Dyddiad yr Adroddiad

10/05/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Abertawe

Pwnc

Y dreth cyngor

Cyfeirnod Achos

202204059

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr S, er iddo gyflwyno cwynion i’r Cyngor, nad oedd wedi cael ymateb ysgrifenedig ffurfiol a theimlai na wrandawyd ar ei bryderon.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Cyngor gan ei bod yn bryderus nad oedd Mr S wedi cael ymateb ffurfiol eto. Fel dewis arall yn lle ymchwiliad, cytunodd y Cyngor i gydnabod pryderon Mr S yn ffurfiol erbyn 14 Hydref 2022 a chyflwyno ymateb ffurfiol i gŵyn Mr S erbyn 15 Tachwedd 2022. Derbyniodd yr Ombwdsmon hyn fel datrysiad i gŵyn Mr S.