Ein nod yw dileu, lleihau ac atal unrhyw rwystrau i fynediad ar gyfer pobl sy’n cwyno i ni.
Gwnawn ein gorau i’ch helpu i ddefnyddio ein gwasanaeth, cyn belled â bod yr hyn sydd ei angen arnoch yn rhesymol a chymesur.
Pan fyddwch yn cysylltu â ni, bydd bob amser yn ddefnyddiol pe baech yn rhoi gwybod i ni am eich anghenion a / neu os gallwch awgrymu pa gymorth fyddai’n gweithio i chi.
Gall eich sefyllfa newid dros amser. Os bydd hynny’n digwydd, rhowch wybod i ni. Efallai y byddwn hefyd yn gofyn i chi am eich anghenion wrth i ni edrych ar eich cwyn.
![]() |
Lawrlwythwch daflen am sut y gallwn ni eich helpu chi i ddefnyddio ein gwasanaeth [PDF, 368 KB] |
Pan fyddwn yn edrych ar gwynion, mae’n rhaid i ni fod yn annibynnol ac ni allwn weithredu fel eiriolwr i chi.
Ond, efallai bod arnoch angen help i wneud eich cwyn. Felly, rydym wedi casglu manylion rhai sefydliadau sy’n gallu cynnig cyngor ac eiriolaeth.
Gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth cyfieithu sy’n rhad ac am ddim, SignVideo, i siarad â ni (ar gael rhwng 10yb-12:30yp a 1:30yp-4yp, dydd Llun i ddydd Gwener).
Cyn y gallwch chi ddefnyddio SignVideo BSL byw, sicrhewch eich bod yn bodloni’r gofynion sylfaenol hyn:
- Dyfeisiau iOS (8 neu uwch); dyfeisiau Android (4.4 neu uwch); Cyfrifiadur (i3 neu uwch) neu Mac gyda gwe-gam
- IE9-11 neu Firefox ar gyfer Windows, Safari ar gyfer Mac
- Lle band o leiaf 256 kbk/s ar gyfer llwytho a lawrlwytho (Argymhellir 348 kbp/s).
Os dyma’r tro cyntaf i chi ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, bydd angen i chi lawrlwytho ‘plug-in’ byw. Mae hwn yn feddalwedd arbennig sy’n sicrhau bod ansawdd y fideo yn dda a bod eich galwad yn ddiogel.
Ar ôl i chi gysylltu â dehonglydd SignVideo, dywedwch wrthynt eich bod yn ffonio’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Yna, cewch eich cysylltu a gallwch ddechrau eich sgwrs yn Iaith Arwyddion Prydain.
Nid oes rhaid i chi lenwi ffurflenni – gallwch gwyno i ni dros y ffôn.
Gallwn ddarparu gwybodaeth i chi mewn Braille, mewn print bras neu ar gefndir lliw gwahanol.
Yn ogystal, mae bar offer ‘ReachDeck’ ar ein gwefan yn eich galluogi chi i drosi cynnwys ar-lein yn sain ar ein gwefan. Gallwch ddod o hyd i’r bar offer ar hyd y streipen ar frig y wefan.
Rydym yn gallu cefnogi pobl gyda chyflyrau gwahanol!
Er enghraifft, os oes gennych dyslecsia, nid oes rhaid i chi lenwi ffurflenni – gallwch gwyno i ni dros y ffôn. Gallwn hefyd drefnu i siarad â chi dros y ffôn pan rydym yn ystyried eich cwyn.
Mae llawer o’n dogfennau ar gael mewn fformat Hawdd ei Ddeall. Er enghraifft:
- Lawrlwythwch ffurflen cwyno am ddarparwr gwasanaeth mewn fformat Hawdd ei Ddarllen [PDF, 700 KB]
- Ewch i’n taflenni ffeithiau mewn fformat Hawdd ei Ddarllen.
Mae gennym statws Cyflogwr Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth. Mae pawb yn ein sefydliad yn derbyn hyfforddiant ymwybyddiaeth awtistiaeth er mwyn gallu eich cefnogi yn well. Mae un aelod o staff hefyd wedi ei dynodi fel Pencampwr Awtistiaeth, ac maen nhw’n gallu cynnig cyngor ar sut i ddiwallu eich anghenion.
Efallai y gallwn:
- drefnu i siarad â chi dros fideo
- drefnu i’ch ffonio ar amser penodol, neu roi gwybod i chi pryd y byddwn yn cysylltu â chi
- os ydych yn bryderus am siarad â phobl nad ydych yn eu hadnabod, gallwn drefnu i chi gael un pwynt cyswllt wrth i ni ddelio â’ch cwyn.
Mae llawer o’n dogfennau ar gael mewn fformat Hawdd ei Ddeall. Er enghraifft:
- Lawrlwythwch ffurflen cwyno am ddarparwr gwasanaeth mewn fformat Hawdd ei Ddarllen [PDF, 700 KB]
- Ewch i’n taflenni ffeithiau mewn fformat Hawdd ei Ddarllen.
Gallwn gyfieithu dogfennau eraill i mewn i fformat Hawdd ei Ddeall, os oes angen.
Gallwn eich cefnogi os dymunwch ddefnyddio iaith arall wrth gyfathrebu â ni.
مرحبًا بك في خدمة أمين المظالم
Ar waelod y wefan, cliciwch ar ‘Select Language‘ i ddewis eich iaith.
Yn ogystal, gallwn gyfieithu dogfennau i chi neu drefnu cyfieithu ar y pryd pan rydych yn siarad â ni.
Mae llawer o’n dogfennau ar gael mewn fformat Hawdd ei Ddeall. Er enghraifft:
- Lawrlwythwch ffurflen cwyno am ddarparwr gwasanaeth mewn fformat Hawdd ei Ddarllen [PDF, 700 KB]
- Ewch i’n taflenni ffeithiau mewn fformat Hawdd ei Ddarllen.
Gallwn gyfieithu dogfennau eraill i mewn i fformat Hawdd ei Ddeall, os oes angen.
