Rydym yn ceisio eich barn ar ein Cynllun Strategol drafft, a fydd yn llunio blaenoriaethau ein swyddfa ar gyfer 2026-2029.
Agorwyd: 17 Chwefror 2026
Dydd cau’r ymgynghoriad: 31 Mawrth 2026
Gwybodaeth allweddol mewn fformat PDF:
Roedd ein Cynllun Strategol blaenorol yn cwmpasu’r cyfnod rhwng 2023 a 2026. Rydym bellach yn adolygu ein nodau a’n hamcanion strategol gyda’r bwriad o ddatblygu’r Cynllun ar gyfer 2026 i 2029.
Nid yw uchelgeisiau ein swyddfa wedi newid:
- Mae pobl Cymru yn teimlo bod gwasanaethau cyhoeddus yn eu trin yn deg ac yn ymateb pan aiff pethau o chwith.
- Mae gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn gwrando ar unigolion ac yn defnyddio eu cwynion i ddysgu a gwella.
- Mae ymddiriedaeth yn llywodraeth leol Cymru i gyflawni’r safonau uchaf o ymddygiad.
- Mae’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn parhau i fod yn llais dylanwadol ac uchel ei barch o ran gwella gwasanaethau cyhoeddus.
Fodd bynnag, rydym yn cynnig addasu ein Nodau Strategol i gryfhau ein gwasanaeth, gan ein galluogi i gyflawni effaith well ar gyfer pobl Cymru, gwasanaethau cyhoeddus Cymru a democratiaeth leol Cymru. Yn hyn, gwnaethom ystyried argymhellion y Senedd yn dilyn yr adolygiad ar ôl deddfu o’n Deddf.
Ein Nodau Strategol arfaethedig yw:
Nod Strategol 1: Cyflawni cyfiawnder sy’n cael effaith gadarnhaol i bobl Cymru
Rydym yn darparu gwasanaeth empathig, cymesur ac effeithlon sy’n gwneud i bobl deimlo bod rhywun yn gwrando arnynt ac yn eu deall. Mae ein hargymhellion yn rhesymol, yn gyson ac yn effeithiol.
Nod Strategol 2: Dylanwadu ar newid cadarnhaol mewn gwasanaethau cyhoeddus a safonau uchel o ymddygiad mewn llywodraeth leol
Rydym yn gwella gwasanaethau cyhoeddus yn systemig drwy ein gwaith Safonau Cwynion, ein hymchwiliadau ar ei liwt ei hun, ein hadroddiadau budd y cyhoedd a’n hadroddiadau thematig. Rydym yn nodi arfer da a gwersi a ddysgwyd, gan gyfleu’r rhain yn effeithiol i gyfrannu at wella gwasanaethau cyhoeddus. Rydym yn cefnogi safonau uchel o ymddygiad ymhlith cynghorwyr.
Nod Strategol 3: Cryfhau mynediad ac effaith i’r sawl sydd angen ein gwasanaeth fwyaf
Rydym yn parhau i wella mynediad at ein gwasanaeth. Rydym yn hyrwyddo ein gwasanaeth i’r sawl a allai fod ei angen fwyaf, gan gynnwys trwy sefydliadau porthgeidwad allweddol. Rydym yn sicrhau ein bod yn canolbwyntio ein hymdrechion ar faterion sy’n effeithio ar y grwpiau sydd fwyaf agored i niwed.
Nod Strategol 4: Sicrhau ein bod yn sefydliad gwydn, ystwyth ac atebol
Rydym yn cynnal ac yn gwella defnydd effeithlon ac effeithiol o’n hadnoddau staff, ariannol a TG, ac yn sicrhau llywodraethu da, atebolrwydd a thryloywder.
Yn OGCC, rydym yn llwyr gefnogi’r Gymraeg ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi siaradwyr Cymraeg a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg. Ewch i’n Polisi Iaith Gymraeg.
Mae ein hymchwil ymwybyddiaeth genedlaethol yn dangos bod siaradwyr Cymraeg yn fwy tebygol nag aelodau cyffredin o’r cyhoedd yng Nghymru o wybod amdanom, yn ogystal ag o gael hyder yn ein swyddfa.
Mae ein gwasanaeth yn gwbl ddwyieithog ac rydym bob amser yn pwysleisio na fydd cysylltu â ni yn y Gymraeg yn arwain at unrhyw oedi o ran pa mor gyflym y byddwn yn ystyried cwyn.
Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd yng nghyfran ein staff sydd â sgiliau iaith Gymraeg cymharol dda neu rugl.
Er gwaethaf hyn, rydym yn dal i weld mai ychydig iawn o bobl sy’n defnyddio ein gwasanaeth yn y Gymraeg. Yn 2024-25, dewisodd 157 o alwyr i’n swyddfa’r dewis i siarad Cymraeg. Fodd bynnag, o ran dewisiadau iaith a gofnodwyd, mynegodd defnyddwyr gwasanaeth y byddai’n well ganddynt gyfathrebu â ni yn y Gymraeg mewn llai nag 1% o’n cwynion yn 2024-25.
Mae ein Cynllun arfaethedig yn cydnabod yr heriau hyn ac yn cynnwys ymrwymiad penodol i gryfhau’r defnydd o’n gwasanaeth ac adnoddau yn y Gymraeg.
Rydym yn croesawu’n fawr bob barn ar ein Cynllun Strategol arfaethedig. Rydym yn croesawu barn yn arbennig gan:
- y sawl sydd wedi defnyddio, neu sydd wedi ystyried defnyddio, ein gwasanaeth yn y gorffennol, neu’r sawl rydym yn ystyried eu cwynion ar hyn o bryd
- y sawl sy’n arwain neu’n gweithio i ddarparwyr gwasanaethau yn ein hawdurdodaeth
- eiriolwyr
- sefydliadau trydydd sector
- cynrychiolwyr etholedig
- y sawl sydd â diddordeb yn ein gwaith neu waith y sector ombwdsmon.
Os gwelwch yn dda, atebwch y cwestiynau canlynol a rhowch esboniad i’ch ateb.
Ein huchelgais a’n meysydd ffocws
1. A yw ein huchelgais fel y nodir yn y Cynllun yn glir ac yn briodol?
2. A yw ein Cynllun yn nodi’n gywir y meysydd o’n gwaith y mae angen i ni eu cryfhau? Os nad yw, pa faes neu feysydd eraill fyddech yn eu hawgrymu?
3. Byddwn yn datblygu cynlluniau gweithredu blynyddol manylach, ond rydym wedi cynnwys ein heffaith arfaethedig a’n hamcanion arfaethedig yn ein Cynllun Strategol. Rhannwch eich barn gyda ni ar ein heffaith arfaethedig a’n hamcanion arfaethedig o dan:
- Nod Strategol 1
- Nod Strategol 2
- Nod Strategol 3
- Nod Strategol 4
Effaith
4. A allwch awgrymu ffyrdd o fesur sut rydym yn gwneud gwahaniaeth, yn enwedig o ran ysgogi gwelliant systematig mewn gwasanaethau cyhoeddus a safonau ymddygiad mewn llywodraeth leol yng Nghymru?
Y Gymraeg
Byddwn yn parhau i weithio yn unol â Safonau’r Gymraeg a bydd ein gwasanaeth bob amser ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.
5. Beth yw’r effeithiau (boed yn gadarnhaol neu’n andwyol) y byddai’r cynllun arfaethedig yn eu cael ar
(a) gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg a
(b) sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg?
6. Sut y gellid llunio neu ddiwygio cwmpas y Cynllun arfaethedig fel y byddai ganddo effeithiau cadarnhaol, neu effeithiau cadarnhaol cynyddol, ar
(a) gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg a
(b) sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg?
7. Sut y gellid llunio neu ddiwygio cwmpas y cynllun arfaethedig fel na fyddai ganddo effeithiau andwyol, neu fel y byddai ganddo lai o effeithiau andwyol, ar
(a) gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg a
(b) sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg?
Unrhyw sylwadau eraill
8. Oes gennych unrhyw sylwadau eraill yr hoffech chi eu rhannu am ein Cynllun arfaethedig?
Rhannwch eich barn gyda ni erbyn 12:00 PM (hanner dydd) ar 31 Mawrth 2026 mewn unrhyw un o’r ffyrdd canlynol:
- Llenwch ein ffurflen ar-lein: https://www.surveymonkey.com/r/2MQKGTT
- Anfonwch eich ymateb dros e-bost at cyfathrebu@ombwdsmon.cymru
- Ffoniwch ni ar 0300 790 0203 a gofynnwch am siarad â’r Tîm Cyfathrebu (opsiwn 3)
- Postiwch eich ymateb i:
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
CF35 5LJ
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawliau canlynol:
- Yr hawl i gael gwybod pa ddata personol a gedwir amdanoch a’r hawl i’w gyrchu
- Yr hawl i fynnu ein bod yn cywiro gwallau yn y data
- Yr hawl (mewn amgylchiadau penodol) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu
- Yr hawl (mewn amgylchiadau penodol) i ‘ddileu’ eich data
- Yr hawl (mewn amgylchiadau penodol) i hygludedd data
- Yr hawl i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.
Efallai y bydd ymatebion i ymgynghoriadau yn cael eu cyhoeddi, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os byddai’n well gennych i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym.
Cliciwch yma i weld ein Hysbysiad Preifatrwydd Cyffredinol am ragor o fanylion am y wybodaeth y mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ei chadw a’i defnyddio, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y GDPR.
Cliciwch yma i weld ein Hysbysiad Preifatrwydd Ymgynghoriadau ynghylch sut yr ydym yn defnyddio eich data ar gyfer ymgynghoriadau.