Dyddiad yr Adroddiad

02/14/2023

Achos yn Erbyn

Meddygfa Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202103937

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Ms E am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei chwaer, Ms D, gan y Practis rhwng mis Medi 2019 a mis Gorffennaf 2020. Dywedodd Ms E fod y Practis wedi:

• Methu â helpu i ddarparu dannedd gosod newydd i Ms D, gan gyfrannu at ei chyflwr maeth gwael adeg ei marwolaeth.
• Methu â rheoli meddyginiaeth Ms D yn ddigonol.
• Methu â thrin gorbryder Ms D yn ddigonol.
• Ni ymwelwyd â hi i asesu ei hanghenion.
• Rhoddwyd copi o gofnod meddygol ei chwaer i Ms E lle roedd gwybodaeth bwysig wedi cael ei golygu’n amhriodol.
• Derbyniwyd Ms D yn ddiangen i’r ysbyty ar 1 Gorffennaf 2020 yn groes i’w dymuniadau.
• Ymdriniwyd â chwyn Ms E yn wael, ac nid oedd ei ymatebion ysgrifenedig yn rhoi sylw llawn i’r cwestiynau a ofynnodd.

Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon unrhyw ran o gŵyn Ms E. Canfu nad oedd gan y Practis unrhyw rôl i’w chwarae o ran cael dannedd gosod newydd i Ms D. Roedd y Practis yn rheoli meddyginiaeth a phryder Ms D yn briodol. Eglurodd y Practis ei fod wedi golygu gwybodaeth i ddiogelu hawliau gwybodaeth pobl eraill yn unol â’r ddeddfwriaeth diogelu data berthnasol. Cafodd Ms D ei chyfeirio’n briodol i’r ysbyty am ei diogelwch ei hun ac roedd y ffordd roedd y Practis wedi ymdrin â chwyn Ms E yn foddhaol gan ei fod wedi ymateb i bob cwestiwn oedd yn berthnasol i’r Practis.