Crynodeb

Cwynodd Mr A a Mr B fod Llywodraeth Cymru wedi methu â defnyddio ei phwerau i sicrhau bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir Ddinbych yn cymryd camau i ddiwallu’r angen am lety ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr yn unol â gofynion Deddf Tai (Cymru) 2014.  Cwynodd Mr A a Mr B hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi methu â delio yn briodol â chwyn a wnaethant am y mater hwn.

Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd i ddiwallu anghenion llety ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr.  Mae’n ofynnol iddynt nodi ac asesu’r angen yn eu hardal a chyflwyno cynllun i Lywodraeth Cymru i’w gymeradwyo.  Felly, mae gan Lywodraeth Cymru rôl arweiniol hollbwysig o ran sicrhau bod awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswyddau o ran darparu llety.

Canfu’r ymchwiliad fod Llywodraeth Cymru wedi methu â chyflawni’r rôl hon a bod ei methiant i ymateb i Gynghorau Conwy a Sir Ddinbych wedi cyfyngu ar allu Conwy a Sir Ddinbych i ddiwallu’r angen am lety i Sipsiwn a Theithwyr.  Mae hyn wedi achosi rhwystredigaeth a gofid i Mr A a Mr B, y mae eu hanghenion llety yn dal heb eu diwallu.  Hefyd, mae’n debygol bod eraill yn y gymuned wedi’u heffeithio, neu y gallent gael eu heffeithio, gan y methiant hwn.

Ni chafodd cwyn Mr A a Mr B ei thrin yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru.  Roedd eu cwyn wedi’i hystyried yn anghywir fel un na ellid ei hystyried o dan y polisi.  Roedd yr amser a gymerwyd i roi gwybod iddynt nad oedd eu cwyn yn cael ei hystyried yn ormodol.

Argymhellais y dylai Llywodraeth Cymru ymddiheuro i Mr A a Mr B am y methiannau a nodir yn yr adroddiad hwn a chynnig taliad o £1,000 yr un iddynt i gydnabod yr anghyfiawnder a achoswyd iddynt oherwydd y methiannau hyn.  Argymhellais hefyd y dylai Llywodraeth Cymru roi gwybod i awdurdodau lleol o’r gofyniad i barhau i gymryd camau i ddiwallu’r angen mewn Asesiadau o Lety Sipsiwn a Theithwyr cymeradwy tra bod Asesiadau o Lety Sipsiwn a Theithwyr diweddaredig yn cael eu hasesu, i benderfynu a ddylid cymeradwyo’r Asesiadau o Lety Sipsiwn a Theithwyr diwygiedig a gyflwynwyd gan awdurdodau lleol ac i sefydlu cynllun ar gyfer sut y byddant yn adolygu’r broses o Asesu Llety Sipsiwn a Theithwyr a threfniadau monitro.  O ran ymdrin â chwynion, argymhellais y dylai Llywodraeth Cymru atgoffa staff sy’n delio â chwynion o bwysigrwydd ymateb mewn modd amserol a sicrhau bod yr holl staff sy’n delio â chwynion yn cael hyfforddiant ar ei pholisi cwynion a sut y dylid ei gymhwyso.  Cytunodd Llywodraeth Cymru i gyflawni’r argymhellion hyn.