Rydym yn ceisio eich barn ar newidiadau i’n Polisi a Gweithdrefn Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb

Mae’r ymgynghoriad hwn yn cau ar 28 Ebrill 2022 (hanner nos)

Gweler y ddogfen ymgynghori yma:

Dogfen Ymgynghori – Polisi a Gweithdrefn Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb

Cefndir

Yn OGCC, rydym wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth, a chynhwysiant ym mhopeth a wnawn.  Mae gennym hefyd ddyletswyddau cyfreithiol i ystyried effaith ein penderfyniadau, polisïau neu wasanaethau ar rai cymunedau, unigolion neu grwpiau.

I’n helpu i asesu sut mae ein gwaith yn effeithio ar wahanol gymunedau, unigolion a grwpiau, mae gennym Bolisi a Gweithdrefn Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ar waith.

Ein Polisi a Gweithdrefn Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb cyfredol

Fe wnaethom ddiwygio ein Polisi a Gweithdrefn Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ddiwethaf ym mis Mawrth 2020. Gallwch ddod o hyd i’n Polisi a Gweithdrefn Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb cyfredol ac ein ffurflen Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb cyfredol ar ein gwefan yma.

Rydym nawr am ddiweddaru’r ddogfen honno a gwneud rhai newidiadau a fydd yn gwneud ein proses Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb yn symlach ac yn fwy effeithiol.

Polisi a Gweithdrefn diwygiedig

Rydym yn ceisio eich barn ar newidiadau i’n Polisi a Gweithdrefn Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb:

Pam rydym yn meddwl bod angen inni addasu ein Polisi a Gweithdrefn Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb

Roeddem bob amser yn bwriadu adolygu’r polisi a’r weithdrefn hon ar ôl dwy flynedd. Fodd bynnag, fe wnaethom sylwi hefyd ar rai materion sy’n ei gwneud yn anodd weithiau inni gynnal ein Hasesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb:

  • roedd staff yn ei chael yn anodd nodi a dadansoddi’r dystiolaeth berthnasol
  • weithiau, roedd staff yn ansicr a oedd angen iddynt gynnal asesiad llawn, neu a fyddai sgrinio cychwynnol ar gyfer effeithiau posibl yn ddigon
  • roedd y weithdrefn yn cynnwys nodi lefel yr effaith (uchel – canolig – isel). Nid oedd y lefelau hyn wedi’u diffinio ac roeddent yn anodd eu cymhwyso yn ymarferol
  • roedd y weithdrefn yn canolbwyntio ar ein polisïau corfforaethol (newydd neu ddiwygiedig). Fe wnaethom hefyd ei chymhwyso i agweddau eraill ar ein gwaith, er enghraifft ein Hymchwiliad ar ei Liwt ei Hun i asesiadau digartrefedd. Fodd bynnag, roedd y weithdrefn yn anodd ei chymhwyso i’r prosiectau hynny a oedd yn fwy amrywiol.

Y prif newidiadau

Pan fyddwn yn cynnal Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb

Byddwn yn defnyddio ein gweithdrefn ddiwygiedig i asesu ein:

  • swyddogaethau craidd – megis wrth ymdrin â chwynion neu ein gwaith gwella
  • polisïau, gweithdrefnau a strategaethau – newydd neu ddiwygiedig
  • prosiectau mawr – megis Ymchwiliadau ar ei Liwt ei Hun, ymchwil boddhad cwsmeriaid neu ddigwyddiadau allgymorth o raddfa fawr
  • prif benderfyniadau – penderfyniadau sy’n effeithio’n sylweddol ar sut rydym yn gweithredu (er enghraifft, penderfyniad dros dro i addasu argaeledd ein gwasanaeth).

Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb mewn perthynas â’n swyddogaethau

Bydd Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb mewn perthynas â’n swyddogaethau craidd yn cymhwyso asesiadau lefel uchel a chyffredinol, yn seiliedig ar ystod eang o dystiolaeth: ein harolwg defnyddwyr gwasanaeth a’n harolwg staff, ein proffil cydraddoldeb achwynwyr a phroffil cydraddoldeb staff, ymchwil ehangach a materion eraill.  Bydd ein Pennaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn cwblhau ac yn diweddaru’r Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb hyn.

Diben yr Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb hyn fydd nodi meysydd cyffredinol o’n gwaith sy’n cael effeithiau cadarnhaol neu negyddol ar gydraddoldeb. Yna pan fyddwn yn ystyried polisi, penderfyniad neu brosiect sy’n berthnasol i’r swyddogaeth honno, byddwn yn sicrhau ein bod yn ystyried yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol posibl sydd wedi’u nodi yn yr Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb lefel uchel hyn.

Bydd yr Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb mewn perthynas â’n swyddogaethau eisoes wedi ystyried ystod eang o dystiolaeth berthnasol, felly byddai gan gydweithwyr sy’n cynnal yr asesiadau o bolisïau, prosiectau a phenderfyniadau mwy penodol y dystiolaeth honno ar flaenau eu bysedd. Dylai hyn eu helpu i ganolbwyntio mwy ar gasglu tystiolaeth ychwanegol a allai fod yn berthnasol i’r mater penodol y maent yn ei asesu.

Sgrinio cychwynnol

Byddwn yn symleiddio cam sgrinio cychwynnol y weithdrefn, o’r 9 cwestiwn cyfredol i 3. Y cwestiynau fydd:

  • A yw’r polisi, prosiect neu benderfyniad hwn yn ymwneud â’n swyddogaethau neu feysydd gwaith o fewn y swyddogaethau hynny y mae ein Hasesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb wedi nodi effeithiau cydraddoldeb?
  • A yw’r polisi, prosiect neu benderfyniad hwn yn ymwneud â’n Hamcanion Cydraddoldeb?
  • A oes risg y gallai’r polisi, prosiect, neu benderfyniad hwn arwain at roi unrhyw grŵp o bobl dan anfantais?

Pryd y byddwn yn cyhoeddi Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb

Hyd yn hyn, rydym wedi bod yn cyhoeddi ein Hasesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb os gwelsom fod yr effaith yn ‘uchel’ (‘sylweddol’). Byddwn nawr yn canolbwyntio ar nodi unrhyw effeithiau cadarnhaol neu negyddol ac yn cyhoeddi pob Asesiadau llawn o’r Effaith ar Gydraddoldeb y byddwn yn eu cwblhau.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

  • A yw ein Polisi a Gweithdrefn Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb diwygiedig yn cyflwyno ein dyletswyddau a’n hymrwymiadau cydraddoldeb yn eglur ac yn ddigonol?
  • Mae ein Polisi a Gweithdrefn Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb yn rhoi sylw i nodweddion gwarchodedig, y Gymraeg ac anfantais economaidd-gymdeithasol. A ydych chi’n meddwl bod y sylw i’r gwahanol agweddau hyn yn cael ei drafod digon a’i integreiddio’n briodol?
  • A fydd cynnal yr Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb lefel uchel o’n swyddogaethau at y dibenion a eglurir yn y ddogfen ymgynghori’n ddefnyddiol? Os na fydd, pa ffyrdd eraill y byddech yn eu hawgrymu i’n helpu i symleiddio’r ffordd yr ydym yn nodi ac yn asesu tystiolaeth cydraddoldeb ac yn cynnal y sgrinio cychwynnol?
  • A yw’r cwestiynau sgrinio cychwynnol arfaethedig yn ddigon i’n helpu i nodi’r polisïau, y prosiectau a’r penderfyniadau y mae’n rhaid eu hasesu’n llawn?
  • Pa effeithiau y gallai’r Polisi a Gweithdrefn hwn yn cael ar y Gymraeg ac yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg? Sut y gellid hybu effeithiau cadarnhaol, neu liniaru effeithiau negyddol?
  • A oes gennych unrhyw sylwadau eraill am ein Polisi a Gweithdrefn Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb?

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich ymateb erbyn hanner nos 28 Ebrill 2022 trwy unrhyw un o’r ffyrdd canlynol:

  • Llenwch ein  ffurflen ar-lein
  • Anfonwch eich ymateb at: cyfathrebu@ombwdsmon.cymru
  • Postiwch eich ymateb at:

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

1 Ffordd yr Hen Gae,

Pencoed

CF35 5LJ

 

Hysbysiad Preifatrwydd

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawliau canlynol:

  • Yr hawl i gael gwybod pa ddata personol a gedwir amdanoch a’r hawl i’w gyrchu
  • Yr hawl i fynnu ein bod yn cywiro gwallau yn y data
  • Yr hawl (mewn amgylchiadau penodol) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu data
  • Yr hawl (mewn amgylchiadau penodol) i ‘ddileu’ eich data
  • Yr hawl (mewn amgylchiadau penodol) i hygludedd data
  • Yr hawl i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.

Gall ymatebion i ymgynghoriadau gael eu cyhoeddi, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os byddai’n well gennych i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym.

Gweler ein Hysbysiad Preifatrwydd Cyffredinol am ragor o fanylion am y wybodaeth y mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ei chadw a’i defnyddio, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y GDPR.  Ceir rhagor o wybodaeth yn ein Hysbysiad Preifatrwydd Ymgynghoriadau ynghylch sut ydym yn defnyddio eich data ar gyfer ymgynghoriadau.

 

Diolch am eich diddordeb yn ein Polisi a Gweithdrefn Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb.