Dyddiad yr Adroddiad

10/04/2022

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202005709

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs A am ymgynghoriad gan feddyg teulu y tu allan i oriau (“OOHGP”) a gynhaliwyd ar 29 Chwefror 2020 yn y lleoliad preswyl (“y Lleoliad”) lle’r oedd ei mab, B, sydd ag anabledd dysgu, awtistiaeth, epilepsi ac anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd yn byw. Yn benodol, cwynodd am y canlynol:
• Casgliad yr OOHGP oedd nad oedd poen ei mab yn debygol o fod yn lid y pendics.
• Addasiadau rhesymol gan yr OOHGP a’r Gwasanaeth y Tu Allan i Oriau, yn enwedig yng nghyswllt cyfathrebu a rheoli poen.
• Delio â chŵyn.
Y diwrnod canlynol, cafodd ei mab ei dderbyn i’r ysbyty a’i ddiagnosio a’i drin ar gyfer llid y pendics.
Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon, ar ôl ystyried y dystiolaeth yn ofalus, fod casgliad dogfennol yr OOHGP bod gan B salwch dolur rhydd yn ddiagnosis credadwy yn seiliedig ar gyflwyniad clinigol B ar y pryd a bod yr OOHGP wedi cynnal asesiad digonol o B. Canfu’r Ombwdsmon, ynglŷn â’r dystiolaeth ddadleuol am yr hyn a drafodwyd drwy gyfrwng cyngor rhwydo/gwaethygu o ran diogelwch, hyd yn oed pe na bai’r OOHGP wedi rhoi’r cyngor rhwydo diogelwch a gofnododd ei fod wedi’i roi, nid oedd hyn yn effeithio ar y gyfres ddilynol o ddigwyddiadau, gan fod y Lleoliad wedi gweithredu’n gywir ac wedi gofyn am gymorth meddygol priodol y diwrnod canlynol. Er nad yw’r Ombwdsmon yn dymuno lleihau’r gofid sylweddol y gwnaeth y digwyddiadau hyn eu hachosi i B a’i rieni, daeth i’r casgliad, er hynny, nad oedd camau’r OOHGP yn afresymol ac na fyddent yn arwain at fethiannau yn y gwasanaeth ar sail safonau clinigol yr Ombwdsmon. Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon yr elfen hon o gŵyn Mrs A.

O ran addasiadau rhesymol, er bod yr Ombwdsmon yn cydnabod safbwynt Mrs A a’i phryderon na wrandawyd arni, ar y cyfan, ar ôl ystyried y dystiolaeth yn ei chyfanrwydd, daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod yr addasiadau a wnaeth yr OOHGP o ran trafod B gyda’i ofalwyr a Mr a Mrs A yn ddigonol. Ni chadarnhaodd yr elfen hon o gŵyn Mrs A.
O ran delio â chwynion, canfu’r Ombwdsmon fod oedi cyn darparu cofnod ymgynghori’r OOHGP i Mrs A cyn cyfarfod datrys lleol rhithiol gyda’r Bwrdd Iechyd. Roedd yr oedi hwn yn golygu nad oedd Mrs A wedi gallu paratoi ar gyfer y cyfarfod gyda’i Heiriolwr fel y byddai wedi dymuno ac roedd hyn wedi achosi anghyfiawnder iddi. I’r graddau cyfyngedig hyn yn unig, cadarnhawyd y rhan hon o gŵyn Mrs A.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro’n ysgrifenedig i Mrs A am y diffyg o ran delio â chwynion a’r oedi cyn darparu cofnodion meddygol yr OOHGP.