Dyddiad yr Adroddiad

02/06/2023

Achos yn Erbyn

Meddygfa Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202106759

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mr P fod y Practis wedi colli cyfleoedd i roi diagnosis o ganser ar ei groen mewn ymgynghoriadau ym mis Hydref a mis Tachwedd 2019.
Canfu’r Ombwdsmon y dylai’r Practis fod wedi gwneud atgyfeiriad arbenigol brys ar 13 Tachwedd 2019 ac y byddai hyn wedi arwain at ddiagnosis a thriniaeth gynharach o ganser y croen Mr P. Nid oedd yn bosibl dweud a fyddai canfod hynny yn gynharach wedi osgoi’r angen i Mr P gael llawdriniaeth ar ei wddf. Fodd bynnag, gwrthodwyd y cyfle realistig hwn iddo, a oedd yn anghyfiawnder sylweddol. Yn unol â hynny, cadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn.

Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Practis ymddiheuro i Mr P a thalu iawndal o £500 mewn perthynas â’r anghyfiawnder a achoswyd iddo. Gwnaeth argymhellion hefyd i sicrhau bod pob meddyg teulu yn y Practis wedi’u hyfforddi’n briodol i asesu niwed i’r croen a darparu cyngor dilynol priodol.
Roedd yr Ombwdsmon yn falch bod y Practis wedi cytuno i dderbyn yr argymhellion hyn.