Dyddiad yr Adroddiad

02/14/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Cymuned Bedwas, Tretomos a Machen

Pwnc

Ymdrin â chwynion

Cyfeirnod Achos

202106748

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd y Cynghorydd X am yr oedi cyn i’r Cyngor ystyried a datrys cwyn yr oedd Cynghorydd arall wedi’i gwneud yn ei erbyn. Roedd y gŵyn wedi cael ei gwneud ym mis Ebrill 2021 ac roedd yn dal i fynd ymlaen ym mis Ionawr 2022.

Nododd yr Ombwdsmon fod rhesymau dros yr oedi yn y broses a bod y Cynghorydd X yn ymwybodol o hyn. Fodd bynnag, dylai fod y mater wedi cael ei gwblhau yn llawer cynt ac roedd yr oedi wedi peri rhwystredigaeth i’r Cynghorydd X. Felly, cyfeiriodd y Cyngor y mater at Un Llais Cymru i’w ddatrys o fewn 6 wythnos.