Dyddiad yr Adroddiad

12/21/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir y Fflint

Pwnc

Yr Amgylchedd ac Iechyd yr Amgylchedd

Cyfeirnod Achos

202105334

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X fod y Cyngor wedi anwybyddu ei e-byst a heb ddelio â’i gŵyn yn ymwneud â gwaredu matras yn briodol.

Wrth ystyried y gŵyn, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus er bod y Cyngor wedi hysbysu Mr X ei fod wedi uwchgyfeirio ei gŵyn, nad oedd ei bryderon wedi cael eu cofnodi’n ffurfiol. Yn lle ymchwilio i’r gŵyn, gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor wneud y canlynol i setlo cwyn Mr X:

a) Ymddiheuro wrth Mr X am fethu â chofnodi ei bryderon yn ffurfiol fel cwyn.
b) Rhoi ymateb ffurfiol i gŵyn Mr X.