Roedd Mr D wedi cysylltu eisoes (yn 2014, 2015 a 2016) gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (“y Cyngor”) am wallau yn y Gymraeg yn y wybodaeth a’r biliau Treth Cyngor a dderbyniwyd ganddo. Yn 2017, ar ôl derbyn bil yn cynnwys camgymeriadau ieithyddol eto, cwynodd Mr D’n  ffurfiol at y Cyngor ac wedyn at yr Ombwdsmon. Tybiodd yr Ombwdsmon y gallai ddatrys yr anghydfod drwy ddefnyddio’i bwerau sy’n caniatáu datrysiad cynnar, yn hytrach nag ymchwiliad llawn, o dan a3 o’r Ddeddf. I’r perwyl hyn, ar y 3 Hydref 2017, cytunodd y Cyngor yn ffurfiol i ymddiheuro i Mr D yn ysgrifenedig am y diffygion yn y Gymraeg, i dalu iawndal iddo o £50 am ei drafferthion, a rhoi sicrhad y byddai’r gwallau yn cael eu cywiro mewn pryd ar gyfer cyfnod bilio 2018/2019 (os nad yn gynt).

Derbyniodd Mr D y bil am 2018/2019 ym mis Mawrth 2018. Gwelodd fod yna eto nifer o wallau yn y Gymraeg (ac anghysondeb yn y ddogfen rhwng y Gymraeg a’r Saesneg). Fe gwynodd at yr Ombwdsmon bod y Cyngor wedi methu a chydymffurfio gyda’i argymhellion wedi’r cwbl, ac yn arwydd “o ddifaterwch tuag at drethdalwyr, y Gymraeg, y gyfraith a’r Ombwdsmon”.

Wrth weld y dystiolaeth, penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd yn fodlon bod y Cyngor wedi gweithredu’r argymhellion yn llawn fel y cytunwyd. Penderfynodd bod yn ofynnol arno i erfyn ei bwerau i gyhoeddi adroddiad arbennig er mwyn cyfleu’r neges at gyrff cyhoeddus bod datrysiadau cynnar o dan y Ddeddf yn faterion ffurfiol. Mae’n ofynnol ar gyrff i gydymffurfio â hwy wedi cytuno. Roedd yr adroddiad yn feirniadol o fethiant y Cyngor i weithredu’r argymhellion yn eu cyfanrwydd er i’r Cyngor gytuno’n ffurfiol i wneud hynny, a’i fod ond yn awr yn gweithio i wneud y newidiadau perthnasol ar gyfer y flwyddyn dreth nesaf. Gan fod y Cyngor yn defnyddio’r un gyfundrefn ar gyfer hysbysebion Budd-daliadau Tai, nid oedd yr Ombwdsmon yn hyderus o ran eu cywirdeb chwaith. Felly, fe wnaeth yr Ombwdsmon yr argymhellion pellach, fel a ganlyn, a chytunodd y Cyngor i’w gweithredu:

(a) Danfon ymddiheuriad ysgrifenedig eto at Mr D am yr oedi parhaus i gywiro’r gwallau ieithyddol yn y ddogfen Treth Cyngor (o fewn un mis);

(b) Cynnig iawndal o £100 iddo am yr anghyfiawnder achoswyd iddo ac am ei drafferth wrth orfod codi’r mater eto gyda’r Ombwdsmon (o fewn un mis);

(c) Creu proses ysgrifenedig ynghylch y weithdrefn mae’r Cyngor wedi datgan sydd yn ddefnydd ganddo wrth gynhyrchu’r Hysbysiad blynyddol (o fewn tri mis);

(ch) Sicrhad y Prif Weithredwr, yn ysgrifenedig, y byddai holl ddogfennau’r Cyngor ynghylch Treth Cyngor, a Budd-daliadau Tai, yn cael eu gyrru at bartneriaid cyfieithu’r Cyngor i’w hadolygu (a chywiro fel bod angen). Dylid cwblhau’r dasg cyn eu cyflwyno i’r systemau meddalwedd ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf (2019/2020) mewn perthynas â’r Dreth Cyngor, ac erbyn y flwyddyn wedyn (2020/2021) ar gyfer Budd-daliadau Tai.

(d) Yn y cyfamser, creu Hysbysiad Treth Cyngor unigol cywir (fel y gwnaethpwyd ar gyfer Mr D) i unrhyw unigolyn arall sydd yn gofyn amdano yn y Gymraeg (fel y bydd angen, yn ôl y gofyn, cyn mis Chwefror 2019.