Ein safonau mewn achosion gofal clinigol

Mae gennym y pŵer i osod ein safon ein hunain i gefnogi penderfyniadau ynghylch a fu methiant gwasanaeth wrth arfer dyfarniad neu ymarfer clinigol yng Nghymru.

Pan fyddwn yn ystyried cwynion am ofal a thriniaeth glinigol, rydym yn ystyried a yw’r gofal a’r driniaeth glinigol wedi bod yn briodol. Ein nod yw sefydlu’r hyn a fyddai wedi bod yn ofal a thriniaeth briodol yn y sefyllfa y cwynwyd amdano, a phenderfynu a oedd y gofal, triniaeth neu’r penderfyniadau y cwynwyd amdanynt yn ddiffygiol o hynny.

Byddwn yn ceisio sefydlu’r hyn a gyfansoddwyd yn ofal a thriniaeth glinigol briodol ar ffeithiau’r achos trwy gyfeirio at ystod o ddeunyddiau, gan gynnwys safonau neu ganllawiau perthnasol, cyfrifon yr achwynydd, y clinigwr neu’r sefydliad sy’n derbyn y gŵyn, ac unrhyw gofnodion a gwybodaeth berthnasol eraill.

Mae’r safonau neu’r arweiniad perthnasol y gallwn eu hystyried mewn achosion iechyd yn cynnwys canllaw’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) a chanllaw a gefnogir gan NICE, llwybrau clinigol, Codau Ymarfer a chanllaw rheoleiddwyr proffesiynol, canllaw gan Golegau Brenhinol, protocolau neu bolisïau cenedlaethol a lleol, Cyfarwyddebau Llywodraeth Cymru a chanllaw perthnasol eraill.

Wrth benderfynu a oedd safon neu ganllaw yn berthnasol yn y sefyllfa y cwynwyd amdano, byddwn yn ystyried ffactorau megis a oedd ar waith ar adeg y digwyddiadau y cwynwyd amdanynt ac a oedd yn gymwys i’r gofal a’r driniaeth a dderbyniwyd gan y person ac i’r lleoliad ble gynhaliwyd y gofal a’r driniaeth.

Byddwn yn gofyn i’r clinigwr neu’r sefydliad y cwynwyd amdano i’n hysbysu o ba safonau neu ganllawiau y defnyddiwyd i seilio eu harferion, a oeddent wedi eu dilyn neu wedi gwyro oddi wrthynt yn y sefyllfa y cwynwyd amdano a pham. Os oes safon neu ganllaw perthnasol ac nad yw’n ymddengys bod y penderfyniadau, gweithredoedd a dyfarniadau clinigol wedi bod yn unol â hynny, byddwn yn ystyried pa dystiolaeth sydd ar gael i esbonio hyn. Byddwn yn dod i benderfyniad ynghylch a fu gofal neu driniaeth glinigol briodol. Wrth wneud hynny, byddwn yn ystyried esboniadau’r rhai y cwynwyd amdanynt a’u cydbwyso yn erbyn safonau neu ganllaw perthnasol.

Hefyd, byddwn yn ystyried “Egwyddorion Gweinyddu Da a Chofnodion Da” i’r graddau eu bod yn berthnasol i’r cyd-destun clinigol.

 

Ein hagwedd  tuag at gwynion iechyd yn ystod Pandemig Covid-19

Mae COVID-19 a’r mesurau iechyd cyhoeddus sydd wedi’u rhoi ar waith i atal yr haint rhag lledaenu wedi gwneud pethau yn anoddach i fyrddau iechyd yng Nghymru ddarparu triniaeth ar gyfer cyflyrau nad ydynt yn ymwneud â COVID-19. Pan fu cyfraddau’r haint a derbyniadau ysbyty ar eu brig, roedd adnoddau staff wedi’u hymestyn yn arw i’r graddau bod triniaethau ar gyfer cyflyrau eraill nad ydynt yn ymwneud â COVID wedi’u hatal am gyfnodau maith.   Hyd yn oed pan ddarparwyd triniaethau eraill, mae mesurau iechyd cyhoeddus a’r angen am bellter cymdeithasol wedi cyfyngu’n sylweddol y gallu o fewn byrddau iechyd i gael triniaeth.

Bydd ein hasesiad ac ymchwiliad i gwynion iechyd yn ymwneud â’r Pandemig (o fis Mawrth 2020) yn cael eu hystyried yn ofalus yn y cyd-destun hwn.  Byddwn yn parhau i ddefnyddio ein Safonau mewn Gofal Clinigol i benderfynu a fu’r gofal a thriniaeth glinigol yn briodol o dan yr amgylchiadau.  Bydd hyn yn cynnwys ystyried a yw byrddau/ ymddiriedolaethau iechyd wedi adolygu achosion a blaenoriaethu asesiadau neu driniaeth yn briodol.  Wrth wneud hynny, byddwn yn ystyried unrhyw ganllawiau ynghylch sut i fonitro a blaenoriaethu amseroedd aros ar gyfer unrhyw asesiadau neu driniaeth frys yn ystod y Pandemig a allai fod wedi’u cyhoeddi gan sefydliadau gan gynnwys Llywodraeth Cymru a’r GIG yng Nghymru, y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE), Codau Ymarfer rheoleiddwyr proffesiynol a chanllawiau gan Golegau Brenhinol.

Byddwn yn ystyried anghenion y claf unigol ac yn gofyn i’r clinigwr neu’r sefydliad sy’n destun i’r gŵyn ddweud wrthym pa safonau neu ganllawiau, os o gwbl, y gwnaethant selio eu harfer arnynt, a wnaethant eu dilyn neu wyro oddi wrthynt a pham.  Os oes safon neu ganllaw perthnasol “sy’n ymwneud â Covid” ac os ymddengys nad yw’r penderfyniadau, y camau gweithredu neu’r dyfarniadau clinigol a gymerwyd yn unol â hwy, byddwn yn ystyried pa dystiolaeth a allai esbonio hynny.  Lle bydd unrhyw gŵyn yn ymwneud â chyfnod brig haint a derbyniadau ysbyty mewn unrhyw ardal benodol, byddwn yn ystyried effaith hyn ar allu’r sefydliad i gydbwyso’r gofynion ar ei adnoddau a’i gapasiti i ddarparu triniaeth wrth ddod i benderfyniad ynghylch a fu gofal a thriniaeth briodol.  Wrth wneud hynny, byddwn yn ystyried esboniadau’r sawl y cwynwyd amdanynt ac yn eu cydbwyso yn erbyn y safonau neu’r canllawiau perthnasol sy’n ymwneud â COVID a oedd ar gael ar adeg y digwyddiadau y cwynwyd amdanynt.

Byddwn hefyd yn parhau i ystyried ‘Egwyddorion Gweinyddiaeth Dda a Rheoli Cofnodion Yn Dda’ i’r graddau y maent yn berthnasol i gyd-destun clinigol darparu triniaeth yn ystod y Pandemig.