Dyddiad yr Adroddiad

04/30/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir y Fflint

Pwnc

Ymdriniaeth â chais cynllunio (arall)

Cyfeirnod Achos

202000274

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mr A fod adran gynllunio’r Cyngor wedi rhoi caniatâd cynllunio i godi tŷ ar safle datblygu newydd a oedd yn rhy agos i’w eiddo er nad oedd hyn yn gyson â’i ofynion cynllunio, ei bolisïau a’i Gynllun Datblygu Unedol (CDU). Roedd hefyd yn anfodlon ar y ffordd yr oedd y Cyngor wedi trafod y gŵyn, yn cynnwys cywirdeb ei ymateb i’r gŵyn.
Roedd ymchwiliad yr Ombwdsmon wedi canfod tystiolaeth bod y Cyngor wedi rhoi sylw i’w CDU o ran dwysedd y datblygiad a chynllun y safle. Daeth i’r casgliad hefyd nad afresymol oedd y penderfyniad a wnaeth y Cyngor fod y pellter gwahanu rhwng eiddo Mr A a’r datblygiad newydd yn un derbyniol. Er bod y Cyngor wedi methu â sicrhau bod ceisiadau cynllunio perthnasol yn crybwyll lefelau llawr gorffenedig, roedd yr Ombwdsmon wedi’i fodloni, mewn perthynas â’r cais cynllunio diweddaraf, fod adroddiad y Swyddog Cynllunio yn dangos ei fod wedi cyfeirio at y canllawiau perthnasol ac wedi cynnal asesiad. Yn ogystal â hyn, byddai ffotograffau a ddarparwyd i’r Pwyllgor Cynllunio wedi ei alluogi i roi ystyriaeth i lefelau’r tir a’r berthynas ag eiddo Mr A. Nid oedd yr Ombwdsmon wedi cadarnhau’r rhan hon o gŵyn Mr A.
Roedd yr Ombwdsmon wedi canfod diffygion yn y ffordd y deliwyd â’r gŵyn. Roedd hyn, ynghyd â’r gwallau ffeithiol yn yr ymateb i’r gŵyn, yn golygu bod y Cyngor wedi colli cyfle i ddysgu gwersi ehangach ar gyfer y sefydliad/swyddogion o gŵyn Mr A.
Argymhellodd yr Ombwdsmon fod y Cyngor yn ymddiheuro i Mr A am y methiannau wrth drafod y gŵyn ac yn atgoffa ei swyddogion cynllunio am y pwysigrwydd o sicrhau bod amodau/canllawiau mewn perthynas â lefelau tir gorffenedig yn cael eu gorfodi/cymhwyso.