Crynodeb o adroddiad a gyhoeddwyd o dan adran 27 Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019

Rhif Achos: 202309511 & 202406830

Cyngor Caerdydd

Gall yr Ombwdsmon ddefnyddio ei phwerau ar ei Liwt ei Hun i ymestyn ymchwiliad cyfredol i gynnwys materion sydd â chysylltiad sylweddol â’r materion sydd eisoes yn cael eu hymchwilio.  Mae hyn yn caniatáu i’r Ombwdsmon ymchwilio i faterion nad oes cwyn benodol amdanynt.

Cynhaliwyd ymchwiliad yn dilyn cwyn gan Mr B, sy’n byw ar safle Sipsiwn a Theithwyr (“y Safle”).  Cwynodd fod ei lain yn orlawn, bod methiant ar ran Cyngor Caerdydd i gynnal ei floc cyfleustodau, a’i fod yn cael anhawster prynu trydan.  Yn ystod yr ymchwiliad i gŵyn Mr B, amlygwyd pryderon o ran sut roedd y Cyngor wedi rheoli’r holl Safle.

Defnyddiodd yr Ombwdsmon ei phwerau ar ei Liwt ei Hun i ymestyn yr ymchwiliad. Bu’r ymchwiliad estynedig yn ystyried a oedd y Cyngor wedi cydymffurfio â’i ddyletswyddau cyfreithiol yn achos y Safle, a fu methiant gwasanaeth neu gamweinyddu yn y ffordd roedd y Cyngor wedi cynnal y blociau cyfleustodau ar y Safle, ac a fu methiant gwasanaeth neu gamweinyddu yn y ffordd y cafodd cyflenwad trydan y preswylwyr ar y Safle ei reoli.

Canfu’r ymchwiliad nad oedd y cyfleusterau a oedd ar gael ar lain Mr B yn briodol o ystyried nifer y preswylwyr ac anghenion y preswylwyr.   Canfu’r ymchwiliad hefyd fod methiant wedi bod i gynnal bloc cyfleustodau Mr B.  Cafodd y gallu i brynu trydan ei ystyried fel rhan o’r ymchwiliad estynedig.

O ran yr ymchwiliad estynedig, canfuwyd problem dymor hir gan fod y galw’n fwy na nifer y lleiniau sydd ar gael yn yr ardal.  Roedd nifer o ffactorau wedi effeithio ar hyn, gan gynnwys bod yr ardal lle mae’r Safle wedi’i leoli wedi’i nodi fel un anghynaliadwy a bod hynny wedi effeithio ar allu’r Cyngor i sicrhau cyllid i’w ailddatblygu.  Mae cynnydd sylweddol yn cael ei wneud yn awr o ran hyn, gyda Chynllun Gwarchod y Glannau ar waith sydd wedi newid statws y Safle.  Mae’r Cyngor hefyd wedi bwrw ymlaen i brynu tir ychwanegol fel rhan o gynllun i ehangu a datblygu’r Safle.

Fodd bynnag, canfu’r ymchwiliad, er bod y Cyngor wedi gwneud llawer o waith cymhleth i fwrw ymlaen â hyn, roedd yr amserlenni’n rhai maith, ac nid oedd yn amlwg a ellid bod wedi gwneud hyn yn gynharach.  Yn ystod y cyfnod hwn roedd aelodau’r gymuned wedi dioddef diffyg llety addas a lleiniau gorlawn, ac nid yw’n amlwg byth pa bryd fydd y safle newydd wedi’i gwblhau.  Felly, canfuwyd nad oedd y Cyngor wedi diwallu anghenion llety’r gymuned dros gyfnod o flynyddoedd lawer, a bod hynny wedi arwain at amodau gwael gan adael y preswylwyr dan anfantais.

Canfu’r ymchwiliad hefyd, o ganlyniad i’r newid i statws y Safle, bod cyllid yn awr wedi’i sicrhau i adnewyddu’r blociau cyfleustodau a bod y gwaith hwn bellach yn mynd yn ei flaen.  Fodd bynnag, canfuwyd oedi hir wrth drwsio a chynnal y Safle.  Mae’r Cyngor wedi cydnabod anawsterau yn y maes hwn ac mae’n awr yn gweithio i wella’r gwasanaeth hwn.

Yn olaf, canfu’r ymchwiliad fod y cynllun prynu trydan yn gyfyngedig ac nad yw’n cyd-fynd â’r canllaw sydd ar gael.  Er bod y gallu i ddarparu cyflenwad uniongyrchol i breswylwyr y tu allan i reolaeth y Cyngor, mae’n wir er hynny bod y preswylwyr wedi eu gadael dan anfantais sylweddol.

Cytunodd y Cyngor, o fewn 4 wythnos, i ymddiheuro i Mr B am y methiannau a nodwyd yn yr adroddiad, i ymddiheuro i ddeiliaid 2 lain arall am waith trwsio nad oedd wedi’i wneud, i roi diweddariad ar y gwaith heb ei wneud yr oedd contractwr yn ei gwblhau, a dangos tystiolaeth i’r swyddfa hon o’r ymgynghori a fu â phreswylwyr y safle yn ystod Gorffennaf 2025.

Cytunodd y Cyngor hefyd, o fewn 16 wythnos, i roi diweddariad i breswylwyr y Safle ar y gwaith sy’n cael ei wneud i ddatblygu’r Safle dros dro, darparu copi o’r polisi sy’n cael ei lunio yn achos cwblhau gwaith trwsio lle na chafwyd mynediad, ac asesiad cysylltiedig o’r effaith ar gydraddoldeb, i’r swyddfa hon a diweddaru preswylwyr y Safle o’r newidiadau a wnaed, gan gynnwys cyrff eiriolaeth yn ôl yr angen.   Cytunodd hefyd i adolygu targedau amser ymateb ei Uned Ymateb Cyflym a sicrhau bod y rhain yn dychwelyd i’w lefelau gwreiddiol cyn gynted â phosibl, yn rhoi diweddariad i’r swyddfa hon ar y cynnydd mae’r Cyngor yn ei wneud o ran adnewyddu’r blociau cyfleustodau ac yn rhoi diweddariad ar y cynnydd mae’r Cyngor yn ei wneud â’r system mesuryddion rhagdalu.  Yn olaf, cytunodd i rannu’r adroddiad hwn â’i Swyddog Arweiniol ar gyfer Cydraddoldeb (neu swyddog cyfatebol) i glywed eu barn o ran a oes cydymffurfiaeth â dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus a’i fod yn ei rannu â phwyllgor llywodraethu priodol i oruchwylio a monitro cydymffurfiaeth y Cyngor â’r argymhellion hyn.

Mae’r ymchwiliad hwn yn dangos gwerth pwerau ar ei Liwt ei Hun yr Ombwdsmon sy’n ein galluogi i ymchwilio i faterion na fyddem wedi gallu eu gwneud fel arall, a nodi gwersi a gwelliannau ychwanegol i’w gwneud.  Yn yr achos hwn, penderfynom fod dysgu ehangach, y gallai Awdurdodau Lleol eraill yng Nghymru elwa ohono.  Fel y cyfryw, gwnaethom rannu canfyddiadau ein hymchwiliad gyda’r Awdurdodau Lleol eraill i fyfyrio arnynt.