Dyddiad yr Adroddiad

04/29/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Dinas Casnewydd

Pwnc

Yr Amgylchedd ac Iechyd yr Amgylchedd

Cyfeirnod Achos

202103771

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A fod y Cyngor wedi methu ag ymchwilio i gŵyn am niwsans sŵn yn unol â’i rwymedigaethau o dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990.

Nododd yr Ombwdsmon broblemau’n ymwneud â’r ffordd yr ymdriniwyd â chwyn Ms A ac ymatebion ffurfiol dilynol y Cyngor i gwynion. Penderfynodd setlo’r gŵyn.
Gofynnodd i’r Cyngor ymddiheuro am y diffygion, a chytunodd i wneud hynny, yn ogystal â chynnig ymweliad safle, sicrhau yr ymchwilir i unrhyw gwynion tebyg yn y dyfodol a chadarnhau’r camau a gymerwyd i atal materion tebyg yn y dyfodol rhag digwydd.