Dyddiad yr Adroddiad

02/08/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Benfro

Pwnc

COD - Uniondeb

Cyfeirnod Achos

202002749

Canlyniad

Cyfeiriwyd at Banel Dyfarnu Cymru

Ymchwiliodd yr Ombwdsmon i 3 chwyn a wnaed iddo gan 3 aelod o’r cyhoedd am Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Sir Benfro (“y Cyngor”).

Honnodd yr achwynydd cyntaf fod yr Aelod wedi awgrymu ar gyfryngau cymdeithasol fod gan gyd-Aelod o’r Cyngor ddiddordeb mewn plant a’i fod wedi rhannu delweddau o blentyn.  Honnwyd hefyd bod yr Aelod wedi honni ar gam fod yr achwynydd cyntaf wedi treulio cyfnod yn y carchar.

Honnodd yr ail achwynydd fod yr Aelod wedi postio gwybodaeth gamarweiniol am gwricwlwm Addysg Cyd-berthynas a Rhywioldeb (“RSE”) Llywodraeth Cymru ar gyfryngau cymdeithasol.

Honnodd y trydydd achwynydd fod yr Aelod wedi awgrymu ar bostiad cyhoeddus ar Facebook bod y trydydd achwynydd ar y gofrestr troseddwyr rhyw.

Canfu’r Ombwdsmon fod yr Aelod wedi datgan ar gam fod cyd-Aelod o’r Cyngor wedi rhannu fideo pornograffig cignoeth o ferch o dan 17 oed pan oedd yr Aelod hwnnw’n 18 oed.  Canfu’r Ombwdsmon hefyd fod yr Aelod wedi honni ar gam ar gyfryngau cymdeithasol ac mewn negeseuon e-bost i’w swyddfa fod yr achwynydd cyntaf wedi treulio cyfnod yn y carchar.

Roedd yr Ombwdsmon o’r farn nad oedd cynnwys y postiadau cyfryngau cymdeithasol a wnaed gan yr Aelod mewn perthynas â’r cwricwlwm RSE yn ffeithiol a’u bod yn gamarweiniol.

Canfu’r Ombwdsmon hefyd fod yr Aelod wedi awgrymu ar gam ar bostiad cyhoeddus ar Facebook bod y trydydd achwynydd ar y gofrestr troseddwyr rhyw.

Penderfynodd yr Ombwdsmon hefyd fod yr Aelod wedi ceisio ei gamarwain yn ystod yr ymchwiliad.

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad y gallai ymddygiad yr Aelod fod yn gyfystyr â thorri paragraffau 4(c) a 6(1)(a) o God Ymddygiad y Cyngor a chyfeiriodd ei adroddiad at Lywydd Panel Dyfarnu Cymru i’w ddyfarnu gan dribiwnlys.

Canfu Panel Dyfarnu Cymru fod yr Aelod wedi torri paragraffau 4(c) a 6(1)(a) ac wedi ei ddiarddel am 3 blynedd.