Dyddiad yr Adroddiad

02/03/2023

Achos yn Erbyn

Trosnant Lodge

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202203255

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Ms B fod Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (“y Practis”) wedi methu â chynnig ymgynghoriad wyneb yn wyneb iddi a gofal na thriniaeth briodol ar gyfer problemau gyda’r trwyn a’r anadlu. Ers hynny, roedd wedi cael diagnosis o ganser. Yn anffodus, bu farw Ms B cyn i’r ymchwiliad ddod i ben.

Canfu’r Ombwdsmon, er y dylai Ms B fod wedi cael cynnig ymgynghoriad meddyg teulu wyneb yn wyneb yn ystod y cyfnod o 8 mis, nad oedd yn debygol y byddai wedi golygu bod angen atgyfeiriad neu ofal a thriniaeth amgen bryd hynny. Felly, roedd lefel yr anghyfiawnder yn gyfyngedig. Nid oedd unrhyw dystiolaeth bod Ms B wedi rhoi gwybod i’r Practis am symptomau a ddylai fod wedi arwain at atgyfeiriad brys i gael pelydr-X o’r frest. Nid oedd unrhyw dystiolaeth i awgrymu y dylai’r Practis fod wedi amau bod gan Ms B ganser yr ysgyfaint, neu wedi dechrau ymchwiliadau a allai fod wedi’i ganfod – hyd yn oed gyda budd ôl-ddoethineb. Er bod adolygiad wedi canfod diffygion yn safon cadw cofnodion y Practis, a gofynnwyd i’r Practis fyfyrio ar hynny, nid oedd hynny wedi effeithio’n glinigol ar y canlyniad i Ms B. Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn.