Dyddiad yr Adroddiad

10/21/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202103895

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X ei bod wedi cael ei derbyn i’r ysbyty am dair wythnos oherwydd diffyg triniaeth gan feddygfa a reolir gan y Bwrdd Iechyd ar gyfer haint ar ei brest oedd wedi arwain at hylifau’n lledu i’w chalon gan arwain at drafferthion anadlu. Cwynodd hefyd am y diffyg ymateb i’w chŵyn, a atgyfeiriwyd at y feddygfa gan yr Ombwdsmon ym mis Hydref 2020.

Penderfynodd yr Ombwdsmon, gyda chytundeb y Bwrdd Iechyd, y dylai Rheolwr y Feddygfa roi ymateb ysgrifenedig i gŵyn Mrs X (o fewn tair wythnos) a ddylai gynnwys ymddiheuriad am yr oedi a’r amryfusedd.

Roedd yr Ombwdsmon yn ystyried bod hyn yn datrys y gŵyn yn briodol yn lle cynnal ymchwiliad.