Dyddiad yr Adroddiad

02/12/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Powys

Pwnc

Uniondeb

Cyfeirnod Achos

202104527

Canlyniad

Dim tystiolaeth o dorri’r Cod

Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Sir Powys (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad pan oedd yn ymddangos ei fod yn gyrru cerbyd yn ystod cyfarfod rhithwir. Adolygodd yr Ombwdsmon y recordiad clyweledol o’r cyfarfod a chael gwybodaeth gan yr Heddlu. Bu hefyd yn ystyried cyfrif a ddarparwyd gan yr Aelod. Canfu’r Ombwdsmon nad oedd tystiolaeth ar gael i gefnogi’r honiad bod yr Aelod yn gyrru yn ystod y cyfarfod rhithwir a daeth i’r casgliad nad oedd tystiolaeth bod yr Aelod wedi torri’r Cod Ymddygiad.