Dyddiad yr Adroddiad

01/29/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Abertawe

Pwnc

Ymdrin â chwynion

Cyfeirnod Achos

202106178

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A am y ffordd yr ymdriniodd y Cyngor â chwynion, ei fethiant cychwynnol i ymateb i’w gŵyn a’i fod wedi rhoi ymateb gwrthgyferbyniol yn ei ymatebion i gŵyn Cam 1 a Cham 2 ar un elfen.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y mater cyntaf allan o amser i’w ystyried. Serch hynny, roedd yn pryderu bod yr ymatebion a ddarparwyd yn wrthgyferbyniol. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd i’r Cyngor ymddiheuro, o fewn un mis, am yr anghysondeb yn ei ymatebion ac i egluro sut ddigwyddodd hynny.