Dyddiad yr Adroddiad

09/02/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Gwynedd

Pwnc

Uniondeb

Cyfeirnod Achos

202002215

Canlyniad

Cyfeiriwyd at Panel Dyfarnu Cymru

Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn gan aelod o Gyngor Gwynedd a Chyngor Tref Frenhinol Caernarfon nad oedd Aelod (“yr Aelod”) o’r Cynghorau hynny wedi cydymffurfio â Chodau Ymddygiad y Cynghorau ar gyfer Aelodau.

Honnwyd bod yr Aelod wedi methu â dangos parch ac ystyriaeth i’r achwynydd dros nifer o fisoedd, a bod ei ohebiaeth yn awgrymu bod yr ymddygiad wedi’i fwriadu i fwlio a/neu harasio’r achwynydd.  Honnwyd bod yr Aelod wedi defnyddio, neu wedi ceisio defnyddio, ei swydd yn amhriodol ac wedi dwyn anfri ar ei swyddfa neu ei awdurdod drwy roi gwybodaeth a roddwyd iddo fel aelod etholedig ar Facebook, postio gwybodaeth yr oedd yn gwybod ei bod yn anghywir ar Facebook, postio gwybodaeth gyfrinachol ar Facebook a thrwy fod yn rhan o ddigwyddiad gan Yr Heddlu.  Dywedodd yr achwynydd hefyd fod yr Aelod wedi gwneud cwynion blinderus, maleisus neu wamal i’r Clerc, yr Ombwdsmon a’r heddlu am yr achwynydd.

Ystyriodd yr ymchwiliad a oedd yr Aelod wedi methu â chydymffurfio â darpariaethau canlynol y Cod Ymddygiad:

  • 4(b) – rhaid i aelodau ddangos parch ac ystyriaeth tuag at eraill.
  • 4(c) – ni chaiff aelodau fwlio nac aflonyddu ar unrhyw berson.
  • 5(a) – rhaid i aelodau beidio â datgelu gwybodaeth gyfrinachol neu wybodaeth y dylid yn rhesymol ystyried ei bod o natur gyfrinachol, heb ganiatâd penodol person sydd wedi’i awdurdodi i roi cydsyniad o’r fath, neu oni bai ei bod yn ofynnol yn ôl y gyfraith iddo wneud hynny.
  • 6(1)(a) – rhaid i aelodau beidio ag ymddwyn mewn modd y gellid yn rhesymol ystyried ei fod yn dwyn anfri ar eu swydd neu eu hawdurdod.
  • 6(1)(d) – rhaid i aelodau beidio â gwneud cwynion blinderus, maleisus neu wamal yn erbyn aelodau eraill neu unrhyw un sy’n gweithio i’w hawdurdod neu ar ei ran.
  • 7(a) – ni chaiff aelodau, yn rhinwedd eu swyddogaeth swyddogol neu fel arall, ddefnyddio neu geisio defnyddio eu swydd yn amhriodol i roi mantais iddynt hwy eu hunain, nac unrhyw berson arall, neu i greu neu osgoi anfantais iddynt hwy eu hunain neu i unrhyw berson arall.

 

Yn ystod yr ymchwiliad, daeth yn amlwg y gallai’r Aelod fod wedi methu â chydymffurfio â pharagraff 6(2) o’r Cod Ymddygiad – rhaid i aelodau gydymffurfio ag unrhyw gais gan yr Ombwdsmon mewn cysylltiad ag ymchwiliad a gynhaliwyd yn unol â’i bwerau statudol.

Canfu’r ymchwiliad fod yr Aelod, dros nifer o fisoedd, wedi rhannu gwybodaeth am yr achwynydd ar Facebook a gyda gweithwyr proffesiynol, sy’n gysylltiedig â’r ddau Gyngor, am yr achwynydd.  Roedd yr aelod hefyd wedi postio gwybodaeth, y dylid yn rhesymol ei hystyried yn gyfrinachol, am aelodau teulu’r achwynydd.  Canfu’r ymchwiliad fod yr Aelod wedi cysylltu â’r achwynydd yn y stryd ac wedi dechrau dadl a oedd yn golygu bod angen i’r heddlu ymyrryd.  Canfu’r ymchwiliad hefyd fod yr Aelod wedi gwneud nifer o gwynion i’r Clerc, Yr Heddlu ac i’r Ombwdsmon, nad oedd yn ddigon cadarn ac yr oedd yn ymddangos eu bod yn cael eu cymell gan falais neu gystadleuaeth wleidyddol.

Canfu’r Ombwdsmon fod ymddygiad yr aelod yn awgrymu torri paragraffau 4(b), 4(c), 6(1)(a), 6(1)(d), 6(2) a 7(a) o’r Cod Ymddygiad.  Ni chanfu fod paragraff 5(a) wedi’i dorri gan nad oedd yr Aelod yn gweithredu yn rhinwedd ei swydd fel aelod o’r Cyngor pan oedd yn rhannu’r wybodaeth honno.

Mewn perthynas â pharagraff 6(2) o’r Cod Ymddygiad, gwnaeth Swyddog Ymchwilio’r Ombwdsmon geisiadau rhesymol a phriodol mewn cysylltiad â’r ymchwiliad hwn.  Cynigiodd y Swyddog Ymchwilio hefyd addasiadau rhesymol i roi cyfle i’r Aelod gymryd rhan lawn yn y broses.  Fodd bynnag, methodd yr Aelod yn fwriadol â chymryd rhan yn fy ymchwiliad er mwyn ceisio tawelu’r broses a bod ei weithredoedd yn awgrymu bod paragraff 6(2) o’r Cod Ymddygiad wedi cael ei dorri.

Cyfeiriwyd yr adroddiad ar yr ymchwiliad at Lywydd Panel Dyfarnu Cymru ar gyfer dyfarniad gan dribiwnlys.

Daeth y Tribiwnlys i’r casgliad bod yr Aelod wedi torri paragraffau 6(1)(d), 6(2) a 7(a) o’r Cod Ymddygiad.  Yn unol â hynny, penderfynodd y Tribiwnlys y dylid atal yr Aelod o’r Cyngor am gyfnod o 9 mis neu, os yw’n fyrrach, gweddill ei gyfnod yn y swydd.  Canfu’r Tribiwnlys nad oedd yr Aelod wedi torri paragraff 4(c) o’r Cod Ymddygiad.  Er i’r Tribiwnlys ddod i’r casgliad bod yr Aelod “mewn egwyddor”, wedi torri paragraffau 4(b), 6(1)(a) a 7(a) o’r Cod Ymddygiad, byddai unrhyw gyfyngiad a osodwyd yn peryglu torri hawliau Erthygl 10 yr Aelodau o dan prima facie, yr hawl i ryddid mynegiant.  Felly, roedd y Tribiwnlys o’r farn nad oedd cyfiawnhad dros y cyfyngiad.