Dyddiad yr Adroddiad

12/22/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Ymdrin â chwynion

Cyfeirnod Achos

202106150

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X am y driniaeth a dderbyniodd hi a’i merch yn un o ysbytai’r Bwrdd Iechyd a’i bod hefyd yn dal i aros am ymateb gan y Bwrdd Iechyd i gŵyn ffurfiol a wnaeth ym mis Mai 2021, er iddo addo gwneud hynny.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus bod Ms X yn dal i aros am ymateb i’w phryderon ac felly cysylltodd â’r Bwrdd Iechyd. Yn lle cynnal ymchwiliad, cytunodd y Bwrdd Iechyd i roi ymateb ffurfiol i gŵyn Ms X erbyn 31 Ionawr 2022. Derbyniodd yr Ombwdsmon fod hyn yn setlo cwyn Ms X.