Dyddiad yr Adroddiad

02/15/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Ymdrin â chwynion

Cyfeirnod Achos

202106591

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs H am ofal ei thad ar ôl iddo gael ei dderbyn i Ysbyty wedi iddo ddioddef o strôc. Dywedodd fod yr ymateb i gŵyn a gyhoeddwyd gan y Bwrdd Iechyd ym mis Medi 2021 yn cynnig cyfarfod iddi pe bai’n teimlo y byddai hyn yn mynd i’r afael â’i phryderon. Dywedodd Mrs H iddi ymateb yn dweud y byddai’n gwerthfawrogi cyfarfod, ond ni chlywodd yn ôl.

Ar ôl ystyried ei chwyn, roedd yr Ombwdsmon o’r farn y gallai pryderon Mrs H a oedd heb eu datrys elwa o gael trafodaeth â staff perthnasol, ond roedd yn bryderus ynghylch yr amser yr oedd Mrs H eisoes wedi bod yn aros.

Felly cytunodd y Bwrdd Iechyd i drefnu cyfarfod rhwng Mrs H a staff perthnasol, i’w gynnal o fewn 1 mis o’r penderfyniad hwn.