Ar ei Liwt ei Hun - Ymchwiliadau Ehangach
Cyflwyniad
Mae’r daflen ffeithiau hon yn esbonio sut y gallwn ddefnyddio ein pwerau ymchwilio ehangach ar ei liwt ei hun o dan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (“Deddf OGCC 2019”). Mae Adran 4 o Ddeddf OGCC 2019 yn rhoi’r pŵer i’r Ombwdsmon gynnal ymchwiliadau ar ei liwt ei hun, nad oes angen iddynt gael eu sbarduno gan gŵyn nac unigolyn.
Gallwn gynnal dau fath o ymchwiliad ar ei liwt ei hun, y cyfeiriwn atynt fel:
Ymchwiliad Estynedig – gallwn gychwyn y math hwn o ymchwiliad pan fyddwn yn penderfynu, yn ystod ymchwiliad presennol, fod materion ychwanegol, neu gamau gweithredu corff arall o fewn ein hawdurdodaeth, yn awgrymu camweinyddu a/neu fethiant gwasanaeth a dylid eu hystyried hefyd.
Ymchwiliad Ehangach ar ei Liwt ei Hun – mae’r math hwn yn ymchwiliad annibynnol na fydd fel arfer yn ymwneud â chwyn neu berson unigol penodol. Gellir cychwyn ymchwiliad ehangach ar ei liwt ei hun i ystyried a oes tystiolaeth o, neu botensial ar gyfer, camweinyddu systemig neu eang a/neu fethiant gwasanaeth ar ran corff (neu gyrff) o fewn awdurdodaeth, a allai achosi niwed neu anghyfiawnder i grŵp eang o unigolion. Mae ymchwiliad ehangach ar ei liwt ei hun yn rhoi’r cyfle i ni ddarparu gwasanaeth sy’n ymatebol i faterion cyfredol, sy’n canolbwyntio ar y dinesydd ac sy’n addas ar gyfer y dyfodol.
Mae rhagor o fanylion am y weithdrefn a’r meini prawf ar gyfer ymchwiliadau ar ei liwt ei hun i’w gweld ar dudalen ‘Ymchwiliadau ar ei liwt ei hun’ ein gwefan, o dan y tab ‘Amdanom ni’.
Yr hyn gallwn ei wneud
Mae gennym ddisgresiwn i gychwyn ymchwiliadau ehangach ar ei liwt ei hun mewn perthynas ag unrhyw gyrff o fewn ein hawdurdodaeth i ystyried a oes tystiolaeth sy’n:
- Awgrymu bod camweinyddu systemig/methiant gwasanaeth wedi digwydd
- Dangos bod camweinyddu systemig/methiant gwasanaeth yn bodoli
- Dangos bod potensial ar gyfer camweinyddu systemig/methiant gwasanaeth
- Awgrymu y gallai camweinyddu neu fethiant gwasanaeth a nodwyd fod yn fwy cyffredin a systemig
Nid yw camweinyddu a methiant gwasanaeth wedi’u diffinio yn Neddf OGCC 2019. Fel gyda’n holl ymchwiliadau, y prif brawf yw a yw corff cyhoeddus wedi gweithredu yn unol â’r gyfraith, ei bolisïau a’i weithdrefnau ei hun ac yn unol â safonau gweinyddu da. Gall enghreifftiau o gamweinyddu a methiant gwasanaeth gynnwys oedi wrth gymryd camau gweithredu, methiannau wrth ddelio â phobl yn agored ac yn gymwynasgar, methiannau wrth gynnal cofnodion digonol, methiannau wrth weithredu’n deg a methiannau o ran adolygu polisïau a gweithdrefnau’n rheolaidd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein canllawiau Egwyddorion Gweinyddu Da , sydd â’r bwriad o helpu cyrff cyhoeddus i sicrhau eu bod yn darparu gweinyddiaeth dda a gwasanaeth cwsmeriaid da. Lle mae gwasanaethau’n cael eu comisiynu, mae’n ddyletswydd ar bob gwasanaeth cyhoeddus i sicrhau bod ganddynt brosesau digonol ar waith i fonitro’r gwasanaethau hynny’n iawn.
Gall ymchwiliad ehangach ar ei liwt ei hun ganolbwyntio ar wasanaeth neu wasanaethau a ddarperir gan gorff unigol o fewn ei awdurdodaeth neu ystyriaeth o’r un materion ar draws nifer o gyrff o fewn ei awdurdodaeth.
Sut y byddwn yn penderfynu
Byddwn yn defnyddio ein disgresiwn i benderfynu a oes angen cychwyn ymchwiliad. Byddwn yn ystyried tystiolaeth sydd ar gael i sefydlu a yw’r meini prawf ar gyfer cychwyn ymchwiliad yn cael eu bodloni, gan gynnwys:
- A yw’r mater er budd y cyhoedd
- A oes amheuaeth resymol bod camweinyddu systemig a allai achosi i berson, neu grŵp o bobl, ddioddef anghyfiawnder neu galedi
- A yw’r pryderon o’r fath fel y byddent yn effeithio ar grŵp eang o ddinasyddion neu unigolion, yn enwedig os gallant fod yn agored i niwed neu dan anfantais ac yn ymddangos yn debygol o ddioddef anghyfiawnder neu galedi o ganlyniad
- Pwysau’r dystiolaeth
- Grym perswâd y dystiolaeth
Er nad oes diffiniad sy’n cael ei dderbyn yn gyffredinol o ‘budd y cyhoedd’, mae’n cael ei ystyried yn “rhywbeth sydd o bryder difrifol ac o les i’r cyhoedd”. Credwn ei fod yn rhywbeth sy’n cael effaith ar y cyhoedd ac nid mater sydd o ddiddordeb i’r cyhoedd yn unig mohono, nac ychwaith mater sy’n effeithio ar un unigolyn yn unig (er mae’n bosibl i’r mater effeithio yn fwy uniongyrchol ar un unigolyn na’r cyhoedd yn gyffredinol).
Yn y cyd-destun hwn, nid yw’r cyhoedd yn cyfeirio o reidrwydd at boblogaeth Cymru gyfan. Gall gyfeirio at ran benodol o’r cyhoedd megis cymuned fach neu grŵp buddiant.
Gallwn ystyried tystiolaeth o nifer o ffynonellau, gan gynnwys:
- Achwynwyr a/neu gorff y cwynwyd amdanynt/amdano
- Tystion
- Darparwyr gwasanaethau cyhoeddus eraill, Rheoleiddwyr, sefydliadau trydydd sector a thrydydd partïon eraill
- Data ‘ffynhonnell agored’ cyhoeddedig
- Y Cyfryngau
- Achwynwyr dienw
- *Chwythwyr chwiban (gweler isod)
- Pryderon sy’n deillio o gwynion a dderbyniwyd a/neu a ymchwiliwyd gennym gan aelodau’r cyhoedd neu wybodaeth a gafwyd o waith gwella’r swyddfa.
Cam 1 - Ymgynghoriad
Nodir y weithdrefn y mae’n rhaid i ni ei dilyn cyn cychwyn ymchwiliad ehangach ar ei liwt ei hun yn adran 4 o Ddeddf OGCC 2019. Rhaid i ni ystyried budd y cyhoedd wrth gychwyn ymchwiliad, rhaid i ni fod ag amheuaeth resymol bod camweinyddu systemig neu anghyfiawnder systemig wedi digwydd o ganlyniad i arfer barn broffesiynol mewn achosion iechyd a gofal cymdeithasol, ac mae’n rhaid i ni roi sylw i’n meini prawf cyhoeddedig. Rhaid i ni hefyd ymgynghori â’r bobl hynny y mae’r Ombwdsmon yn eu hystyried yn briodol. Bydd hyn yn cynnwys, ymhlith eraill, Comisiynwyr Cymru, cyrff rheoleiddio eraill a/neu’r Archwilydd Cyffredinol. Efallai y bydd modd, mewn rhai amgylchiadau, cydweithio ag un o’r cyrff hyn, cynnal ymchwiliad ar y cyd a chynhyrchu adroddiad ar y cyd.
Efallai y byddai hefyd yn briodol ceisio barn y cyhoedd ehangach, drwy hysbysebu manylion yr ymchwiliad arfaethedig ar ein gwefan, yn y cyfryngau a/neu drwy gynnal digwyddiadau trafod.
Cam 2 - Cynnig
Pan fyddwn yn cychwyn ymchwiliad ehangach ar ei Liwt ei Hun, rhaid i ni ddilyn y weithdrefn a nodir yn adran 18 o Ddeddf OGCC 2019. Rhaid i ni baratoi cynnig ymchwiliad a’i gyflwyno i’r corff neu’r cyrff cyhoeddus y bwriadwn ymchwilio iddynt. Bydd y cynnig yn cynnwys cwmpas arfaethedig yr ymchwiliad, y rheswm dros gynnig yr ymchwiliad, pam y mae’r meini prawf ar ei liwt ei hun yn cael eu bodloni a’r rhesymeg dros gynnig cynnwys y corff neu’r cyrff. Gwahoddir y corff neu’r cyrff hefyd i roi eu sylwadau ysgrifenedig ac i fynegi eu barn ynghylch a oes gwerth ymchwilio. Cânt hefyd gyfle i gwrdd a thrafod y cynnig.
Ymchwiliad
Bydd y weithdrefn ar gyfer cynnal ymchwiliad ehangach ar ei liwt ei hun yn un y mae’r Ombwdsmon yn ei hystyried yn briodol yn amgylchiadau’r achos. Bydd yr ymchwiliad yn cael ei reoli yn unol â’n prosesau safonol ar gyfer ymdrin â chwynion.
Bydd llythyr yn cynnwys manylion a chwmpas yr ymchwiliad yn cael ei rannu â’r cyrff dan sylw. Bydd y broses ymchwilio, ynghyd ag amserlenni arfaethedig, hefyd yn cael eu rhannu er gwybodaeth.
Yn ystod ymchwiliad, mae gan yr Ombwdsmon y pŵer o dan Adran 19 o Ddeddf OGCC 2019 i archwilio unrhyw gofnodion yr ydym yn eu hystyried yn berthnasol i’r ymchwiliad. Felly, bydd llythyr cychwyn yr ymchwiliad yn cynnwys cais am wybodaeth, cofnodion a data. Mae’n debygol y bydd ceisiadau pellach am wybodaeth yn cael eu gwneud wrth i’r ymchwiliad fynd rhagddo. Mae hefyd yn debygol y bydd tystiolaeth yn cael ei chasglu gan staff perthnasol trwy ddefnyddio arolygon a/neu gyfweliadau. Mae’n ddyletswydd ar y corff, neu’r cyrff, a ymchwiliwyd iddynt sicrhau eu bod yn darparu manylion cyswllt ar gyfer yr holl aelodau perthnasol o staff.
Ystyrir tystiolaeth hefyd o ffynonellau y tu allan i’r corff neu’r cyrff a ymchwiliwyd iddynt, er enghraifft, gan gyrff perthnasol eraill, rhanddeiliaid a/neu ddefnyddwyr gwasanaethau. Bydd deddfwriaeth berthnasol a chanllawiau cenedlaethol hefyd yn cael eu hystyried a gellir ceisio cyngor proffesiynol gan un o gynghorwyr proffesiynol yr Ombwdsmon.
Yn aml, mae’n ddefnyddiol, ac yn ddoeth, i’r corff, neu’r cyrff, sy’n cael eu hymchwilio, benodi person cyswllt o fewn y maes gwasanaeth sy’n cael ei ymchwilio, i gynorthwyo gyda darparu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani ac i fynd i’r afael ag unrhyw gwestiynau yn ystod yr ymchwiliad. Fel gyda’n prosesau safonol ar gyfer ymdrin â chwynion, byddwn hefyd yn copïo gohebiaeth a cheisiadau i Swyddog Cyswllt OGCC sydd eisoes wedi’i ddynodi gan bob corff yr ymchwilir iddynt.
Oni bai y rhoddir gorau i’r ymchwiliad am unrhyw reswm, ar ôl cwblhau’r ymchwiliad, bydd adroddiad drafft yn cael ei rannu â’r corff, neu’r cyrff, sy’n destun ymchwiliad i ganiatáu iddynt wneud sylwadau ar unrhyw anghywirdebau, ar ganfyddiadau’r ymchwiliad ac unrhyw argymhellion arfaethedig. Bydd unrhyw sylwadau a dderbynnir yn cael eu hystyried cyn cwblhau a chyhoeddi’r adroddiad ar yr ymchwiliad.
Yr hyn na allwn ei wneud
Er y gallwn ystyried gwybodaeth a ddarperir gan bersonau a allai fodloni’r diffiniad statudol o chwythwr chwiban, nid yw’r Ombwdsmon yn ‘berson rhagnodedig’ o dan y Gorchymyn Datgelu er Budd y Cyhoedd (Personau Rhagnodedig) 2014 mewn perthynas â rôl yr Ombwdsmon o ystyried cwynion am gamweinyddu neu fethiant gwasanaeth ynghylch cyrff cyhoeddus yng Nghymru. Mewn amgylchiadau o’r fath, er y gallwn ystyried unrhyw gyfathrebiadau o’r fath wrth benderfynu a ddylid cynnal ymchwiliad ar ei liwt ei hun, byddwn yn cyfeirio unrhyw chwythwyr chwiban dichonol at unrhyw gorff perthnasol arall a/neu’r ‘person rhagnodedig’ priodol yn dibynnu ar natur y mater a godwyd. Ni fydd unrhyw ymchwiliad a fydd yn deillio o hyn yn disodli nac yn ymyrryd â dyletswyddau, cyfrifoldebau a phrosesau chwythu’r chwiban y cyrff cyhoeddus dan sylw.
Cysylltwch â ni
Gallwch gyflwyno syniad ar gyfer ymchwiliadau ar ei liwt ein hun ar dudalen ‘ymchwiliadau ar ei liwt ei hun’ ein gwefan, o dan y tab ‘Amdanom Ni’.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am ymchwiliadau ar ei liwt ein hun, cysylltwch â ni: Areiliwteihun @ombwdsmon.cymru