Dyddiad yr Adroddiad

12/20/2022

Achos yn Erbyn

Canolfan Meddygol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202105884

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mr A am reolaeth a gofal ei ddiweddar fam (Ms B) a methiant y meddyg teulu i’w gweld wyneb yn wyneb pan ffoniodd a mynegi pryderon ynghylch colli pwysau a darnau gwyn dros ei deintgig a’i cheg. Roedd hefyd yn anfodlon â chadernid ymateb y Practis Meddyg Teulu i’r gŵyn.

Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon bod y methiannau clinigol gan y meddygon teulu wedi arwain at oedi cyn i symptomau parhaus Ms B gael eu hadolygu a’u hasesu’n briodol mewn ymgynghoriad wyneb yn wyneb. Canfu’r ymchwiliad fod yr oedi’n golygu nad oedd y Practis Meddyg Teulu wedi gwneud atgyfeiriad brys ag amheuaeth o ganser (“USC”) i dîm yr ên a’r wyneb yn yr Ysbyty. Nid oedd hyn yn cyd-fynd â chanllawiau clinigol. Canfu’r Ombwdsmon ddiffygion hefyd yn y modd yr oedd y Practis Meddyg Teulu yn cadw cofnodion, a oedd yn golygu nad oedd yr atgyfeiriad USC yn darparu darlun clinigol cyflawn o ran y galwadau ffôn yr oedd Ms B wedi’u gwneud i’r Practis Meddyg Teulu ynghylch ei symptomau. Gan nad oedd yn bosibl dweud a fyddai atgyfeiriad USC cynharach wedi newid canlyniad Ms B neu ei dewisiadau triniaeth, yr ansicrwydd hwn oedd yr anghyfiawnder i Ms B, Mr A a’r teulu. Nododd yr Ombwdsmon hefyd ddiffygion yn y modd y deliodd y Practis Meddyg Teulu â chwyn Mr A. Dyfarnwyd bod cwyn Mr A wedi’i chyfiawnhau.

Croesawodd yr Ombwdsmon y camau a gymerwyd gan y Practis Meddygon Teulu fel rhan o’r broses ddysgu o gŵyn Mr A i fynd i’r afael â’r methiannau o ran gofal clinigol a chadw cofnodion. Gofynnwyd i’r Practis Meddygon Teulu ymddiheuro i Mr A am y methiannau a dangos tystiolaeth o’r hyn a ddysgwyd o achos Ms B.