Rydym yn cynnig sesiwn hyfforddi ar-lein am ddim i esbonio ein rôl, ein proses, a sut y gallwn gefnogi etholwyr.

Mae’r sesiwn yn amlinellu’r hyn a wnawn, sut rydym yn gweithio, a sut i gael gwerth gorau o’n gwasanaeth.

Mae ein hyfforddiant yn cynnwys y modiwlau canlynol:

  1. Ein rôl a’n pwerau – yr hyn y gallwn a’r hyn na allwn edrych arno
  2. Sut rydym yn ystyried cwyn – ein dull a’n proses o wneud penderfyniadau
  3. Cyflwyno tystiolaeth – dull gorau o anfon gwybodaeth atom
  4. Cyfathrebu a chymorth – sut i gysylltu â ni a pha gymorth ychwanegol y gallwn ei ddarparu

Mae pob modiwl yn cynnwys amser ar gyfer cwestiynau, ac yna sesiwn holi ac ateb terfynol ar gyfer unrhyw beth nad yw eisoes wedi’i gynnwys.

Os hoffech drefnu’r hyfforddiant hwn, anfonwch e-bost at cyfathrebu@ombwdsmon.cymru