Dyddiad yr Adroddiad

02/03/2022

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202005263

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mr E fod:
a) Y Practis wedi rhoi presgripsiwn ar gyfer tamsulosin iddo (meddyginiaeth a ddefnyddir i drin symptomau prostad sydd wedi gordyfu) pan oedd y feddyginiaeth honno eisoes wedi cael ei rhagnodi ar ei gyfer, a allai olygu ei fod yn cymryd gorddos.
b) Y Practis wedi tynnu ei enw oddi ar eu rhestr cleifion gan honni ei fod wedi bygwth aelod o staff yn ystod sgwrs ffôn.
c) Y Practis wedi methu â chydymffurfio â’i gais mai dim ond meddyg benywaidd fyddai’n ymwneud â’i ofal.
Canfu’r Ombwdsmon fod proses y Practis ar gyfer rhoi presgripsiynau, a chadw cofnodion mewn perthynas â hwy, yn briodol; roedd ymchwiliad gan y Practis wedi methu â chanfod sut roedd gwall wedi digwydd, ac nid oedd ymchwiliad pellach yn debygol o ddatrys hyn. Roedd y Fferyllydd wedi sylwi ar y presgripsiwn diangen/dyblyg, oedd yn golygu nad oedd Mr E wedi cymryd gorddos. Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod Mr E wedi gwneud bygythiadau ymhlyg i staff y Practis, a bod gan y Practis achos cyfiawn dros ei dynnu oddi ar ei restr cleifion. Canfu’r Ombwdsmon fod y Practis wedi gwneud yr hyn a allai i gydymffurfio â chais Mr E am feddyg benywaidd, ond bod apwyntiad wedi’i drosglwyddo ar un achlysur i feddyg gwrywaidd oherwydd salwch staff; gallai Mr E fod wedi gwneud apwyntiad arall gyda meddyg benywaidd pe dymunai. Nid oedd yr Ombwdsmon wedi cadarnhau’r cwynion.