogaethau corfforaethol, gan sicrhau prosesau llywodraethu gryf, rheolaeth cyllid cadarn a rheoli risg. Bydd y rôl arweinyddiaeth hollbwysig hon hefyd yn gyfle ichi ddangos eich gallu i arwain ein prosesau cynllunio strategol a chynllun busnes gan weithio’n gydweithredol â chydweithwyr yn fewnol a rhanddeiliaid allanol.
Yn gweithio mewn swydd lefel uwch ar hyn o bryd, bydd gennych brofiad o gyflawni newid sefydliadol a gwella gwasanaethau mewn cyd-destun sector cyhoeddus, ac yn gallu symbylu timau i ymdrechu at ragoriaeth trwy sgiliau cyfathrebu cryf ac arweinyddiaeth effeithiol.
Hanfodol:
1. Profiad o weithio yn y sector cyhoeddus mewn rôl arweinyddiaeth ac ar lefel uwch;
2. Profiad sylweddol o reolaeth strategol â thystiolaeth o adeiladu timau perfformiad uchel i
helpu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn effeithlon ac yn effeithiol;
3. Profiad o reolaeth ariannol strategol yn darparu cyngor i swyddogion atebol a phobl sy’n
gwneud penderfyniadau;
4. Profiad o arwain rheoli newid llwyddiannus a/neu wella gwasanaeth mewn amgylchedd
rhanddeiliaid cymhleth;
5. Deall llywodraethiant y sector cyhoeddus mewn cyd-destun datganoledig;
6. Profiad o weithio i Gabinet/Bwrdd/Pwyllgor Seneddol neu gorff tebyg.
Dymunol:
1. Gwybodaeth am ddarparu gwasanaethau sector cyhoeddus yng Nghymru.
2. Profiad o ddelio gyda’r cyfryngau.
3. Profiad o reolaeth mewn amgylchedd gwaith achos.
4. Cymhwyster proffesiynol ariannol perthnasol.
5. Y gallu i gyflawni gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg