Dyddiad yr Adroddiad

08/25/2021

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202102552

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X am y gofal a’r driniaeth wael a gafodd gan bractis meddyg teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (“y Practis”). Roedd yn anhapus gyda’r feddyginiaeth yr oedd wedi’i rhoi ar bresgripsiwn a’r amser yr oedd hynny wedi ei gymryd.

Wrth wneud ymholiadau gyda’r Practis, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd yn ymddangos bod yr ymateb cychwynnol i’r gŵyn yn rhoi sylw i’r holl bryderon a godwyd gan Mr X ac nad oedd yn darparu digon o fanylion. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r mater heb ymchwiliad.

Er mwyn setlo’r gŵyn, cytunodd y Practis i baratoi ymateb pellach i’r gŵyn erbyn 10 Medi 2021.