Dyddiad yr Adroddiad

08/27/2021

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202101663

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A am y gofal a ddarparwyd gan Feddygfa Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (“y Practis”) i’w diweddar chwaer, mewn perthynas â’i phryder ac, yn benodol, bod y Practis wedi gwrthod ymweld â’i chartref cyn iddi farw. Cwestiynodd Mrs A y feddyginiaeth a roddwyd i’w chwaer yn dilyn strôc. Roedd hi’n anhapus gyda’r ymateb i’r gŵyn a dderbyniwyd gan y Practis.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd ymateb y Practis i gwynion ond yn darparu ymatebion cryno i’r cwestiynau penodol a godwyd ac roedd yn ymddangos nad oedd digon o fanylion, cyd-destun ac esboniad. Roedd rhywfaint o oedi hefyd wrth ymchwilio i gŵyn Mrs A ac o ran rhoi ymateb iddi.

Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Practis, o fewn 20 diwrnod gwaith, i roi ymateb pellach, manylach i Mrs A, gan roi sylw i’r pryderon a godwyd yn ei chwyn i’r Ombwdsmon, ynghyd ag ymddiheuriad ac esboniad am yr oedi wrth ymateb i’w chwyn gychwynnol. Barn yr Ombwdsmon oedd bod y camau uchod yn rhesymol i setlo cwyn Mrs A.