Dyddiad yr Adroddiad

02/17/2022

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202101471

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mr D am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei ddiweddar chwaer, Ms E, gan y Practis Meddyg Teulu yn ystod yr wythnosau yn arwain at ei marwolaeth ym mis Chwefror 2020, ac am yr anawsterau a gafodd wrth wneud apwyntiadau i Ms E. Roedd Ms E wedi cael llawdriniaeth a chemo-radiotherapi ar gyfer canser datblygedig y stumog yn 2017; er bod y siawns o lithro’n ôl yn eithaf uchel, nid oedd ganddi unrhyw symptomau gastroberfeddol pan gafodd ei hadolygu ddiwethaf gan lawfeddyg ymgynghorol ym mis Ebrill 2019.

Ni allai’r Ombwdsmon ddod i gasgliad ynghylch yr hyn a ddywedodd Mr D am wneud apwyntiadau i Ms E, gan na allai’r Practis ddarparu unrhyw gofnodion na gwybodaeth am hyn.

Canfu’r Ombwdsmon y dylai’r meddyg teulu fod wedi ystyried y gallai symptomau abdomenol Ms E fod yn gysylltiedig â’r canser y stumog blaenorol pan welodd hi ar 29 Ionawr, yn hytrach na rhoi diagnosis o gastroenteritis feirysol a thriniaeth ar gyfer hynny iddi. Pe bai wedi gwneud hynny, neu wedi rhoi cyngor “rhwyd diogelwch” priodol i Ms E (i fod yn effro i symptomau a fyddai’n dangos bod ei chyflwr yn gwaethygu a beth i’w wneud yn yr amgylchiadau hynny), roedd yn bosibl y byddai Ms E wedi cael ei hatgyfeirio i Gastroenteroleg neu ei derbyn i’r ysbyty cyn ei marwolaeth. Fodd bynnag, roedd yn annhebygol y byddai Ms E wedi byw’n sylweddol hirach, ac felly nid oedd Ms E wedi dioddef unrhyw anghyfiawnder o ganlyniad i’r methiannau. Felly, ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn.