Cyllid Myfyrwyr
Cyflwyniad
Os ydych chi yn byw fel arfer yng Nghymru ac yn astudio naill ai yng Nghymru, neu yn unrhyw le arall yn y DU, mae’n bosibl bod gennych hawl i gael cyllid myfyrwyr i dalu costau eich ffioedd dysgu a’ch costau byw.
Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru yn darparu cyllid, ar ran Llywodraeth Cymru, tuag at y ffioedd a’r costau byw sy’n wynebu myfyrwyr wrth astudio mewn addysg uwch. Cyllid Myfyrwyr Cymru (fel cangen weithredol o Gwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr (CBF) sy’n gyfrifol am asesu a yw myfyrwyr yn gymwys i gael cymorth ariannol, ac am brosesu a thalu benthyciadau a grantiau i fyfyrwyr.
Mae gan CBF drefn gwyno y dylid cyfeirio cwynion am safon y gwasanaeth ati. Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad cyllido myfyriwr, mae angen i chi ddilyn y broses apelio. Er nad yw’r CBF yn gorff sydd o fewn ein pwerau, pan fo’r CBF yn cyflawni un o swyddogaethau Llywodraeth Cymru (wrth weinyddu cyllid myfyrwyr yng Nghymru), mae ei weithredoedd o fewn ein pwerau. Fodd bynnag, rhaid i chi gwyno wrth y CBF cyn cyflwyno eich cwyn i ni.
Yr hyn gallwn ei wneud
Mae’ n bosibl i ni edrych ar gwynion am:
- gyfathrebu gwael;
- methiant wrth asesu neu brosesu ceisiadau am gyllid myfyrwyr;
- methiannau wrth reoli grantiau a lwfansau ar ôl penderfyniad hawl.
Yr hyn na allwn ei wneud
Ni allwn:
- edrych ar gwynion am faterion sy’n ymwneud â chyllid myfyrwyr nad ydynt wedi’u datganoli i Lywodraeth Cymru – e.e. y cynllun Ad-dalu Benthyciadau Athrawon;
- ystyried apeliadau yn erbyn penderfyniadau sydd wedi’u gwneud yn briodol.
Gwybodaeth bellach
Gallwch gael cyngor annibynnol di-dâl gan eich Cyngor ar Bopeth leol a all eich helpu i gyflwyno cwyn: https: /www.citizensadvice.org.uk/cymraeg/
Gallwch hefyd gael mwy o wybodaeth am sut i gwyno am gyllid myfyrwyr ar y gwefannau canlynol:
- Cyllid Myfyrwyr Cymru – www.cyllidmy fyrwyrcymru.co.uk; a,
- Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr – www.slc.co.uk/
Cysylltu â ni
Os ydych yn ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203.